Gŵyl Ymylol Caeredin yw gŵyl gelfyddydau fwyaf y byd. Mae Cymru yng Nghaeredin yn arddangosfa wedi’i churadu sy’n hyrwyddo’r gorau o’r byd theatr, dawns a syrcas yng Nghymru. Gweledigaeth y rhaglen yw defnyddio Gŵyl Ymylol Caeredin nid fel cyrchfan ond fel platfform sy’n galluogi ein sefydliadau celfyddydol a’n gweithwyr creadigol proffesiynol i wireddu eu huchelgeisiau rhyngwladol.

Bydd cynulleidfaoedd, rhaglenwyr, hyrwyddwyr a chynhyrchwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig a’r byd yn bresennol yn yr ŵyl. Rydyn ni’n credu bod gan ein cwmnïau a’n gweithwyr creadigol proffesiynol ym maes y celfyddydau perfformio ansawdd Gymreig unigryw a all lwyddo ar raddfa fyd-eang.

Mae Cronfa Cymru yng Nghaeredin 2022 yn gyfle cyllido ychwanegol sy’n cefnogi cwmnïau a gweithwyr creadigol proffesiynol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru ac sy’n gweithio ym maes y celfyddydau perfformio i gynhyrchu a chyflwyno eu gwaith yng Ngŵyl Ymylol Caeredin 2022.

Rydyn ni am weld cynigion gan gwmnïau a gweithwyr creadigol proffesiynol sydd â hanes o lwyddo ac sydd wedi creu gweithiau cyffrous sy’n barod i’w harddangos yn yr Ŵyl Ymylol ac i fynd ar daith y tu hwnt i Gymru.

Ac ystyried yr amrywiaeth eang o ymgeiswyr a maint y cynyrchiadau a fydd yn gwneud cais i’r gronfa, rydyn ni’n gofyn i’n hymgeiswyr ystyried y gronfa hon fel cyfraniad at gost cyflwyno’u gwaith yn yr Ŵyl.  Mae hyn yn cynnwys costau llogi lleoliadau ac offer technegol, costau mynediad, costau marchnata, costau llety, a ffioedd perfformio.

Y cyfanswm sydd ar gael o Gronfa Cymru yng Nghaeredin 2022 yw £80,000. Bydden ni’n disgwyl rhoi arian i rhwng 4 a 5 ymgeisydd sydd â chynigion cryf a’r rheini’n barod i’w harddangos.

Ni fydd angen cadarnhau’r lleoliad ar gyfer y gronfa yn y cam hwn, oherwydd amseru’r cyhoeddiad gan Lywodraeth yr Alban.

Rhaglen yw hon sy’n cael ei darparu drwy Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, gan weithio gyda Chyngor Celfyddydau Cymru. Mae hi’n cynnig cyfle i’n cwmnïau a’n gweithwyr creadigol proffesiynol sy’n barod i arddangos eu gwaith i ddatblygu marchnadoedd a dod o hyd i ffyrdd o ehangu eu patrymau teithio y tu allan i Gymru.

Drachefn, byddwn ni’n gweithio gyda Maint Cymru i leihau ôl-troed carbon yr arddangosfeydd. Byddwn ni’n cynnal gweithdai ac yn trafod sut i wneud perfformiadau carbon niwtral yn bosibl. Bydd mwy o wybodaeth am y gweithdai ar gael cyn hir.

Yr amserlen
03 Chwefror – Cyhoeddi’r gronfa
10 Chwefror – Y broses ymgeisio’n agor
02 Mawrth – Y broses ymgeisio’n cau
30 Mawrth – Penderfynu ar y dyfarniadau


Y broses ddethol

Bydd ein Cynllun Corfforaethol, Er Budd Pawb, yn llywio’r broses ddethol, yn ogystal â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol Llywodraeth Cymru. Y llais unigol a’r mynegiant personol o Gymru sy’n bwysig inni, gan gadw amrywiaeth, cydraddoldeb a thegwch wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydyn ni o hyd wedi ymrwymo i ragoriaeth ac i gefnogi celfyddyd feiddgar, arloesol a herfeiddiol.

Panel allanol sy’n curadu’r rhaglen Cymru yng Nghaeredin, a’r aelodau wedi’u dewis am eu harbenigedd a’u hymrwymiad a’u hargyhoeddiadau sy’n cyd-fynd â’n Cynllun Corfforaethol.

Yn ogystal â chronfa Cymru yng Nghaeredin, byddwn ni hefyd yn lansio Cronfa Hau Hedyn y Dyfodol – rhaglen ddatblygu sy’n rhoi cyfleoedd i egin artistiaid a chynhyrchwyr yn ogystal â rhai sydd wedi ennill eu plwyf i fynd i’r ŵyl ac i ddigwyddiadau rhwydweithio, dosbarthiadau meistr a sioeau o’u dewis.

Bydd mwy o wybodaeth am Gronfa Hau Hedyn y Dyfodol ar gael cyn hir.