Ar gyrch i ddod o hyd i gath goll duw chwareus, mae milwr o fampir, tylwythen deg maint dyn, a sgerbwd dewin siriol yn crwydro drwy ddwnsiwn tywyll – gan ddilyn cwmpas sydd wedi torri, i bob golwg. Wrth gyrraedd siambr laith, yn llawn ffyngau bioymoleuol, daw’r criw i gwrdd â gwinwydd rheibus a chreaduriaid madarchlyd sy’n freichiau ac yn goesau i gyd, a’r rheini’n lloerig o gael eu deffro. Yn y frwydr sy’n dilyn, mae popeth yn mynd yn dywyll fel bol buwch wrth i’r rhwydwaith bioymoleuol ddiffodd. Mae’r dylwythen yn defnyddio’i ffon hud fel tortsh, mae’r sgerbwd yn creu pelen dân ar ei fysedd i oleuo’r ffordd, ac mae’r fampir yn troi atyn nhw a’i lygaid yn fflachio, gan ddweud, “Mae fy nheip i wrth ei fodd yn y tywyllwch!” 


Na, nid stori fer mo hon, na chartŵn bore Sadwrn. Dyma ddisgrifiad o olygfa sydd wedi’i chreu ac sy’n cael ei rhedeg gan un o’n Cynhyrchwyr Creadigol Iau yn ein rhaglen gyfnewid ddiwylliannol, a’n gêm chwarae rhan ar-lein, Trickster’s Net.  


I bobl nad ydyn nhw’n gyfarwydd â gemau chwarae rhan traddodiadol, gweithgaredd yw hwn sy’n cyfuno adrodd straeon creadigol a phrofiad gêm wedi’i seilio ar reolau. Yn draddodiadol, ar fwrdd y byddai’r rhain yn cael eu chwarae, gyda phapur a phensel, deis, mapiau neu hyd yn oed finiaturau. Daethon nhw’n boblogaidd yn wreiddiol yn yr 1980au. Bu adfywiad yn eu poblogrwydd yn y cyfnod diweddar, gyda gemau mawr fel Dungeon and Dragons yn gwerthu niferoedd anferth, ond ceir hefyd sîn gemau chwarae rhan ‘indie’, a honno’n arloesol ac yn gyffrous. Yn y blynyddoedd diwethaf (ac yn enwedig dros y cyfnod clo), mae’r hobi wedi symud ar-lein, gyda chynulleidfaoedd yn gwylio gemau chwarae rhan ar safleoedd ffrydio poblogaidd, a phobl yn eu chwarae gan ddefnyddio fideo o bell, sgyrsiau testun, a hyd yn oed fyrddau rhithwir ar adegau. 
 

Dau hwylusydd gemau (Barnaby Dicker a Tom Burmeister), a hwythau’n gweithio mewn gwledydd gwahanol, sydd wedi creu Trickster’s Net. Y nod yw dod â phobl o wahanol wledydd ynghyd er mwyn cymryd rhan amlwg yn y broses o greu gemau chwarae rhan ‘indie’, heb ormod o reolau. Gan ddefnyddio technoleg fideo o bell, rydyn ni wedi gallu cynnal hyd at 4 sesiwn gemau yr wythnos gyda grwpiau sy’n cynnwys cyfuniad o gyfranogwyr o’r Almaen a Chymru. Rydyn ni’n cynnal trafodaethau bord gron bob pythefnos am ddylunio a chreu bydoedd, er mwyn datblygu gwahanol feysydd yn y gêm, ac rydyn ni newydd gynnull ein Panel Proffesiynol cyntaf, gyda ffigurau amlwg gwadd o’r sîn yn rhoi cyngor doeth i’n Cynhyrchwyr Creadigol Iau. Yr amcan yn y pen draw yw creu cynnyrch gêm chwarae rhan am ddim, ar-lein, ar y platfform gemau, Itch.io, a hynny yn Gymraeg, Saesneg ac Almaeneg. Mae’n anrhydedd gallu cynnal prosiect o’r fath gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru ac fel rhan o flwyddyn Cymru yn yr Almaen 2021. Rydyn ni’n gobeithio bod yn esiampl ar gyfer gwneud gweithgareddau rhyngwladol sy’n defnyddio technoleg o bell yn llwyddiant.  


Wedi’i gosod mewn aml-fysydawdau ffantasi sydd wedi’u chwalu a’u rhoi yn ôl ynghyd gan y Trickster ei hun, mae’r gêm wedi’i dylunio i alluogi’r ‘GM’ (Meistr y Gêm: y sawl sy’n gyfrifol am redeg y sesiwn, ac i bob pwrpas yn chwarae rhan y byd a’r adroddwr) i ddefnyddio unrhyw beth dan haul yn ei gêm, a gall cymeriadau’r chwaraewyr eraill ddod o gefndiroedd yr un mor amrywiol. Mae’r system yn dibynnu’n drwm ar fyrfyfyrio storïol a rowlio ar fyrddau ar hap (dychmygwch daenlen ac arni ganlyniadau dis ar un ochr). Dylai’r system hefyd olygu bod gwaith y GM yn symlach, heb fod angen prin ddim paratoi, os o gwbl. 
 

Mae hyn wedi’i wreiddio yn rhan o strwythur y prosiect, gyda Chynhyrchydd Creadigol Iau gwahanol yn chwarae rhan GM pob grŵp ym mhob sesiwn, gan ddatblygu ar syniadau’r GM diwethaf neu drwy delegludo chwaraewyr i fyd newydd sbon maen nhw wedi’i ddylunio’u hunain – a phopeth yn y canol. Mae dau gymhelliad wedi bod yn ganolog i’r prosiect – trosglwyddo awduraeth y prosiect i’r bobl ifanc er mwyn iddyn nhw allu cyflwyno mecanweithiau newydd a datblygu ffuglen y gêm, ac annog cyfathrebu rhwng diwylliannau, boed drwy ddiwylliant modern cyffredin pobl ifanc heddiw, neu drwy hen fytholeg Ewropeaidd gyffredin a’i harchdeipiau. 
 

Rydyn ni wedi gweld llwyau caru Cymreig, Gwyllgi, a Seigfried y Lladdwr Dreigiau yn ymddangos yn ein straeon hyd yma, a does dim dwywaith y byddwn yn cael ychwanegiadau diwylliannol cyffrous dros yr wythnosau nesaf. Ar ôl egwyl fer dros yr haf, bydd ein hartist Max Hartley yn arwain trafodaeth am ei ddarluniau ar gyfer y prosiect, gyda’r gobaith o gynnwys rhai o gymeriadau a straeon gwych ein Cynhyrchwyr Creadigol Iau. A ninnau bron union hanner ffordd drwy’r prosiect, rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at weld sut y bydd byd a dyluniad y gêm yn datblygu.  


Mae prosiect Trickster’s Net wedi'i gefnogi gan nawdd drwy Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol 2021-22, A2: Criw Celf, a gan Stadt Kempten Culture Fund, mewn partneriaeth â Stadtjugendring Kempten.