Yn dilyn cyhoeddiad Cymru fel partner rhyngwladol ochr yn ochr â Llydaw yn Showcase Scotland 2023, mae Tŷ Cerdd, Trac Cymru a Focus Wales mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru yn cynnal galwad ar y cyd i artistiaid wneud cais i berfformio yn y digwyddiad yn Glasgow fis Ionawr nesaf.

Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: 5pm, Dydd Gwener 22 Gorffennaf 

Bydd y partneriaid yn cynnal sesiwn wybodaeth ar-lein ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn gwneud cais am 5pm ar 14 Gorffennaf. Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn yma.

 

Beth yw Showcase Scotland yn Celtic Connections?

Arddangosfa a ffair fasnach i’r diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol yw Showcase Scotland; mae’n para 5 diwrnod ac yn cael ei gynnal bob blwyddyn yn ystod gŵyl Celtic Connections yn Glasgow. Bydd digwyddiad 2023 yn gyfle i gerddorion a’u timau rheoli rwydweithio gyda gweithwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol, a datblygu eu gyrfaoedd a’u busnesau. Mae’n dilyn Showcase Scotland 2022, a oedd wedi rhoi llwyfan digidol i 6 act o Gymru yn ystod Spotlight Cymru Wales. 

Gŵyl flynyddol fawr yw Celtic Connections sy’n llwyfannu cerddoriaeth werin, cerddoriaeth wreiddiau a cherddoriaeth y byd. Mae’n dathlu cerddoriaeth Geltaidd a’i chysylltiad â diwylliannau o amgylch y byd, ac yn cael ei chynnal mewn lleoliadau ledled Glasgow yn ystod mis Ionawr.

Cyhoeddwyd Cymru fel cyd-bartner ar gyfer 2023 yn ystod seremoni gloi Showcase Scotland ar 4 Chwefror 2022, lle diolchodd Eluned Hâf (Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru) i dimau Showcase Scotland a Celtic Connections a chroesawodd y cyfle i gydweithio â chyfeillion a chymdogion agos yn Llydaw dros y flwyddyn nesaf. Dywedodd, “Ein bwriad o’r dechrau oedd y byddai cydweithio agosach rhwng partneriaid yng Nghymru a’r Alban a mwy o gyfleoedd i groesawu artistiaid Albanaidd i Gymru yn waddol parhaol i’n partneriaeth â Showcase Scotland yn 2022. Fodd bynnag, rydym wrth ein boddau y bydd rhannu’r llwyfan gyda Llydaw yn 2023 yn dod â chyfleoedd i ddyfnhau cysylltiadau amlochrog gyda’n cefndryd Celtaidd, ac i gydweithio â’n cyd-asiantaeth Spectacle Vivant en Bretagne.”

Gwyliwch rhaglen 'Gwyl Cwlwm Celtaidd: Blwyddyn Cymru' S4C i ddarganfod mwy am yr hyn y gwnaeth artistiaid Cymru yn Showcase Scotland a Celtic Connections 2022.