Mae'n bleser i gyhoeddi bod Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ynghyd â British Council Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru, yn cefnogi 6 prosiect newydd trwy'r gronfa Cysylltiadau Drwy Ddiwylliant: India-Cymru.
 

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth a Dream a Dream
Prosiect cydweithio creadigol rhwng Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth, sy’n cynhyrchu a chyflwyno gwaith ar draws holl ystod y celfyddydau, a Dream a Dream, menter yn Bangalore yn India sy’n gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau.

Oriel Gelf Glynn Vivian a’r Oriel Wyddoniaeth yn Bangaluru
Bydd y prosiect yma’n archwilio celfyddyd a diwydiant yn India a Chymru. Bydd Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe, De Cymru, yn cydweithio gyda sefydliadau ac unigolion yn India; Oriel Wyddoniaeth Bengaluru, canolfan ar gyfer tanio diddordeb pobl ifanc mewn gwyddoniaeth a’r celfyddydau, Cymdeithas Amgueddfeydd Mumbai (dan ofal Pheroza Godrej), a’r hanesydd celf, Zehra Jumabhoy.

Jonny Cotsen ac Access For ALL
Bydd y perfformiwr byddar a’r ymgynghorydd creadigol o Gymru, Jonny Cotsen, yn cydweithio gyda Access For ALL, ymgynghoriaeth ar gyfer hygyrchedd yn y celfyddydau yn India. Gyda’i gilydd byddant yn datblygu ‘Maniffesto ar Gyfer Celf Hygyrch’ (Manifesto for Accessible Art - MAAF) a fydd yn gosod hygyrchedd fel prif flaenoriaeth wrth gynllunio gŵyl gelfyddydau, gynhwysol i bawb, yn dathlu artistiaid a chynulleidfaoedd ag anableddau.

Kaite O’Reilly a Navtej Singh Johar
Mae Kate O’Reilly yn ddramodydd, dramodydd radio, sgwenwr a dramatwrg o Gymru sy’n gweithio ym maes celfyddydau a diwylliant anabledd a diwylliant prif ffrwd. Bydd yn cydweithio ar y prosiect yma gyda’r coreograffydd nodedig o India, Navtej Johar.

Wales Arts Review a Meta Arts  
Mae Intercut Labs yn fenter ymchwil ar y cyd rhwng Wales Arts Review, gwefan adolygu’r celfyddydau, a Meta Arts, sefydliad celfyddydol yn India sy’n arbenigo mewn gwaith rhyngwladol. 
 

Darllenwch mwy am bob prosiect yma.