Mae Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl 2023 sy’n cefnogi modelau arloesol o gyfnewid a chydweithio diwylliannol rhyngwladol bellach ar agor.

Gyda chyd-fuddsoddiad gan Gyngor Celfyddydau Lloegr, Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon a Chyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Creative Scotland, bydd ail rownd Cronfa Ryngwladol y Pedair Gwlad yn cefnogi’r rhai sy’n gweithio yn y celfyddydau a’r diwydiannau creadigol yn y pedair gwlad ar draws y DU ac ynghyd â chymheiriaid yn Ewrop a thu hwnt.

Mae’r gronfa’n agor nawr ar agor, a’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher 28 Medi 2023.

Cefnogodd rownd gyntaf y Gronfa 38 o brosiectau gan ddod â 82 o bartneriaid o’r DU a 48 o bartneriaid rhyngwladol ynghyd mewn dros 24 o wledydd gwahanol, o Fecsico i Kenya, Barbados i Awstralia a ledled Ewrop ac UDA. Ceir y neu mysg brosiectau dan arweiniad artistiaid sy’n mynd i’r afael â materion allweddol sy’n wynebu cymdeithas - cyfiawnder cymdeithasol, hunaniaeth rhywedd a chynaliadwyedd amgylcheddol – mewn ffyrdd newydd arloesol.

Bydd hyd at £7,500 ar gael i’r prosiectau ariennir allan o gyfanswm cyllideb o £320,000 fydd ar gyfer gweithgaredd mewn person, digidol neu hybrid gan gynnwys cyfnewid, preswyliadau, datblygu partneriaeth, cyd-greu a rhwydweithio, gyda blaenoriaeth yn cael ei rhoi i geisiadau sy’n arbrofi gyda modelau arloesol o gydweithio rhyngwladol.

Mae Creative Scotland yn rheoli proses ymgeisio’r gronfa ar gyfer cynghorau ac asiantaethau celfyddydau’r pedair gwlad. Ar ran y bartneriaeth, dywedodd Dana MacLeod, Cyfarwyddwr Gweithredol y Celfyddydau, Cymunedau a Chynhwysiant yn Creative Scotland:

“Mae datblygiad celf a diwylliant yn ffynnu ar gydweithredu a chyfnewid rhyngwladol. Mae artistiaid ac ymarferwyr creadigol yn cael ysbrydoliaeth, cyfleoedd i dyfu a datblygu ymarfer trwy rannu syniadau ac archwilio ffyrdd newydd o weithio, yn ogystal â chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.

“Rydym yn falch o gynyddu’r uchafswm cyllid sydd ar gael yn y rownd hon i annog taliadau teg i artistiaid a gweithwyr proffesiynol sy’n ymwneud â’r prosiectau hyn, i alluogi dulliau mwy cynaliadwy o deithio a chydweithio’n rhyngwladol yn well, ac i adlewyrchu’n gyffredinol y costau uwch o weithio’n rhyngwladol.”

“Yn sgil effeithiau COVID-19, ymadawiad y DU o’r Undeb Ewropeaidd a’r argyfwng hinsawdd cynyddol, drwy weithio gyda’n cyd-gynghorau ac asiantaethau celfyddydol, gallwn helpu i fynd i’r afael â heriau i artistiaid ac ymarferwyr creadigol ar draws y DU yn fwy effeithiol a’u galluogi i gysylltu â’u cymheiriaid rhyngwladol.”

Ategodd Eluned Haf, Penaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Mewn cyfnod o heriau sylweddol rhyngwladol, mae cydweithio trawsffiniol yn cynnig cyd-destun gwahanol i artistiaid yng Nghymru a ledled y DU i greu a rhannu eu gwaith. Mae hefyd yn gyfle i ddysgu oddi wrth y celfyddydau a diwylliant mewn mannau eraill ac i bontio â nhw wrth edrych am atebion creadigol i faterion byd-eang.”

Mae Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl yn cynrychioli un o gyfres o gydweithrediadau rhwng cynghorau celfyddydau pedwar gwlad y DU ac asiantaethau gan gynnwys: Gwybodfan Celf y DU sy’n cynnig cyngor ar faterion ymarferol sy’n ymwneud â symudedd artistiaid dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru; datbygu ymagweddau mwy cynaliadwy at fentrau ar y cyd gyda nifer o wledydd Ewropeaidd unigol, megis rhaglen ymarfer cymdeithasol y Bont Diwylliannol gyda Fonds SozioKultur o’r Almaen a rhaglen breswyl celfyddydau gweledol Magnetic gyda’r Institut Francais.