Mae Cyngor Celfyddydau Cymru  yn falch o gyhoeddi eu bod yn un o dderbynwyr Cronfa Cefnogi Partneriaid Llywodraeth Cymru i ddathlu Cymru yng Nghwpan y Byd FIFA. Yn ôl y Llywodraeth bydd y prosiectau a gefnogir yn helpu i “ddangos gwerthoedd ein cenedl a gweithio i sicrhau etifeddiaeth gadarnhaol a pharhaol i Gymru a phêl-droed Cymru”.

Mewn partneriaeth ddigynsail rhwng Cymdeithas Bêl-droed Cymru a Chyngor y Celfyddydau, bydd y gronfa yn ein galluogi i gyflawni dau brosiect allweddol mewn partneriaeth â’r Gymdeithas Bêl-droed, sef penodi Cynhyrchydd Celfyddydol, a sefydlu cronfa ariannu ychwanegol i gefnogi celfyddydau cymunedol.

Wrth siarad am bwysigrwydd dod â’r celfyddydau a phêl-droed at ei gilydd, dywedodd Cyfarwyddwr Anweithredol Annibynnol y Gymdeithas Bêl-droed, Dr Carol Bell:

“Mae Cymru yn genedl amlieithog fodern gyda diwylliant amrywiol, agored, cynhwysol a chroesawgar. Mae ganddi ddiwylliant llenyddol a cherddorol bywiog sy’n creu actorion, cantorion, awduron a darlledwyr enwog rhyngwladol. Pan fydd y pêl-droed yn dechrau yn Qatar, gallwn edrych ymlaen at ddigwyddiadau diwylliannol yn ein cymunedau a fydd yn destun eiddigedd y byd. Mae’r genedl wedi’i hysbrydoli gan ein tîm ac rydym i gyd yn aelodau o’r Wal Goch nawr!”

Mae Cyngor y Celfyddydau a’r Gymdeithas Bêl-droed yn falch o gyhoeddi bod Nick Davies, gweithiwr proffesiynol profiadol yn y celfyddydau ac aelod balch o’r Wal Goch, wedi’i benodi i rôl Cynhyrchydd Celfyddydol.

Bydd Nick yn gweithio’n agos gyda’r Gymdeithas Bêl-droed ar Gŵyl Cymru, gŵyl gelfyddydol a diwylliannol 10 diwrnod mewn lleoliadau ledled y wlad sy’n cychwyn ar 19 Tachwedd. Bydd y Gronfa Cefnogi Partneriaid yn galluogi Cyngor y Celfyddydau i gynnig cymorth i leoliadau a sefydliadau i ddatblygu eu rhaglenni artistig eu hunain.

Dywedodd Nick Davies:

“Mae Cwpan y Byd yn foment bwysig i Gymru – ar y cae, ac yn ddiwylliannol. Dyma gyfle i’r celfyddydau allu gweithio gyda’n cymunedau lu, i adlewyrchu ysbryd Y Wal Goch, a chefnogi ein pêl-droedwyr trwy gyfrwng creadigol. Rydym eisoes yn cynllunio digwyddiadau anhygoel ac rydym yn gwahodd eraill i fbod yn rhan o Ŵyl Cymru.

Mae gweledigaeth Y Gymdeithas Bêl-droed ar gyfer yr ŵyl hon yn un sy’n cael ei rhannu gan Gyngor y Celfyddydau: “Trwy greu gofodau a chyfleoedd i bobl ddod at ei gilydd i ddathlu llwyddiant chwaraeon y tîm cenedlaethol, bydd Gŵyl Cymru hefyd yn cyflwyno cynulleidfaoedd newydd i gelfyddyd, diwylliant ac iaith Cymru – gan sicrhau etifeddiaeth ddiwylliannol i Gwpan y Byd FIFA 2022.”

Yn ogystal, bydd y gronfa yn ychwanegu gwerth at gronfa arbennig sydd gan Gyngor y Celfyddydau sydd ar agor tan 10 Hydref ar gyfer prosiectau Cwpan y Byd. Golyga hyn y gallwn estyn allan yn ehangach, yn enwedig wrth gefnogi lleoliadau llai sy'n gwasanaethu cymunedau llawr gwlad.

Bydd pwyslais y cymorth hwn ar ehangu cyfranogiad, a chefnogi prosiectau a gweithgareddau llawr gwlad sy'n dod â'r celfyddydau a chwaraeon at ei gilydd.

DIWEDD                     Llun 3 Hydref 2022