Ers Gorffennaf 2021, mae 40 o brosiectau cyffrous wedi gweld perthnasoedd a chydweithio yn datblygu rhwng Cymru a 30 o bartneriaid rhyngwladol ledled bron pob cyfandir ledled y byd, wedi’u hariannu gan y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Fel cyllid pennaf Wales Arts International ar gyfer gweithwyr proffesiynol creadigol a sefydliadau celfyddydol, mae’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol (IOF) yn cefnogi datblygiad perthnasoedd, cydweithredu a rhwydweithiau rhwng Cymru a’r byd, ac yn galluogi’r broses o rannu profiadau a sgiliau drwy’r celfyddydau ac yn codi proffil Cymru a’i chysylltiadau yn rhyngwladol.   

 

Bydd y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol yn ail-agor ar gyfer ceisiadau ar 27 Mehefin 2022, gyda 5 o ddyddiadau cau drwy’r flwyddyn.   

Mae’r dyddiadau cau hynny fel a ganlyn: 
20 Gorffennaf 2022 
14 Medi 2022 
16 Tachwedd 2022 
18 Ionawr 2023 
15 Mawrth 2023 

Bydd y ceisiadau’n cau am 5pm ar bob dyddiad cau. Bydd y ceisiadau’n ail-agor y dydd Llun ar ôl pob dyddiad cau.  

Mae prosiectau sydd eisoes wedi’u dyfarnu’n cynnwys ystod eang o ffurfiau celf a chyfnodau preswyl, cydweithredu digidol a hybrid, cyfnewidfeydd, ymchwil a chyfnodau datblygu a mwy, gan gynnig cyfleoedd i lawer o weithwyr proffesiynol creadigol a sefydliadau celfyddydol i ymgysylltu â pherthnasoedd rhyngwladol cynaliadwy. 

Ymhlith y prosiectau sydd wedi derbyn y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol mae: 

Cymru>>Canada>>Ail-fframio’r Gorffennol>>Dyfodol Newydd 

"Mae ein prosiect ar-lein, Ail-fframio’r Gorffennol>>Dyfodol Newydd wedi rhoi cyfle i 6 o artistiaid (3 o Ganada a 3 o Gymru) i gydweithio. Gan weithio mewn parau, mae’r artistiaid yn dod o gefndiroedd hollol wahanol, ac maent fel arfer yn gweithio mewn disgyblaethau hollol wahanol. Er gwaethaf yr heriau daearyddol, mae wedi rhoi cyfle i’r artistiaid drafod, archwilio a chymryd risgiau gan gyflwyno syniad mewn ffilm i’w ddangos yn Oriel Elysium a Gŵyl Improv Canada."

“Mae’r prosiect hwn wedi creu ffyrdd newydd o feddwl i’r artistiaid, ac maent wedi bod yn ffordd hynod lwyddiannus o sbarduno trafodaethau pynciol ac edrych ar eu safbwynt yn yr amgylchedd cynyddol bregus a hylosg rydyn ni’n byw ynddo. Mae’r prosiect eisoes yn arwain at ffyrdd newydd a rhagor o gyfleoedd i artistiaid Cymru a Chanada i gydweithio yn y Dyfodol.”

 - Oriel Elysium

“Mae’r prosiect hwn wedi bod yn garreg milltir gyda manteision ar sawl lefel. Rwy’n teimlo’n lwcus i fod wedi gweithio gyda Megan Arnold. I ddechrau, roedd ein pryderon a’n dulliau artistig i weld yn wahanol iawn, ond roedden ni’n dwy yn agored i natur chwareus, damweiniau a risg a gwnaeth hynny arwain atom yn archwilio ac yn creu gyda’n gilydd mewn ffyrdd oedd yn barhaus yn synnu ac yn adfywio."

“Mae bod yn rhan o’r grŵp hwn gyda strwythur da a mentoriaid wedi bod yn amhrisiadwy:- mae gonestrwydd ac ymrwymiad ein trafodaethau, dwyster ac ymgysylltiad gwaith ein gilydd, cynhesrwydd a naws y cysylltiad oll wedi bod yn gymhariaeth effeithiol i natur ynysig byw/gweithio mewn ardal leol."

