Mae Cymru’n genedl o bobl sy’n adrodd straeon. Beth yw eich stori chi?

Rydan ni'n bedair menyw sydd wedi bod yn gwneud cerddoriaeth ers pan ydan ni'n cofio. Rydan ni i gyd o ogledd a chanolbarth Cymru - Gwenan Gibbard o Bwllheli, Llŷn; Siân James o Lanerfyl, Powys; Gwyneth Glyn o Gricieth, Eifionydd a Meinir Gwilym o Langristiolus, Ynys Môn.

A ninnau'n mwynhau gyrfaoedd amrywiol fel artistiaid unigol, rydan ni wedi taflu ein greddfau cerddorol i grochan i greu sain sy'n driw i bob un ohonom, ac eto'n hollol wahanol i'n harddulliau unigol. Drwy blethu gwerin a chyfansoddiadau gwreiddiol, mae'n cerddoridaeth ni y tu hwnt i unrhyw arddull benodol: ond rydan ni'n ei galw hi'n "gerddoriaeth wedi'i gwreiddio yn y galon".

 

 

Beth yw eich cysylltiadau chi â'ch gornel fach o Gymru?

Mae ganddon ni i gyd gysylltiad cryf â'r ardaloedd rydan ni'n byw ynddyn nhw - ardaloedd sy'n cwmpasu arfordir gogledd orllewin Cymru a bryniau Powys yn y canolbarth. Mae gan bawb ei stori ei hun am 'berthyn' a 'chysylltiad', ac wedi blynyddoedd o deithio a byw mewn gwahanol lefydd ledled Cymru a'r tu hwnt, mae'r pedair ohonom bellach yn byw a gweithio yn yr ardal lle'n ganwyd a'n magwyd ni. Ac felly mae'r cysylltiad efo'r wlad yma yn hynod gryf, fel mae ein hymdeimlad o berthyn.

 

 

Mae gan Gymru straeon am gymeriadau sy’n filoedd o flynyddoedd oed, hyd at rai’r dydd hwn. A yw eich gerddoriaeth chi’n cysylltu â’r rhain, a beth yw eu stori?

Mae chwedlau a straeon yn rhan annatod o fywydau pobol ledled y byd, pwy bynnag a ble bynnag yr ydan ni. Mae chwedlau Cymreig yn amrywiol a chymhleth, a phob ardal yn meddu ar ei chwedlau lleol ei hun, sydd â'r gallu i ysbrydoli a thanio rhywun, yn ogystal â rhoi hunllefau ichi! Gyda straeon o'r fath yn gefndir, mae cynfas ein creadigrwydd ni yn hynod gyfoethog a lliwgar.

Mae cerddoriaeth Pedair yn asiad o'r traddodiadol a'r gwreiddiol - ac mae yna ryw hud a lledrith arbennig i ni yn y plethiad yna rhwng yr hen a'r newydd, a'r ymgais i bylu'r ffiniau o ran amser a lle. 

 

Mae ieithyddiaeth ac iaith yn rhan fawr iawn o ddiwylliant Cymru. Pam eu bod nhw mor arbennig? 

Gydag iaith wahanol daw persbectif gwahanol, a thra nad ydi'r iaith ei hun ar dafodau pob Cymro, mae ei dylanwad, ei siâp a'i phersbectif yn ein heneidiau oll i gyd. Sut fedrwch chi ddweud? Gwyliwch chi Gymro neu Gymraes ddi-Gymraeg yn colli deigryn wrth wrando ar alaw werin yn cael ei chanu ar y delyn, neu lais dirdynnol yn canu Myfanwy, a hawdd iawn ydi dweud.

Mae geiriau a symudiad cerddoriaeth Gymreig yn hen, hynafol; gyda'r hynaf yn Ewrop mewn gwirionedd - a gyda'r ieithoedd byw hynaf sy'n cael eu canu a'u dathlu hyd heddiw led-led y byd. Ac eto mae'r Gymraeg yn ei chynnig ei hun yn rhwydd i esblygu a dod yn anthem bop, yn asiad o eiriau cân werin a chordiau roc, a rhythm R&B efo alaw werin Gymreig hynafol yn hofran uwchben. Mae'n hynafol, ac eto dyma gerddoriaeth heddiw, ac yfory. Mae hi - yr iaith Gymraeg- yn ein cysylltu ni, â'n gilydd, â'r tir, ac â ni'n hunain. 

