Mae Walking Cities wedi paru awduron o India a Chymru a rhoi cyfle iddynt fynd ar daith i ddinasoedd cartref a rhanbarth ei gilydd a’u gweld trwy lygaid brodorol. Ym mis Tachwedd 2014, aeth Eurig Salisbury a Rhian Edwards i Mumbai i weld y ddinas trwy lygaid y beirdd Sampurna Chattarji a Ranjit Hoskote; ym mis Ionawr 2015, cafodd Jonathan Edwards a Joe Dunthorne ddarganfod Kolkata gyda Tishani Doshi a Jeet Thayil – fideo isod - yna cafodd yr wyth bardd aduniad yng Nghymru ym mis Mai, y tro hwn i ddarganfod y tirluniau dinesig ac arfordirol sydd wedi ysbrydoli ein beirdd Cymreig.

Arweiniodd y beirdd o Gymru deithiau cerdded ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Aberogwr, Porthcawl, Southerndown, Abertawe, Casnewydd a Thalacharn, ac fe ymunodd awduron ac arlunwyr lleol â nhw ar wahanol adegau i ddatgelu haenau a straeon cudd yr ardaloedd hyn. Ar ddiwedd yr ymweliad, teithiodd y beirdd i Lundain am brynhawn o ddarllen, trafod a cherddoriaeth yng Nghanolfan Southbank, City to City , fel rhan o Alchemy 2015.

Beirdd Cymreig:

Eurig Salisbury – bardd, academydd a chyn Bardd Plant Cymru; enillydd Medal Aur yr Eisteddfod Genedlaethol.

Joe Dunthorne – awdur o Abertawe, ysgrifennodd Submarine a Wild Abandon, ac yn fwy diweddar, llyfr o farddoniaeth.

Jonathan Edwards – bardd ac athro sy’n byw yn Crosskeys. My Family and other Superheroes yw ei gasgliad cyntaf o farddoniaeth a enillodd Gwobr Costa am Farddoniaeth 2015.

Rhian Edwards – bardd sy’n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Fe wnaeth ei chasgliad cyntaf, Clueless Dogs, ennill Llyfr y Flwyddyn yn 2013 ac roedd ar restr fer Gwobr Forward am Farddoniaeth.

 

Beirdd Indiaidd: 

Jeet Thayil – nofelydd, bardd, cerddor a beirniad yn Delhi. Roedd ei nofel, Narcopolis, ar restr fer Gwobr Man Booker 2012 a'r wobr DSC De-ddwyrain Asia am lenyddiaeth.

Ranjit Hoskote – bardd, curadur a damcaniaethwr beirniadol o Mumbai. Mae wedi ysgrifennu pum casgliad o farddoniaeth ac wedi cael ei gyhoeddi yn y DU yn The Anthology of Contemporary Indian Poetry.

Sampurna Chattarji – bardd Bengali toreithiog ac enwog, cyfieithydd a nofelydd yn Mumbai. Mae ei gwaith wedi cael ei gyfieithu i'r Gymraeg.

Tishani Doshi – Nofelydd, bardd a dawnsiwr a drig yn Chennai a chanddo fam Cymraeg a thad Gujarati. Mae wedi ennill Gwobr Eric Gregory am Farddoniaeth a Gwobr Farddoniaeth Forward.