Bydd yn cynnig 8 preswylfa i artistiaid gweledol yn Ffrainc a Phrydain dan adain Prosiectau Celfyddydol Fluxus.

Mae’n dod ag 8 lleoliad at ei gilydd i greu rhaglen newydd o breswylfeydd artistig. Bydd 4 yn Ffrainc:

 

CAPC yn Bordeaux

CRAC Occitanie yn Sète

FRAC Grand Large yn Dunkerque

Villa Arson yn Nice

 

a phedwar ym Mhrydain

 

Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

Parc Cove yn yr Alban

Stiwdios Celf Flax yng Ngogledd Iwerddon

Celfyddydau Grizedale yn Lloegr

 

Nod y rhaglen yw datblygu artistiaid drwy gyfnewid a chydweithio cynaliadwy ym maes y celfyddydau gweledol. Bydd yn adeiladu rhwydwaith o sefydliadau o’r un anian.

Dewisir 8 artist preswyl am hyd at 3 mis i’r 8 sefydliad. Materion cymdeithasol ac amgylcheddol fydd wrth wraidd y rhaglen. Rhaid i’r dewis artistiaid weithio yn eu gwahanol feysydd – daearyddol, hanesyddol, cymdeithasol, artistig ac ati.

Mae’r arian a gewch yn hael - ffi fisol drothwy o £2,000/2,500 € ac arian at fentora curadurol. Bydd pob preswylfa’n wahanol a’i natur i’w chytuno â’r sefydliad dan sylw. Cewch lety, lle i weithio a chyfle i rwydweithio.

Mae'n agored i artistiaid sy’n byw a gweithio yn Ffrainc neu Brydain am o leiaf 3 blynedd. Bydd ymgeiswyr Ffrainc yn cynnig am gyfleoedd ym Mhrydain a rhai Prydain yn Ffrainc.

Mae’n brosiect newydd gan Institut français du Royaume-Uni a 4 Cyngor Celfyddydol Prydain dan adain Prosiectau Celfyddydol Fluxus, elusen a sefydlwyd gan yr Institut gyda chefnogaeth sefydliadau Prydain a Ffrainc a noddwyr preifat. Ers 12 mlynedd mae Fluxus o bwys ym myd y celfyddydau yma ac yn Ffrainc.

30 Mai 2022 yw’r dyddiad cau am geisiadau a gallwch ymgeisio nawr.

Rhaid cyflwyno CV a chynnig sy’n nodi eich syniadau a’ch cynlluniau am y breswylfa. Cyflwynwch eich cais drwy wefan Fluxus.

Cyhoeddir yr artistiaid llwyddiannus ddechrau Gorffennaf.

Bydd preswylfeydd yn dechrau yn hydref 2022.

 

Am ragor o wybodaeth : fluxusartp@gmail.com

 

Cefnogwyr Magnetig:

Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru

Yr Alban Greadigol

Cyngor Celfyddydau Gogledd Iwerddon

Cyngor Celfyddydau Lloegr

Institut français du Royaume-Uni

Institut français

Gweinyddiaeth Diwylliant Ffrainc

Gweinyddiaeth Ewropeaidd a Materion Tramor Ffrainc

Y Cyngor Prydeinig