 

 

Mae Cymru’n aml wedi bod yn enwog fel gwlad o chwedleuwyr, a chithau yn eu plith drwy eich gerddoriaeth. Wrth i Gymru esblygu ac wrth i seiniau newydd ddod i’r amlwg, i ba fath o Gymru y bydd y fflam yn cael ei throsglwyddo yn y dyfodol?

Mae Cymru wastad wedi adrodd ei stori ei hun; wedi ei bloeddio ar faes y gad, wedi ei sibrwd yng nghlustiau cariadon, wedi ei chanu'n isel mewn hwiangerdd... (yn Gymraeg y canwyd yr hwiangerdd hynaf y gŵyr neb amdani yn yr ynysoeddd hyn, 'Pais Dinogad'! Ond stori arall ydi honno...) Rydan ni'n bobol sy'n ffynnu ar straeon. Mae chwedlau'r Mabinogi yn llawn merched cryfion a themâu o drawsnewid; ac maen nhw'n ein nerthu ni i gofleidio posibiliadau. Er mor anodd fu'r blynyddoedd diwethaf mae yna ymdeimlad o hyder a photensial mawr yn y synau newydd sy'n dod o Gymru. Rydyan ni'n genedl efo'r awch i greu hunaniaeth newydd inni'n hunain, ac nid ein llesteirio ni mae'r traddodiad ond ein cyfoethogi. 

 

 

Beth yw eich gysylltiadau Celtaidd chi?

Fel Cymry, fedrwn ni ddim dianc rhag y teimlad o berthyn i grŵp o genhedloedd Celtaidd. Yn ieithyddol, yn ysbrydol ac yn hanesyddol mae’r cysylltiadau rhwng Cymru a’r Alban, Iwerddon, Llydaw, Cernyw ac Ynys Manaw, a’r Celtiaid alltud ymhellach i ffwrdd, yn rhywbeth yr ydym ni fel unigolion ac fel cerddorion yn ymwybodol iawn ohono fo, ac rydan ni'n falch o rannu'r dreftadaeth hon.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae aelodau Pedair, fel artistiaid unigol, wedi mwynhau meithrin perthynas gerddorol newydd gyda’n cymheiriaid Celtaidd a pherfformio yn y rhan fwyaf o’r gwledydd Celtaidd tra hefyd yn croesawu’r cerddorion hynny yma i Gymru. Mae ganddon ni hunaniaeth gyffredin, ac i Pedair mae'n bwysig gallu dathlu ein hunaniaeth unigryw fel cenhedloedd Celtaidd unigol tra hefyd yn cofleidio’r cysylltiadau cryf sydd rhyngom. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio tuag at brosiect a fydd yn croesawu Pedair o gerddorion benywaidd, o’r Alban ac Iwerddon, i ymuno â ni ar gyfer perfformiad yng Nghymru ym mis Awst 2022. Bydd yn gyfle gwerthfawr i rannu caneuon ac alawon, i ysbrydoli ein gilydd, gobeithio, a chreu cerddoriaeth newydd yn seiliedig ar ein parch a’n hedmygedd o o draddodiadau Celtaidd ein gilydd. 

 

 

Rydych chi ar fin cael cyfleoedd rhyngwladol newydd. Pa fath o gydweithio neu gyfleoedd ydych chi'n edrych ymlaen fwyaf atyn nhw?

Byddem wrth ein boddau yn archwilio unrhyw gyfleoedd a allai fod ar gael i gydweithio a pherfformio gyda cherddorion o’r un anian sy'n frwd dros rannu hanes eu caneuon a’u cerddoriaeth. Gan ein bod yn canu yn uniaith Gymraeg byddai o ddiddordeb arbennig i ni gydweithio ag artistiaid sy’n perfformio trwy gyfrwng ieithoedd lleiafrifol eraill. 

Rydym wedi bod yn ffodus fel artistiaid unigol i fod wedi teithio i wahanol gyfandiroedd ac i berfformio mewn sawl gŵyl gerddoriaeth enwog yn Ewrop, Canada/Gogledd America ac Asia. Ein gobaith, trwy Showcase Scotland, yw gallu ail-ymweld â rhai o’r gwyliau gwych yma, ond y tro hwn, gyda’n gilydd, fel Pedair, a chynrychioli ein cerddoriaeth a’n gwlad ar lwyfan byd. Mae stori yn ein cerddoriaeth – stori nad yw’n cael ei chlywed, ac felly ei gwerthfawrogi, yn aml – ac edrychwn ymlaen at gael ei rhannu.