'Rwy’n dod o linell / o iachawyr y tir, ein cyrff / offrymau, bachau rhwng bydoedd.’

Ein Hadlais, Taylor Edmonds

Mae Ein Hadlais, sef cerdd ffilm newydd sydd wedi’i chreu a’i chyfarwyddo gen i, ac wedi’i pherfformio a’i choreograffio gan Jodi Ann Nicholson, yn adrodd stori hudol merch sy’n perthyn i’r ddynol ryw ond hefyd i fyd natur. Mae’r ddinas sydd mor annwyl iddi ar fin marw, ac mae hi wedi gadael y ddinas honno i ddychwelyd i fyd natur er mwyn helpu’r tir i iacháu. Drwy roi ciplun inni o’i gorffennol, rydyn ni’n dysgu mai dyma fu tynged llinach fenywaidd ei theulu erioed; maen nhw i gyd yn cael eu galw i ddychwelyd i fyd natur gan y môr, a hynny ar ôl cael breuddwyd am ddiwedd y byd.

Fy nghyfnod preswyl blwyddyn o hyd (2021-22) gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a sbardunodd y syniadau a roddodd fod i Ein Hadlais. Fe gefais i’r dasg o gyfleu hanfod Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol mewn ffordd greadigol, gan edrych ar sut y gallwn ni ddefnyddio’r celfyddydau i ysgogi newid diwylliannol, yn enwedig ym maes yr argyfwng hinsawdd. Fe ysgrifennais My Magnolia Tree, cerdd am yr effeithiau niweidiol posibl wrth i lefel y môr godi yng Nghymru. Fe weithiais gydag aelodau’r gymuned yn Llanrwst i ysgrifennu Ymgodi o’r Gaeaf, am realiti byw mewn lle sy’n dioddef o lifogydd difrifol, a darllenwyd hon yn rymus gan blant yr ysgol gynradd leol. Yn COP26, fe berfformiais Ceidwad Glannau’r Afon, sef cerdd a ysgrifennais yn ystod digwyddiad am ymgyrchu a gwrthsafiad y gymuned yn wyneb y newid yn yr hinsawdd.

Fe ddysgais gymaint yn ystod fy nghyfnod preswyl, gan gadarnhau grym a gallu barddoniaeth fel ffurf gelfyddydol sy’n gallu codi ymwybyddiaeth, newid meddyliau pobl, a phryfocio. Mae gan farddoniaeth y gallu i roi elfen ddynol i straeon a chreu empathi mewn ffordd nad yw ffeithiau, ffigurau ac adroddiadau’n gallu ei wneud. Fe gefais i adborth gan bobl a oedd wedi dod yn ymwybodol o faterion sy’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd yn sgil y cerddi roeddwn i wedi’u creu, neu bobl oedd wedi dechrau gweld y pethau hyn mewn goleuni newydd. Wrth annog pobl i ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd, daeth hi’n amlwg bod yn rhaid i bobl ddeall eu rhan nhw yn hynny a deall gwerth byd natur. Fe allai hyn olygu sylweddoli mai o fyd natur rydyn ni’n hanu, ac allwn ni ddim byw hebddo. Fe allai hefyd olygu sylweddoli effaith byd natur ar iechyd ac ar iacháu.

Yn Ein Hadlais, roeddwn i eisiau trin a thrafod y syniadau hyn mewn ffordd greadigol. Mae’r gerdd yn ceisio creu mytholeg ynghylch y cysylltiad rhwng y ddynol ryw a byd natur, a hynny drwy ddelweddau hud a lledrith a delweddau breuddwydiol.

Er fod gen i brofiad o greu fideos o fy marddoniaeth, gwneud hynny drwy berfformio i gamera y bydda’ i gan amlaf. Hwn oedd y tro cyntaf imi ymgolli’n llwyr yn y broses o greu cerdd ffilm; o’r cysyniad, i’r cyfeiriad creadigol, i’r pethau ymarferol wrth gynhyrchu, i roi sglein wrth ôl-gynhyrchu. Mae pobl yn aml yn meddwl am ysgrifennu fel profiad rhamantus, unig; bydd rhywun yn eistedd ar ei phen ei hun wrth ddesg a bydd y geiriau’n llifo drwy wyrth. Mewn gwirionedd, mae’r ysbrydoliaeth rwy’n ei chael drwy gydweithio â phobl eraill yn sbardun yr un mor bwysig i fy ysgrifennu.  Fe wyddwn i o’r dechrau’n deg fy mod i eisiau gweithio gyda dawnsiwr, felly fe gysylltais â Jodi ar ôl i’w gwaith fy ysbrydoli ers tro byd. Fe wnaethon ni dreulio amser yn y stiwdio gyda’n gilydd, a mynd am dro hir i chwilio am leoliadau ar hyd arfordir Llanilltud Fawr, lle dechreuodd y syniad a oedd wedi bod yn rhywbeth bras yn fy mhen ddwyn ffrwyth a throi’n rhywbeth pendant.   

