Mr & Mrs Clark

Grav

Grav gan Theatr y Torch

Cyflwynwyd yng Ngwyl Ymylol Caeredin 2015

Cynhyrchiad

Grav

Cwmni

Theatr y Torch

Lleoliad

Assembly Hall

Dyddiad

6, 8, 10, 12, 14, 16-17, 19, 21, 23, 26, 28, 30 Awst 2015

Amser

1.40yh

Cwmni Theatr y Torch sydd yn cyflwyno Gareth Bale fel ‘Grav’ mewn drama wedi ei hysgrifennu gan Owen Thomas sydd yn dathlu'r dyn a'r arwr. Gyda bendith Mari, gweddw Ray, a chyfraniadau oddi wrth aelodau o dimoedd Cymru a'r Llewod Prydeinig, mae'r sioe un-dyn yma yn ymchwilio i fywyd y dyn a oedd mor rhyfeddol ar y cae rygbi ag yr oedd oddi arno.

Theatr y Torch

Mae Theatr y Torch yn ganolfan celfyddydau cyfoes a dirgrynol yn Aberdaugleddau ac yn un o dair theatr cynhyrchu wedi ei selio mewn adeilad parhaol yng Nghymru (ochr yn ochr gyda Sherman Cymru a Chlwyd Theatr Cymru).

Mae’r Torch yn cynnig dros 900 o sioeau, ffilmiau, arddangosfeydd celf a darlleniadau byw yn flynyddol i dros 70,000 o bobl.

Mae cynyrchiadau Theatr y Torch wedi derbyn cymeradwyaeth enfawr gan gynnwys y Sioe Nadolig blynyddol, sydd wedi ei chyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr Artistig Peter Doran. Mae e hefyd wedi cyfarwyddo One Flew Over the Cuckoo’s Nest, The Turn of the Screw, The Hired Man, Neville’s Island, Abigail’s Party, The Little Shop of Horrors ac An Inspector Calls.

Cymru - Tsieina 2017

Thomas Martin - Stratum 50 - Open Books

India Cymru

Hay Festival Kerala

Patagonia 150

Patagonia - Marc Rees