Mae Cyngor Celfyddydau Cymru yn dymuno pob llwyddiant i bob artist a thîm sy'n cymryd rhan yn yr Arddangosfa Gelf Ryngwladol, Biennale Fenis (23 Ebrill-27 Tachwedd 2022).

Ers 2003 mae Cymru yn arddangos yno’n rheolaidd. Ond eleni ataliwn dros dro ein presenoldeb yno i ailystyried ein hagwedd tuag at y Biennale a'r hyn y mae'n ei olygu i Gymru.

Mae gweithio'n rhyngwladol yn bwysig i ni ac i gelfyddydau gweledol Cymru. Rydym o hyd â ffocws uchelgeisiol ar ein cynulleidfaoedd lleol a byd-eang. Ond rhaid wynebu sawl cwestiwn am weithio'n rhyngwladol, ehangu ymgysylltiad ac ymateb i'r argyfwng yn yr hinsawdd.

Felly ym Mai cyhoeddwn raglen newydd, Cymru Fenis 10, a fydd yn gyfle i’n celfyddydau gweledol archwilio syniadau. Bydd yn fodd i greu celf newydd a chefnogi twf ein hartistiaid. Bydd yn ffordd wahanol o ddathlu ein degfed siwrnai gyda’r Biennale. Ein nod yw torri cwys newydd yn 2022 ar gyfer dyfodol gwell.