Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol
Mae dyddiadau cau treigl wedi cael eu hail-gyflwyno ar gyfer y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Mae hyn yn golygu y gall ceisiadau cael eu cyflwyno unrhyw bryd, gyda phenderfyniad ar eich cais dim hwyrach na 6 wythnos ar ôl ei gyflwyno. Ceir rhagor o wybodaeth yng nghanllawiau'r gronfa sydd ar gael trwy’r ddolen isod.
Diben y gronfa yw:
- Cefnogi’r broses o ddatblygu syniadau, cydweithio a rhwydweithiau rhwng gweithwyr creadigol proffesiynol a sefydliadau celfyddydol yng Nghymru a phartneriaid rhyngwladol.
- Rhannu profiadau a sgiliau drwy’r celfyddydau mewn cyd-destun byd-eang.
- Codi proffil Cymru a’i chysylltiadau drwy’r celfyddydau yn fyd-eang.
Darllenwch ein hastudiaethau achos Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol yma:
Gwarcheidwaid y Biosffer 2050 - Playframe
Cynhadledd RESEO Paris - Operasonic
Dysgwch fwy am y prosiectau rydyn ni wedi'u hariannu trwy'r dolenni isod.
2021-22
Cronfa Cyfleoedd Rhyngwladol
Rhaglen Pont Ddiwylliannol
Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl
2022-23
Cronfa Gwrando
Rhaglen Pont Ddiwylliannol
2023-2024
Cronfa Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc
2024
Cronfa Arddangos Ryngwladol Sefydliad PRS
Os ydych yn artist, band, cyfansoddwr neu gynhyrchydd, ac wedi cael eich gwahodd i chwarae gŵyl neu gynhadledd arddangos ryngwladol, efallai y byddwch yn gymwys i gael cyllid drwy Gronfa Arddangos Ryngwladol Sefydliad PRS mewn partneriaeth â Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru.
Os ydych yn gymwys ar gyfer y llwybr ariannu hwn, ni chewch wneud cais i'r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Cysylltwch â ni os nad ydych yn siŵr pa lwybr ariannu sydd orau i chi.
Blwyddyn Cymru Japan 2025: Galwad am Ddatganiadau o Ddiddordeb
2025 yw Blwyddyn Llywodraeth Cymru Japan
Mae’r celfyddydau, diwylliant a llesiant wedi chwarae rhan arwyddocaol wrth ddatblygu cysylltiadau cyfoethog a diwylliannol rhwng Cymru a Japan ac maent yn ran allweddol o ffocws y flwyddyn.
Fel rhan o’n cyfraniad i’r rhaglen, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Prydeinig Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn gwahodd mynegi diddordeb am gyllid ar gyfer gweithgareddau sy’n canolbwyntio ar y celfyddydau a fydd yn digwydd rhwng Cymru a Japan rhwng Ebrill a Rhagfyr 2025.
On The Move: Canllaw i gyllid ar gyfer symudedd diwylliannol
Mae'r canllaw ariannu yma yn cynnwys dau fath o gyfleoedd symudedd ar gyfer artistiaid a gweithwyr diwylliannol proffesiynol: ar gyfer gadael y Deyrnas Unedig a dod mewn i'r Deyrnas Unedig. Mae'r cyfleoedd ymadawol ar gyfer pobl sydd wedi'i lleoli yn y Deyrnas Unedig (pedair gwlad Lloegr, Gogledd Iwerddon, yr Alban a Chymru yn ogystal â Thiriogaethau Dibynnol ar y Goron Prydain a Thiriogaethau Tramor y DU) sy'n dymuno teithio y tu allan i'r wlad. Mae'r cyfleoedd sy'n dod i mewn ar gyfer pobl o wledydd eraill sydd am deithio i'r Deyrnas Unedig.
Mae'r canllaw yn rhestru adnoddau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol, cyhoeddus a phreifat. Rydym ond wedi cynnwys cyfleoedd sy'n digwydd yn rheolaidd, sy'n hygyrch ar-lein, yn gwahodd ceisiadau trwy alwadau agored, ac sy'n talu o leiaf cyfran o gostau teithio rhyngwladol.
Cynhrchwyd y canllaw yma mewn partneriaeth gyda Gwybodfan Celf y DU, partneriaeth o aelodau o bob un o Gynghorau Celfyddydau'r DU: Arts Council England, Arts Council of Northern Ireland, Creative Scotland, a Cyngor Celfydyddau Cymru | Celfyddydau Rhyngwladol Cymru sy'n arwain y gwaith.