Mae'r datganiad hygyrchedd am y wefan ar celf.cymru

Rydym ni am i wefan Cyngor Celfyddydau Cymru fod mor hygyrch ac mor hawdd ei defnyddio â phosibl.

Mae hynny'n golygu y gallwch:

  • newid lliw, cyferbyniad a ffont
  • chwyddo testun hyd at 300% heb iddo ddiflannu o’r sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys fersiynau diweddaraf JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.

Os oes gennych adborth penodol am hygyrchedd, e-bostiwch ni: gwefan@celf.cymru

Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei darllen, sain neu braille, rhowch wybod inni drwy'r ffurflen gyswllt, neu drwy ein ffonio ar 03301 242733 (bydd pris pob galwad ar gyfraddau lleol).

Rheoliadau Hygyrchedd y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018. Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym ni’n ymateb i'ch ymholiad, gallwch gysylltu â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb.

Pa mor hygyrch yw'r wefan?

Yn anffodus nid yw rhai rhannau o'n gwefan ar gael yn llawn:

  • PDFau hŷn - nid yw'r rhan fwyaf ar gael yn llawn i feddalwedd darllen sgrin
  • fideos hŷn - nid yw'r rhan fwyaf wedi'u hisdeitlo

Rhyngwyneb y wefan

Mae'r wefan wedi'i chynllunio i'w defnyddio gyda darllenydd sgrin. Mae hefyd yn gydnaws â chwyddwydr sgrin sylfaenol, yn ogystal â phecynnau llais y system weithredu.

Cyferbyniad uchel ac isel

Drwy ddefnyddio'r gwrthgyferbyniad testun melyn wedi'i farcio 'A' ar frig y tudalen gwe, gallwch ddewis o fersiynau uchel ac isel o'r rhyngwyneb yn dibynnu ar eich anghenion.

Iaith

Rydym ni’n sefydliad dwyieithog, a gallwch weld ein gwefan yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn ôl eich dewis.

Mae modd toglo iaith y wefan drwy glicio'r botwm Cymraeg/Saesneg sydd ar bob tudalen o'r wefan.

Rydym ni’n croesawu gohebiaeth yn Gymraeg a Saesneg, ac ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Porwyr sy'n gweithio gyda'n system ymgeisio ar-lein

Rhaid i ymgeiswyr bod â mynediad i'r rhyngrwyd a phorwr gwe sy'n caniatáu cwcis.

Mae'r porwyr canlynol yn gydnaws ag IGAM 6 (ein system ymgeisio am grantiau ar-lein):

  • Internet Explorer® 11
  • Internet Explorer® 10
  • Internet Explorer® 9
  • Internet Explorer® 8
  • Mozilla® Firefox® (ar gyfer PC a Mac)
  • Safari® (ar gyfer PC a Mac)
  • Google Chrome

Nodiadau:

  • Mae porwyr yn cael eu profi a'u hardystio gan ddefnyddio gosodiadau diofyn
  • Dylai porwyr gael y diweddariadau mwyaf newydd sydd ar gael

Islwytho dogfennau

I weld PDFau, bydd angen darllenydd PDF arnoch fel Adobe Acrobat Reader, sydd ar gael i'w islwytho am ddim o wefan Adobe.

I weld dogfen Word, defnyddiwch Microsoft Word, neu un o'r Gwylwyr Word am ddim sydd ar gael i'w islwytho o wefan Microsoft.

Ailfeintioli’r testun

Er nad yw'r wefan yn cynnig ffordd o ailfeintioli’r testun, gallwch wneud hyn drwy ddilyn y cyfarwyddiadau yma:

PC / Internet Explorer 9 ac uwch:

Cynyddu maint y testun: Daliwch yr allwedd CTRL i lawr a phwyso +

Lleihau maint y testun: Daliwch yr allwedd CTRL i lawr a phwyso -

PC / porwyr eraill:

Cynyddu maint y testun: Daliwch yr allwedd CTRL i lawr a phwyso +

Lleihau maint y testun: Daliwch yr allwedd CTRL i lawr a phwyso -

Mac / pob porwr:

Cynyddu maint y testun: Daliwch yr allwedd Gorchymyn i lawr a phwyso +

Lleihau maint y testun: Daliwch yr allwedd Gorchymyn i lawr a phwyso -

Mae'r wefan yn cydymffurfio'n llawn â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1.

Mae’r Cyngor wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Lluniwyd y datganiad yma ar 25.02.19. Cafodd ei adolygu ddiwethaf ar 31.08.2023. Archwiliwyd y wefan hon gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth ar 10 Chwefror 2023.

Profwyd y wefan ddiwethaf ar 30.08.2023 gan Hoffi Cyf.

Defnyddiwyd Methodoleg Gwerthuso Hygyrchedd Gwefannau i benderfynu ar sampl o ba dudalennau i’w profi https://www.w3.org/WAI/eval/report-tool/#!/#%2F.

Profwyd sampl o dudalennau ychwanegol yn adran ariannu'r wefan hefyd