Mae Cymru’n genedl o bobl sy’n adrodd straeon. Dwed dy stori di...

Rwy’n tarddu o dras y Malinké yn Gini yng Ngorllewin Affrica, ac rwy’n perthyn i linach hir, etifeddol y griot/djeli sy’n debyg i’r traddodiad barddol hynafol Cymraeg.  Mae modd olrhain hanes fy nheulu yn ôl i’r drydedd ganrif ar ddeg a’r balafon cyntaf (fy hoff offeryn, ac offeryn fy rhieni ill dau – sef seiloffon pren Affricanaidd traddodiadol). Mae’r enw Kouyaté yn tarddu o’r cyfnod hwnnw.

Llên gwerin y Mandinka yw fy nhreftadaeth, a rhan o waith y griot yw cynnal hanes, straeon, rhythmau a chaneuon ein pobl a’u rhannu a’u trosglwyddo i’r genhedlaeth nesaf.

 

 

Beth yw dy gysylltiad di â dy gornel fach o Gymru?

Fe ddes i Gymru i fod gyda fy ngwraig – menyw o Gymru sy’n byw yng Nghaerdydd ond yn wreiddiol o Sir Benfro.  Ers symud yma yn barhaol yn 2019, rwy’ wedi teithio Cymru ac wedi creu cysylltiadau ledled y wlad.  Rwy’ hyd yn oed wedi chwarae’r balafon ym mynyddoedd Eryri!  Rwy’ hefyd wedi creu cysylltiadau hyfryd ac wedi cydweithio ag artistiaid o Gymru gan gynnwys Gruff Rhys a Lisa Jên Brown.

 

 

Mae gan Gymru chwedlau am gymeriadau sy’n filoedd o flynyddoedd oed, hyd at rai’r dydd hwn. A yw dy gerddoriaeth di’n cysylltu â’r rhain, a beth yw eu stori?

Yn yr un modd, mae fy nhraddodiad griot yn golygu fy mod yn plethu straeon ein llên gwerin i mewn i fy ngherddoriaeth.  Y sengl ddiwethaf y gwnes ei rhyddhau o fy EP oedd "Miniyamba/Gadael y Dref" – addasiad o gân draddodiadol o Orllewin Affrica a swynodd Gruff Rhys pan oeddwn i’n ei gefnogi ar daith ei albwm Pang!. Roedd y gân felly’n ddewis perffaith i gydweithio arni. Mae’r gân yn adrodd hen chwedl am sarff sy’n gwarchod pentre drwy beidio â gadael neb i mewn na mas, tan y bydd merch sydd am briodi yn ceisio dod i gytundeb â’r neidr fawr “Miniyamba”, ac fe glywn am ei gobeithion a’i hofnau wrth iddi allu “Gadael y Dref” yn y pen draw.

 

 

Mae ieithyddiaeth ac iaith yn rhan fawr iawn o ddiwylliant Cymru. Pam eu bod nhw mor arbennig?

Rwy’ wrth fy modd â sŵn y Gymraeg ac wedi cynnwys geiriau Cymraeg yn nifer o fy nghaneuon gan gynnwys: Aros i fi yna (y trac sy’n rhoi’r teitl i fy EP), Diarama-Diethryn, Ti a Fi, a Miniyamaba/Gadael y Dref.  I mi, wrth symud i Gymru, roedd yn naturiol fy mod eisiau dysgu’r iaith yn ogystal â Saesneg. Yn fy ngwlad fy hun, rydyn ni’n defnyddio nifer o ieithoedd llwythol, yn ogystal â Ffrangeg. Bod yn amlieithog a defnyddio gwahanol ieithoedd yn greadigol yw’r norm.Roedd y geiriau a ysgrifennodd Gruff a’r rhai mae’n eu canu ar Miniyamba yn cyd fynd â fy ngeiriau Malinké yn hyfryd. 

Mae fy nghaneuon yn cynnwys geiriau Susu (fy mamiaith), Malinké (iaith fy llwyth), Baga a Fula (ieithoedd llwythol eraill sy’n gyffredin yn Gini), yn ogystal ag iaith fy nghartre newydd – Cymraeg!

 

 

Mae Cymru’n aml wedi bod yn enwog fel gwlad o chwedleuwyr, a thithau yn eu plith drwy dy gerddoriaeth. Wrth i Gymru esblygu ac wrth i seiniau newydd ddod i’r amlwg, i ba fath o Gymru y bydd y fflam yn cael ei throsglwyddo yn y dyfodol?

Rwy’n gymharol newydd i Gymru, ar ôl ymweld â’r wlad am y tro cyntaf yn 2018, felly rwy’n dal i deimlo fy mod i’n dysgu am ei thraddodiadau, ei hanes a’i diwylliant. Mae Cymru wedi bod yn lle croesawgar, ac rwy’n teimlo’n gyfforddus yn galw’r lle yn gartre bellach. Rwy’n teimlo bod Cymru’n wlad gynhwysol, ac y bydd cerddoriaeth asiol a chydweithio yn esblygu yn y dyfodol, gan gynnal traddodiadau ond ar yr un pryd eu cadw’n berthnasol ac yn gyffrous i genedlaethau’r dyfodol.

 

 

Beth yw dy gysylltiadau Celtaidd di?

Mae gen i gysylltiadau Celtaidd â Chymru, fy nghartre newydd, ac â’r Gymraeg, fy nheulu Cymreig, a’r teulu estynedig sydd wedi fy nghefnogi a fy nghroesawu i a’m cerddoriaeth ledled Cymru, yr Alban ac Iwerddon.

 

 

Rwyt ti ar fin cael cyfleoedd rhyngwladol newydd. Pa fath o gydweithio neu gyfleoedd rwyt ti’n edrych ymlaen fwyaf atyn nhw?

Rwy’ wrth fy modd yn teithio ac yn rhannu fy ngherddoriaeth a fy niwylliant â chynulleidfaoedd newydd. Rwy’n edrych ymlaen at gael anturiaethau newydd ac rwy’n agored i gydweithio â phobl amrywiol.