Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yw asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru.
Rydym yn darparu cyngor a chefnogaeth i artistiaid a sefydliadau celfyddydol o Gymru sy'n gweithio'n rhyngwladol. Rydym yn bwynt cyswllt i artistiaid, sefydliadau ac asiantaethau rhyngwladol sy'n gweithio yng Nghymru neu sy'n cysylltu â hi.
Ein diben yw:
-
sicrhau bod artistiaid Cymru’n ymgysylltu'n rhyngwladol;
-
helpu i ddatblygu a chyfoethogi arfer, gyrfaoedd ac uchelgais artistig;
-
tyfu cyfleoedd byd-eang newydd i gelfyddydau a diwylliant Cymru;
-
buddsoddi mewn cydweithrediadau artistig sy'n ysbrydoli a chysylltu pobl mewn cymunedau amrywiol yng Nghymru.
Rydym yn cymryd rhan mewn nifer o rwydweithiau allweddol yn Ewrop sy'n sicrhau ein bod yn parhau i adeiladu a chryfhau ein perthynas ryngwladol. Rydym yn aelodau o IETM, On the Move, Culture Action Europe a Res Artis.
Os ydych yn artist yn gweithio yng Nghymru, gallwn ddarparu cyngor, arweiniad a gwybodaeth trwy ein digwyddiadau, ar ein gwefan, a thrwy ein platfformau yn y cyfryngau cymdeithasol. Gallwn eich cefnogi trwy grantiau’r Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol, neu drwy ymyriadau strategol eraill os ydych yn gweithio yn un o'r gwledydd sydd mewn rhan o’r byd yr ydym wedi rhoi blaenoriaeth iddi.
Os ydych yn artist rhyngwladol yn edrych i wneud cysylltiadau yng Nghymru, neu yn hyrwyddwr, asiant neu sefydliad rhyngwladol sydd am wahodd artist neu sefydliad o Gymru i gymryd rhan yn eich digwyddiad neu brosiect, gallwn helpu i’ch rhoi ar y trywydd iawn.
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth agos â'n noddwr ariannol, Llywodraeth Cymru – ei swyddfeydd byd-eang a'i hasiantaethau diwylliannol – yn ogystal â gyda’r British Council ac asiantaethau Llywodraeth y DU.
Mae Fforwm Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn gasgliad o ymarferwyr a sefydliadau celfyddydol rhyngwladol blaenllaw yng Nghymru sy'n rhoi mewnbwn i'n cyfeiriad strategol. Mae'n rhoi diddordebau artistig a diwylliannol Cymru wrth wraidd ein strategaeth ryngwladol. Cynhaliwyd y fforwm diweddaraf ym mis Gorffennaf 2018 – gallwch ddarganfod mwy ar y fideo hwn.
Mae ein strategaeth, sy'n gosod ein gwaith am y bum mlynedd nesaf, ar gael isod.