Fe wnaethon ni drafod pwysigrwydd byd natur i ni’n bersonol, yn ein bywydau a’n hatgofion. A ni’n dwy wedi ein hysbrydoli gan y llinynnau cyswllt rhwng mytholeg a byd natur yn chwedlau Cymru, drwy dduwiesau fel Blodeuwedd a Cheridwen, fe drafodon ni sut gymeriad fyddai merch sy’n pontio’r bwlch rhwng bodau dynol a byd natur – sut y byddai hi’n edrych, yn teimlo ac yn symud. Roedd modd bwrw ymlaen â’r prosiect yn sgil ein cyffro ni’n dwy a’n brwdfrydedd ynghylch y stori a sut y bydden ni’n cyfuno ein hymarfer i greu rhywbeth hudolus. 

Mae presenoldeb y môr yn ganolog i Ein Hadlais. Yn yr wythnosau cyn dychwelyd i fyd natur o’r ddinas, mae’r cymeriad sy’n llefaru yn clywed y môr yn ‘troi a throsi, yn cwyno. Wrth gofio sgwrs a gafodd â’i mam-gu, rydyn ni’n dysgu bod y menywod yn ei theulu i gyd yn cael eu galw i iacháu’r tir yn yr un modd, ar ôl cael breuddwyd dreisgar am ddiwedd y byd ar eu pen-blwyddi yn un ar bymtheg. Mae ei mam-gu yn dweud wrthi: ‘Ar y funud olaf, pan wyt ti ar fin / rhoi‘r gorau iddi, bydded di’n clywed / newyn y môr. / Cer i dendio’i hiraeth, / mae gen ti rywbeth sydd angen arni.’

Mae’r môr wastad wedi bod yn ysbrydoliaeth i mi, a minnau wedi fy magu yn nhref glan-môr y Barri.Mae rhywbeth am ei lonyddwch tawel, am ei ddirgelwch mawr. Cafodd Jodi a minnau ein hysbrydoli gan ei symud parhaus; gan fynd a dod y llanw; gan lif y dŵr yn crychdonni; a gan sut y gallen ni adlewyrchu hyn yn y ffilm. Fe wnaethon ni benderfynu ffilmio ar hyd arfordir traeth Llanilltud, sy’n llawn clogwyni igam-ogam ac ogofâu. Roedd hynny’n ein galluogi ni i gyflwyno golygfeydd amrywiol, o lan y môr i ddarn o goedwig, a’r cyfan o fewn tafliad carreg i’w gilydd.

Mae’r gerdd yn gorffen ar ddibyn clogwyn, lle mae’n cysylltu yn ôl â mam-gu’r cymeriad. Y llinellau clo yw: ‘Rwy’n meddwl am fy mam-gu, / wedi ei suo fel y llanw / i ddychwelyd i’r lle ‘ma. / Mae gen i lun, neu gof, / neu freuddwyd; rwy’ ar ei hysgwyddau / ar ddibyn y clogwyn, yn pwyso mewn i’r gwynt / a dyma ni, dyma ni, dyma ni.’

Yn y llinellau hyn, roeddwn i eisiau darlunio’r cysylltiad emosiynol â’r arfordir yn ein hatgofion, a’i bwysigrwydd ar hyd y cenedlaethau. Mewn rhai ffyrdd, fe all y byd newid, ond aros fydd y môr. Fe alla’ i fynd i’r traeth ac o’r un man, edrych ar yr un môr ag yr edrychodd fy hen fam-gu a’m hen dad-cu arno cyn i mi gael fy ngeni. Rwy’n cofio’r adegau a dreuliais i’n eu cwmni’n torheulo, ac yn bwyta brechdanau llwythog o gaws a menyn. Yn hyn o beth, mae i’r môr bwysigrwydd sentimental i mi, ac mae’n fodd o gadw’r atgofion hynny’n fyw.

Yn ddiweddar, fe gyhoeddais i fy mhamffled barddoniaeth cyntaf, Back Teeth, gyda Broken Sleep Books. Yn y digwyddiad lansio yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, rhoddodd Jodi a minnau gip i’r gynulleidfa o Ein Hadlais ar ffurf perfformiad byw. Roedd y ffordd y mae ei symudiadau hi’n cryfhau fy ngeiriau i, ac yn yr un modd y berthynas rhwng fy ngeiriau i a’i symudiadau hi, yn fy atgoffa o’r gwaith ysbrydoledig y mae modd ei greu drwy gydweithio, a hynny ym mhob cam o’r broses greadigol hyd at y cynnyrch terfynol.

