Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn recriwtio cydweithwyr celfyddydol newydd ac mae ei asiantaeth ryngwladol, Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn chwilio am rai rhyngwladol i lywio ein rhaglen waith.
Rydym ni’n cynnal nifer o raglenni, partneriaethau a phrosiectau yng Nghymru a thramor. Rydym ni o hyd yn ceisio cymorth arbenigol i gynnal ein presenoldeb mewn digwyddiadau a lleoedd pwysig dramor a rheoli partneriaethau. Bydd strategaeth ryngwladol newydd Cyngor Celfydddau Cymru’n cael ei lansio ar ddechrau 2019. Ynddi mae sôn am ymwneud â’r byd drwy’r celfyddydau a’u hymarfer mewn modd mwy cymdeithasol. Felly rydym ni am ehangu'r ymwneud rhyngwladol.
Os hoffech chi fod yn rhan o hyn, ymgeisiwch i fod yn Gydweithiwr Celfyddydol gan nodi eich diddordeb rhyngwladol, eich sgiliau a’ch profiad. Rydym ni’n chwilio’n benodol am:
Profiad o redeg prosiectau rhyngwladol gyda sawl partner
Sgiliau cyfathrebu da
Sgiliau adrodd/rheoli prosiect da
Profiad o reoli cyllideb
Medru ieithoedd eraill (ar ben y Gymraeg neu’r Saesneg)
Aelodaeth/cysylltiadau/rhwydweithiau rhyngwladol cryf
Profiad o gynhyrchu digwyddiadau a chydweithio
Profiad o drefnu ymweliadau rhyngwladol
Profiad o weithio mewn prosiectau aml-ddiwylliannol o fewn cymunedau rhyngwladol yng Nghymru
Profiad a gwybodaeth o gydweithio ag adrannau/asiantaethau Llywodraeth (lefel Cymru a Phrydain)
Gwybodaeth gref o'r sector celfyddydol Cymru/dramor
Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn bresennol yn niwrnod y Cyngor i ddarpar gydweithwyr celfyddydol ar 22 Ionawr (yn Abertawe) a 23 Ionawr (yn Wrecsam).
Am fwy o fanylion am ffioedd a cheisiadau, cliciwch yma.