Photo Steph Davies

Patagonia 150 - Cefndir

Yr hen wlad a’r Wladfa
Dyfnhau ein perthynas â’r paith i oroesi’r hanner can mlynedd nesa’

Cyflwyniad i flwyddyn o ddathlu gan Eluned Haf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

Bydd 2015 yn flwyddyn i ddathlu cant a hanner o flynyddoedd ers i’r Mimosa lanio ym Mhatagonia, Yr Ariannin gyda’i mintai o ffermwyr, athrawon, crefftwyr a glowyr oedd yn chwilio am fywyd gwell. Er mor arw fu’r daith, a mor anial fu’r tir yr ochr draw, mi lwyddodd yr arweinwyr, Michael D Jones a Lewis Jones, i sefydlu Colonia Galesa a hynny mewn amgylchiadau caled tu hwnt tra roeddent megis gwystlon mewn gêm o geowleidyddiaeth.

Mae’n hynod o beth fod y Cymry cynnar wedi goroesi ac yn fwy anhygoel fod y Gymraeg yn dal i’w chlywed ym Mhatagonia gant a hanner o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae’r berthynas ddiwylliannol rhwng Cymru a’r Ariannin cyn bwysiced heddiw, ac yn arbennig felly oherwydd yr hanes a’r geowleidyddiaeth ddiweddar.

Cefais y fraint o fyw yn y Wladfa yn helpu’r athrawon yn ysgol y Gaiman i ddysgu Cymraeg a Saesneg. Profiad a newidiodd fy mywyd oedd hwn. Yn ogystal â hanes yr hen Gymry a’r Archentwyr Cymraeg eu hiaith cyfoes cefais fy hudo a’m llesmeirio gan hanes creulon yr Ariannin, yr Indiaid a’r desaparecidos yn ystod y dictatura ac wrth gwrs, yn fwy diweddar, rhyfel y Malvinas.

Yn 1995 bûm yn byw am sbel yng nghartref y diweddar Tegai Roberts. Mor drist oedd clywed am ei marwolaeth a hynny ar drothwy’r dathliadau. Bydd colled enfawr ar ei hôl a dyletswydd arnom i geisio llenwi’r bwlch y mae’n ei adael.

Dros frecwast cawn fy nifyru gan hanes ei chyndeidiau a neiniau sy’n cynnwys sylfaenwr y wladfa, Michael D Jones a Lewis Jones, ac wrth gwrs un o addysgwyr pwysica’r Ariannin, Luned Morgan. Dros ginio drws nesaf yn nhy ei chwaer, Luned Gonzales, cawn oriau o drafod hanes a gwleidyddiaeth yr Ariannin gyda’r diweddar Gonzales, hanesydd o fri, gwr Luned a thad Fabio. Er fod hanes y Cymry a’r Gymraeg ym Mhatagonia yn unigryw i ni, roedd ein trafodaethau am hanes a gwleidyddiaeth yn ei gwneud yn glir i mi ei fod yn rhan bwysig o hanes mudo rhyngwladol sy’n gyfarwydd i ddiwylliannau ledled y byd ac yn ffynhonnell ddi-ddiwedd o storïau sy’n sbarduno celf o bob ffurf.

Roedd Tegai yn ddynes annwyl ac amyneddgar, hynaws a hyfryd a dreuliai oriau yn Amgueddfa Gaiman yn adrodd hanes y Wladfa i ymwelwyr di-ri (gan gynnwys nifer o artistiaid amlwg Cymru) ac eraill o bob cwr o’r byd. Er mor eiddil ei gwedd, roedd yn graig o wybodaeth ynglyn â phopeth sy’n ymwneud a’r Wladfa. Byddai’n darlledu yn wythnosol gyda’i chwaer Luned ar Radio Chubut. Ei mantra oedd hwyluso’r ffordd i siaradwyr Sbaeneg ac ymwelwyr ddeall hanes a diwylliant Cymreig y Wladfa a threuliai ei dyddiau yn helpu i drosgwlyddo’r dreftadaeth.

I ddathlu Patagonia 150 ac fel teyrnged i waith oes Tegai, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru yn falch o gefnogi prosiectau yng Nghymru a’r Wladfa fydd yn parhau â’r berthynas arbennig y tu hwnt i ddathliadau 2015.

Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Cysylltwch â Elen Roberts yng Nghelfyddydau Rhyngwladol Cymru am fwy o wybodaeth.

Ewch i www.patagonia150.org/ am ragor o wybodaeth ar ddigwyddiadau yng Nghymru ac yn yr Ariannin yn 2015.

Ewch i patagonia2015.com/enindex.html am ragor o wybodaeth.

Cymru - Tsieina 2017

Thomas Martin - Stratum 50 - Open Books

India Cymru

Hay Festival Kerala

Patagonia 150

Patagonia - Marc Rees