Bydd Neuadd Ogwen, Bethesda, yn darparu llwyfan ar gyfer y perfformiad cyntaf yn y DU gan ganwr ifanc sydd wedi cael clod mawr, Jeremy Dutcher, ac a enillodd Wobr Polaris uchel ei pharch Canada yn 2018 a gwobr Albwm  Brodorol y flwyddyn y Juno Awards fis diwethaf.  

Yn deyrnged i'w iaith sydd bron â diflannu ac effaith gwladychiaeth, mae albwm cyntaf y canwr 28 oed, Wolastoqiyik Lintuwakonawa, yn talu teyrnged electro-jazz, ôl-glasurol, i'w bobl, Cenedl Gyntaf yr Wolastoqiyik Tobique yn New Brunswick, Canada.

Mae'r campwaith operatig swynol yn ail-ddehongli recordiadau canmlwydd oed ar silindrau cwyr o ganeuon traddodiadol yn yr iaith Wolastoqey.

Mae'r cyngerdd a'r gweithdy, a gynhelir ddydd Gwener 12 Ebrill, yn rhan o Flwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO yng Nghymru ac maent wedi cael eu rhaglennu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ar ran tîm Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Wrth iddi edrych ymlaen at y gyngerdd, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol Eluned Morgan:

"Rydw i wrth fy modd y bydd Bethesda yn cynnal perfformiad cyntaf Jeremy Dutcher yn y DU, yn enwedig wrth i ni ddathlu Blwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO. Mae Bethesda yn lleoliad diwylliannol addas fel cadarnle i'r Gymraeg ac yn gartref i nifer o'n cantorion cyfoes gorau yn y Gymraeg dros sawl degawd.”

Mae tref Bethesda yng ngogledd Cymru yn fwy na chyfarwydd ag iaith cerddoriaeth a gwleidyddiaeth. Yn gartref i rai o brif gerddorion Cymru, gan gynnwys Gruff Rhys, Lisa Jên o 9Bach a Lleuwen Steffan, mae hanes Dyffryn Ogwen wedi'i siapio gan iaith, diwylliant a gwleidyddiaeth y chwareli sy'n ei amgylchynu a thirfeddianwyr gwladfaol.

Bydd 9Bach Noeth yn cefnogi Jeremy Dutcher, a bydd eu cantores Lisa Jên yn ymuno ag ef mewn sgwrs gyda’r Bardd Cenedlaethol Ifor ap Glyn mewn gweithdy i artistiaid, rhaglenwyr a gwneuthurwyr polisi cyn y cyngerdd. Dywedodd Lisa Jên:

“Mae iaith yn rhodd.  Hwn ydi’r rhodd fwyaf fedrwn ni roi i’n plant, yn cario fel y mae etifeddiaeth ddwys o ddiwylliant, dealltwriaeth cyndeidiau a chysylltiad i’r tir.  Pob tro mae iaith yn marw, mae dynoliaeth yn cael ei ladrata o etifeddiaeth doethineb ac amrywiaeth diwylliannol - yr hyn sy’n ein gwneud ni’n wydn, y stwff sy’n ein gwneud ni’n ddynol.”

Roedd cydweithrediad Lisa Jên â chantorion brodorol o Awstralia, Mamiaith – Mother Tongue, fel rhan o'r Olympiad Diwylliannol yn 2012 yn ddigwyddiad sy’n newid bywyd i'r gerddores yn ogystal ag i'r Gymraeg a cherddoriaeth werin yng Nghymru.

Dywedodd Dilwyn Llwyd, rheolwr Neuadd Ogwen, a drefnodd i Jeremy Dutcher berfformio yn WOMEX World Music Expo yn Las Palmas yn 2018:                                                            

"Rydw i ar ben fy nigon fod ni yn Neuadd Ogwen yn cael y fraint o gynnal perfformiad cyntaf Jeremy Dutcher yn y DU. Mae'n artist anhygoel sy'n chwarae i ymdeimlad o gyfiawnder pobl. Mae'n rhannu storïau a thraddodiadau o bobl ac ieithoedd sydd wedi’u gormesu ledled y byd mewn ffordd sy’n felancolig a phwerus iawn ond hefyd yn ddyrchafol. Bydd yn wledd a hanner i bobl sy'n mwynhau cerddoriaeth a'r rheini sy'n poeni am amrywiaeth ddiwylliannol mewn byd ôl-wladfaol."

Ac nid dyma’r unig agwedd o bwysigrwydd UNESCO i Gymru.  Mae chwareli llechi Gwynedd bellach yn gwneud cais i ddod yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO gyda chymorth Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

DIWEDD  5 Ebrill 2019

Nodiadau i olygyddion:

Bydd ail gyngerdd gan Jeremy Dutcher yng  Nglan yr Afon, Casnewydd, ddydd Sadwrn 13 Ebrill.

Mae'r cyngerdd a'r gweithdy yn rhan o Flwyddyn Ieithoedd Brodorol UNESCO yng Nghymru ac yn cael eu rhaglennu gan Gelfyddydau Rhyngwladol Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru ar ran tîm Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru.

Mae'r cyntaf o gyfres o ddigwyddiadau cyhoeddus, Mamiaith, yn weithdy i ysgogi cydweithrediad, codi ymwybyddiaeth o werth ieithoedd brodorol, a sbarduno camau gweithredu cadarnhaol o amgylch y byd i ddiogelu a dathlu'r ieithoedd hyn a'u diwylliannau cyfoethog. Bydd hefyd yn annog cyflwynwyr ac artistiaid a gweithwyr ym maes diwylliant ac iaith yng Nghymru i gysylltu â datblygu gweithgareddau i ddathlu'r flwyddyn arbennig hon.

Dim ond 100 o bobol sy’n siarad iaith Wolastoqey sef mamiaith Jeremy Dutcher. Mae’n rhan o fudiad o artistiaid brodorol sy’n ymgyrchu am gymodi diwylliannol drwy gerddoriaeth.

Yn 2016, roedd 40 y cant o'r amcangyfrif o 6,700 o ieithoedd a siaradir o amgylch y byd mewn perygl o ddiflannu. Sbardunodd hyn y Cenhedloedd Unedig i ddynodi 2019 fel Blwyddyn Ryngwladol Ieithoedd Brodorol, a arweinir gan UNESCO.