Celfyddydau Rhyngwladol Cymru (CRhC), asiantaeth rhyngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, sydd yn arwain cyfnod cyntaf y prosiect mewn partneriaeth â Creative Scotland, Cyngor Celfyddydau Lloegr, a Chyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon.
Bydd Swyddog Gwybodaeth Celf y DU yn chwarae rhan pwysig yn sefydlu’r menter a bydd y prif bwynt cyswllt i bartneriaid, artistiaid a sefydliadau celfyddydol. Bydd y rôl ryngwladol bwrpasol yma yn helpu i sicrhau ein bod ni a'n cyd-asiantaethau ar draws y DU yn gallu cynorthwyo sefydliadau'r celfyddydau i ddenu artistiaid rhyngwladol i Gymru a'r DU, yn ogystal a chefnogi artistiaid sy’n gweithio’n rhyngwladol, o fewn fframwaith o Wybodfannau symudedd rhwydwaith artistiaid On the Move.
Bydd gan y rôl hon ystod amrywiol o gyfrifoldebau, yn cynnwys darparu gyngor a gwybodaeth i gydweithwyr, artistiaid a sefydliadau ar symudedd artistiaid i mewn i’r DU, trefnu achlysuron, yn helpu i ddatblygu deunyddiau ymarferol, casglu data a diweddaru tudalennau we. Gweler y disgrifiad swydd am wybodaeth fanwl.
Mae ein buddion yn cynnwys oriau/patrwm gwaith hyblyg, gwyliau hael a chynllun pensiwn. Am ragor o fanylion a ffurflen gais ewch i https://arts.wales/cy/newyddion-swyddi-chyfleoedd
Dyddiad cau: 09:00 y bore ar Ddydd Llun 15 Chwefror 2021
Cyfweliadau (trwy fideo): Dydd Mercher 24 Chwefror 2021
Dylid anfon ffurflenni cais at AD@celf.cymru
Noder, ni fydd CV yn cael eu derbyn.
Rhan amser, 22.2 awr yr wythnos
Cyfnod penodol, am 12 mis
Gradd C: Cyflog pro rata o £17,601 - £20,334 yn ddibynnol ar brofiad. (Yn hafal i £29,335 – £33,890 llawn amser)
Lleoliad: Hyblyg – gellir gweithio o unrhyw un o swyddfeydd Cyngor Celfyddydau Cymru
Gweithredwn Bolisi Cyfle Cyfartal ar recriwtio ac chroesawn geisiadau gan bob adran o'r gymuned yn y Gymraeg neu Saesneg. Ond, mae unigolion Du, Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig, anabl, a thrawsryweddol wedi’u tangynrychioli yng ngweithlu’r Cyngor Celfyddydau ac o’r herwydd byddem yn annog ceisiadau gan ymgeiswyr o’r grwpiau hyn sydd heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd mentora neu hyfforddiant yn cael ei ddarparu i berson penodedig o grwp heb gynrychiolaeth ddigonol yn ystod y cyfnod sefydlu, os bydd angen.