Rydym yn aelodau o IETM – y Rhwydwaith Rhyngwladol ar gyfer y Celfyddydau Perfformio Cyfoes – sydd yn rhwydwaith o dros 450 o sefydliadau celfyddydau perfformio ac aelodau unigol yn gweithio yn y celfyddydau perfformio cyfoes yn fyd-eang, gan gynnwys theatr, dawns, syrcas, ffurfiau celf fyw ryngddisgyblaethol, a’r cyfryngau newydd.

Mae'r aelodau yn cynnwys gwyliau, cwmnïau, cynhyrchwyr, theatrau, canolfannau ymchwil ac adnoddau, prifysgolion, a chyrff sefydliadol.

Ym mis Medi 2018, cynhaliom gyfarfod lloeren i aelodau o rwydwaith IETM yn Llandudno o dan y teitl Meysydd Gweledigaeth: Lleisiau gwahanol, lleoedd gwledig, straeon byd-eang.