Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, 22 Awst 2022

Fel rhan o raglen gyffredinol Cymru Fenis 10, mae Artes Mundi’n cynnig cyllid ar gyfer tri chomisiwn bach. Mae’r rhain yn eistedd ochr yn ochr â chyfres arall o gomisiynau i’w cynnig gan Gelfyddydau Anabledd Cymru ynghyd â’r deg Cymrodoriaeth a weinyddir gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Mae’r comisiynau ar gyfer artistiaid gweledol Cymreig ac sy’n byw yng Nghymru fel cefnogaeth tuag at ddatblygu a chynhyrchu prosiect/ gwaith celf newydd. Gall y rhain fod yn syniad rydych chi eisoes wedi dechrau ei ystyried neu gallai hyn gynnig y cyfle i wireddu gwaith y mae ei gwmpas a’i uchelgais yn gofyn am gyfraniad ariannol y tu hwnt i’ch amgylchiadau presennol. Does dim rhaid i chi fod ag unrhyw arddangosfa neu allbwn cyhoeddus sydd eisioes yn eu lle i fod yn gymwys i’r cyfle hwn ond mae cyllid ychwanegol ar gael os oes angen cymorth mynediad i alluogi cynulleidfaoedd/ cyfranogwyr i ymgysylltu â’r gwaith naill ai fel rhan o’i gynhyrchu neu ar ffurf rhyw fath o allbwn cyhoeddus neu gyflwyniad terfynol.