Pan fydd pobl yn gwylio Ein Hadlais, rwy’n gobeithio y byddan nhw’n uniaethu mewn rhyw fodd ac yn ymgolli yn hud y stori. Rwy’n gobeithio y bydd yn teimlo’n dywyll ac yn brydferth ac yn annog pobl i feddwl am werth y byd natur sydd o’u cwmpas nhw yn eu bywydau eu hunain. Diolch o galon i Celfyddydau Rhyngwladol Cymru am wneud y ffilm yn bosibl ac i’m cydweithwyr talentog, Jodi Ann Nicholson, Josh Hopkin, Hannah Andrews, Nia Morais a Luna Tides Productions. Fe wnaeth pob un ohonyn nhw’r profiad yn un cwbl werth chweil.

Ein Hadlais - Taylor Edmonds

Rwy’n dychwelyd.
Y ddinas rwy’n ei garu bellach yn adlais,
yn tagu ar ei fwg ei hun.
Air lludw, traffig gwyllt,
esgyrn sgleiniog yr awyrgrafwyr
yn cwympo i ddarnau wedi popeth.

O’n i’n gwybod ‘swn i’n cael fy ngalw
at gaeau cnawdol fy nghorff.
Clywais y grwnian,
teimlais eu sychder yn y gwres.
Am wythnosau, clywais
y môr yn troi a throsi, yn cwyno.

Rhoddaf fy nghlust i’r pridd du
ac mae’r ddaear yn hymian yn ôl.
Tynnaf hadau o fy mhen,
ffosydd a sychwyd gan yr haul.

Y tro cyntaf dywedodd fy mam-gu
ein bod ni’n wahanol, roedd hi’n brwsio
fy nghyrlau ystyfnig yn y drych,
bobbles rhwng ei dannedd er mwyn plethu.

Ar dy ben-blwydd yn 16, bydded di’n breuddwydio
bod y byd yn dod i ben. Bydded di’n gwylio
wrth i bopeth troi o wreichion i fflam,
wrth i’r awyr troi’n aur gyda dicter.

Mae dy fam a fi, fy mam
a'i mam hi hefyd wedi brwydro
trwy’r un un freuddwyd.
Ar y funud olaf, pan wyt ti ar fin
rhoi‘r gorau iddi, bydded di’n clywed
newyn y môr.
Cer i dendio’i hiraeth,
mae gen ti rywbeth sydd angen arni.

Dechreuais i sylwi. Glaw'r bore,
teimlais y pridd diolchgar yn gwledda,
fy mreichiau’n drwm gyda phwys newydd.
Clywais y coed yn cynllunio goroesiad,
a griddfan isel y gwreiddiau’n cropian yn ddyfnach lawr.

Deffrais yn y nos i bigiad
coesynnau ffres yn brathu fy asgwrn cefn,
tagais ar adenydd gwas y neidr,
dal i ymestyn, yn barod i hedfan.

Tra dysgodd fy ffrindiau i siafio
gwallt newydd ar eu coesau
gyda sebon a llafn,
roedd fy nghroen i’n crychu dan glytiau
O fwsogl a chen.
Clywais eu sibrydion yn fy ngwacter;
fy ngwallt llithrig a’i olion gwyrdd,
arogl llwydni, gwyddfid, llosg.

Y ddinas, magwyd gan y môr llwglyd,
teimlodd fy stumog ei chnoad.
Nawr rwy’n rhoi fy llaw mewn i ewyn-hallt
y dŵr. Mae’n lapio croen
fel hen ffrind. Gofalwr,
rwy’n gadael iddo fy llusgo, fy mhlygu.

Be sydd ar ôl mewn dinas amddifad?
Cymrwn ni’r lle yn ôl yn dawel,
carreg yn blaguro, gwreiddiau
yn dymchwel y palmant.

Rwy’n dod o linell
o iachawyr y tir, ein cyrff
offrymau, bachau rhwng bydoedd.
Rwy’n meddwl am fy mam-gu,
wedi ei suo fel y llanw
i ddychwelyd i’r lle ‘ma.

Mae gen i lun, neu gof,
neu freuddwyd; rwy’ ar ei hysgwyddau
ar ddibyn y clogwyn, yn pwyso mewn i’r gwynt
a dyma ni, dyma ni, dyma ni.