Dan Rees - Nomas Foundation - Road Back To Relevance 2016

Ymgynghoriad Strategaeth Rynglwadol Drafft i Gymru

Ymgynghoriad Strategaeth Rynglwadol Drafft i Gymru

Yn dilyn cyfnod o ymgynghoriaeth yn gynharach y flwyddyn hon, mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad eu Strategaeth Rynglwadol Drafft i Gymru.

Yn dilyn cyfnod o ymgynghoriaeth yn gynharach y flwyddyn hon, mae Llywodraeth Cymru wedi agor ymgynghoriad eu Strategaeth Rynglwadol Drafft i Gymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar y canlynol:

· cyfeiriad a ffocws strategol ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol;

· nodau strategol a meysydd o arbenigedd i hyrwyddo enw da Cymru a chodi ei phroffil;

· partneriaid rhanbarthol allweddol.

Roedd yr holiadur gwreiddiol yn ceisio barn ar sut y dylai Cymru gyflwyno ei hun yn rhyngwladol. Cafodd yr holiadur ei ddefnyddio i ddatblygu’r strategaeth ryngwladol newydd i Gymru.

Yn wreiddiol, bwriad Llywodraeth Cymru oedd cyhoeddi dogfen strategaeth derfynol yr haf hwn. Fodd bynnag, gyda phenderfyniad y Llywodraeth DU i ohirio Brexit tan 31 Hydref, a’r diffyg eglurder ynghylch natur perthynas dyfodol rhwng y DU ac UE, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu defnyddio’r adborth o’r chwe mis diwethaf i gynhyrchu strategaeth ddrafft ar gyfer ymgynghori yn lle.

Bu Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gweithio’n agos â’r sector gelfyddydol ar gyfer cydlynu ymateb ar gyfer yr ymgynghoriad gwreiddiol. Roedd yn gyfle i gynnig trosolwg o’r themâu a'r materion oedd wedi dod i'r amlwg yn sgil y trafodaethau hynny a thynnu sylw at destunau y gellid eu cynnwys yn y strategaeth.

Roedd hi hefyd yn gyfle i gyfathrebu ffyrdd y gallai’r strategaeth ehangu dull o weithio ac uchelgais newydd, gan sicrhau bod diwylliant Cymru'n cyrraedd ei botensial rhyngwladol.

Darllenwch yr ymateb yma: Strategaeth Ryngwladol Llywodraeth Cymru: Nodiadau tuag at bennod ar ddiwylliant

Mae Ymgynghoriad Strategaeth Ryngwladol Drafft i Gymru yn fyw ar-lein, gyda’r holl wybodaeth am sut i ymateb un ai drwy ffurflen ddigidol, drwy ebost neu drwy’r post. Mae hwn yn gyfle defnyddiol i gael mynegi eich barn ar y Strategaeth Ryngwladol, ac rydym yn annog sefydliadau ac unigolion o’r sector i gyfrannu i’r ymgynghoriad.

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 23 Hydref 2019.

Yn ôl i'r rhestr o newyddion

Cymru - Tsieina 2017

Thomas Martin - Stratum 50 - Open Books

India Cymru

Hay Festival Kerala

Patagonia 150

Patagonia - Marc Rees