“Mae’r her safbwyntiau newydd a rhyngwladol wedi dod ag egni a chydbwysedd ffres i’m harchwiliadau hynod leol, wedi ehangu fy ymwybyddiaeth o faterion diwylliannol ac amgylcheddol ac wedi creu perthnasoedd newydd yr ydw i’n gobeithio eu cynnal yn y dyfodol.”

- Penny Hallas 

 "Rwyf wedi gwerthfawrogi’r sefyllfa o ran gweithio’n rhyngwladol drwy Zoom, gyda dyhead i deithio i Ganada a gweithio wyneb yn wyneb a chynnal artist yma hefyd. Mae wedi bod yn ddefnyddiol i’n cydweithiwr a minnau’n rhannu ein sefyllfaoedd bob dydd fel man cychwyn i’r ymarfer creadigol."

“Rydym wedi dod o hyd i dir cyffredin yn ein gwaith a’n safbwynt creadigol. Rydym yn rhannu’r natur perfformiadol a byrfyfyrio. Rwyf wedi ystyried dylanwad fy nghydweithiwr a’i gyfraniad yn hawdd iawn gweithio gyda nhw. Mae wedi fy ngalluogi i symud y tu allan i’m ffordd arferol o waith ac yn ôl eto. Mae’n teimlo ychydig fel fy mod i’n cynnig esgyrn yr hyn ydw i fel person/artist heb y ffurf, oherwydd gyda’n gilydd, rydym yn creu modd newydd a dechreuad ffurf newydd.”

- Jessica Lerner 

The Bridge - Y Bont 

"Dros y 12 mis diwethaf rydym wedi bod yn gweithio ar brosiect hynod gyffrous a ariannwyd gan Wales Arts International sy’n cysylltu’r celfyddydau, cymunedau a’r dreftadaeth yn rhyngwladol. Rydym wedi uno â Compagnie Pyramid yn Rochefort, Ffrainc, y cydweithrediad perfformiad cymunedol lleol L’Attroupanou ac ochr yn ochr â Stephanie a’r tîm yn Le Pont Transbordeur, Communauté d'agglomération Rochefort Océan, rydym yn archwilio rhywbeth hynod hudolus sy’n harneisio ac yn defnyddio byd rhithganfyddiad er mwyn ymgysylltu â chynulleidfaoedd ledled y byd."

 “Gyda chymorth Cyngor Dinas Casnewydd ac Emma Newrick yn y Bont Gludo Casnewydd, bydd perfformiad ymchwil a datblygu cyntaf y prosiect yn cael ei gynnal ar ddechrau mis Hydref. Cadwch lygad amdano!”

 - Tin Shed Theatre

Murlun Artistiaid Anabl Cymru Indonesia 

"Cynhaliwyd y cydweithrediad ar-lein yr oeddwn i’n rhedeg gyda Jogja Disability Arts er mwyn cynnal a chryfhau perthynas a ddechreuodd flwyddyn yn ôl. Roeddwn i eisiau ei gynnal er mwyn archwilio beth gallai diwyddiant ‘Indonesiaidd’ fod, gan fod llawer o ynysoedd gwahanol yn Indonesia, a phob un gyda’u diwylliant a hanes unigryw, sy’n debyg iawn i’m diwylliant Cymreig/Prydeinig i. Wrth gwrs, mae llawer o is-ddiwylliannau eraill, ac roeddwn i eisiau dod o hyd i ac adeiladu ar beth bynnag sydd gan bobl anabl mewn cyffredin yn rhyngwladol. Bu i gyllid ar gyfer y prosiect fy ngalluogi i weithio’n rhyngwladol ac felly gweithio tuag at adanbod diwylliant anabl byd-eang. Bellach, rwy’n gobeithio gweithio mewn gwledydd eraill yn yr un ffordd.”  

- Andrew Bolton