- Ysgrifennwyd gan Jodie Marie

Fy enw i yw Jodie Marie, rwy'n ganwr caneuon sy'n gweithio yn Sir Benfro. Dechreuais weithio fel cerddor / cyfansoddwr caneuon proffesiynol pan oeddwn yn 16 oed. Rwyf hefyd wedi perfformio fel hanner Taylor & Marie (a ffurfiwyd gyda Samuel James Taylor) a hanner Sister Bodhi (gydag Isabella Collins).

Rwy'n rhedeg stiwdio recordio gyda fy mhartner Owain Fleetwood Jenkins, sef StudiOwz, sydd wrth droed bryniau Preseli mewn capel bedyddwyr wedi'i addasu.  Rwyf hefyd yn cydberchen ar fy label Carmel Records, gyda dau gyn-weithiwr i Universal (Caru Music Cyf).

Llofnodais gyda Decca Records yn 2010 a bûm yn ysgrifennu gyda chyn-gitarydd/cynhyrchydd Suede, Bernard Butler a'r canwr-gyfansoddwr Ed Harcourt. Rhyddhawyd fy albwm cyntaf Mountain Echo ar wasgnod y Verve yn 2011, a dderbyniodd ganmoliaeth wych. Gwnes i hunanryddhau fy ail record Trouble in Mind gyda rheolaeth Transgressive yn 2015. Rhyddheais fy nhrydydd albwm The Answer yn 2021, gan dderbyn cefnogaeth wiw gan BBC Cymru a chefais fy enwebu ar gyfer Gwobr Gerddorol Cymru. Cafodd fy record ddiweddaraf Polar Night - record hwy 6 thrac a chafodd ei rhyddhau ym Mai 2023, ei hysbrydoli yn ystod fy mhreswyliad yng Nghylch yr Arctic, prosiect a chefnogwyd gan y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Rwyf wedi teithio'n helaeth ledled Prydain ac Ewrop ac wedi perfformio sioeau ar draws Norwy a’r Unol Daleithiau.

 

Preswyliad Cylch yr Arctig

- Cefnogwyd gan y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol 

Cefais wahoddiad fel artist preswyl uwch Cylch yr Arctig i ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer fy mhedwerydd albwm. Bûm yn aros ar fy mhen fy hun mewn caban ar Ynys Seiland yng ngogledd Norwy am ychydig dros 3 wythnos yn ystod y tywyllwch pegynol.

Y prosiect oedd ymgolli yn y profiad o fyw dros 70 gradd i'r gogledd lle mae'r hinsawdd mor wahanol i'r hyn rydw i wedi arfer â hi yng Nghymru, gyda thywydd garw a'r unigedd eithafol. Cefais y cyfle i gwrdd â'r bobl frodorol y Sámi, gan ddysgu am eu diwylliant a'u hanes. Roedd hwn yn gyfle unwaith mewn oes i gwrdd â phobl mor anhygoel ac ysbrydoledig ac nid yn unig i ddysgu am eu treftadaeth, ond hefyd i rannu fy niwylliant Cymreig â nhw.

Cyn mynd, fy nod oedd amsugno'r straeon o'r ynys a'r bobl, cael mynediad at offerynnau cerddorol brodorol Sámi, a dysgu am eu math o ganu. Hefyd ateb y cwestiwn, a fyddai fy nghreadigrwydd yn newid yn y tywyllwch pegynol? Ysgrifennais ganeuon a oedd yn gysylltiedig â'm profiad yno a rhai heb y cysylltiad hwnnw. Deuthum adref gyda 10 o ganeuon, gan gynnwys record hwy 6 thrac sef Polar Night, ac ysbrydoliaeth a fydd yn datblygu dros amser ar ôl i mi gyrraedd gartref hefyd.

Cefais wahoddiad i'r preswyliad artistig hwn ar Seiland, ynys anghysbell yn Norwy lle mae tua 90 o drigolion yn byw, gan Gøril Nilsen o'r band I See Rivers, a ddwedodd yn 2019: "cafodd rhan o'r gymuned gyfle i gwrdd â Jodie Marie a mwynhau ei cherddoriaeth pan chwaraeodd gyngerdd yng nghapel yr ynysoedd gyda'r artist o Norwy Fredrik William Olsen ychydig flynyddoedd yn ôl. Ar y pryd cyfnewidiwyd straeon am y Gymraeg a'r iaith Sámi a daethom o hyd i lawer o debygrwydd rhwng yr ieithoedd."

Yn ystod fy arhosiad 3 wythnos uwch Cylch yr Arctig ym mis Ionawr 2023, roeddwn i eisiau archwilio posibiliadau fy nghreadigrwydd wrth gael fy rhoi mewn amgylchedd hollol wahanol i'r hyn rydw i wedi arfer ag ef. Nid yn unig yr oedd hi'n oer iawn, roeddwn i hefyd yn ynysig. Byddwn i'n cerdded 30 munud yn y tywyllwch (mae’r nos yn parhau bron i 24 awr yr adeg honno o'r flwyddyn) i'r unig siop, lle byddwn i'n cwrdd â'r bobl leol i glywed eu straeon a dysgu am eu diwylliant a'u treftadaeth. Treuliais beth amser gyda herwyr ceirw Sámi ar ben mynydd ar y diwrnod y cododd yr haul uwch y gorwel am y tro cyntaf ers mis Tachwedd 2022. Dysgais fod ychydig o debygrwydd rhwng ein diwylliannau, fel sut y cafodd ein dwy iaith eu hatal, a sut rydym yn gwneud cynnydd i adennill ein hiaith frodorol. Dysgais am y canu Sámi, o'r enw 'joic' sef canu heb eiriau, cân am rywbeth sy’n ymgorffori gwrthrych / person, ond nid yw'n ymwneud â nhw’n hollol. Roedd hyn yn taro tant gyda mi, felly ysgrifennais drac wedi'i ysbrydoli gan joic fel y gân agoriadol 'Seiland' ar fy record hwy newydd.

Er i mi dreulio llawer o amser yn siarad â phobl Sámi a'r ynyswyr, treuliais y rhan fwyaf o'm hamser ar fy mhen fy hun, mewn caban ar ben ffordd yr ynys lle treuliais yr oriau tywyll (a oedd am y rhan fwyaf o'r dydd) yn ysgrifennu cerddoriaeth at fy mhedwerydd albwm a fy record hwy ddiweddaraf Polar Night. Cefais fynediad i lawer o offerynnau, o gitarau a bysellfwrdd, i ddrymiau Sámi brodorol - Runebome.

Mae'r profiad hwn eisoes wedi effeithio ar fy ngyrfa wrth symud ymlaen, nid yn unig drwy ysgrifennu a rhyddhau record hwy sydd wedi'i hysbrydoli gan y daith ei hun, ond rwyf hefyd wedi creu rhaglen ddogfen fer am fy arhosiad sydd i fod allan eleni. Ers dychwelyd, rwyf wedi perfformio sioeau bach iawn yn StudiOwz yn Sir Benfro ar gyfer pobl sydd wedi dilyn fy nhaith, gan gydweithio â phobl greadigol wych o Sir Benfro fel Rona Mac, Eline Brun (I See Rivers), Jo Messore (Sky Barkers), Jennie a Gareth (peirianwyr goleuo) a Dean, fideograffydd (WeTheDee). Rwyf wedi cael cefnogaeth gan orsafoedd radio a oedd yn chwarae caneuon o'r record hwy ddiweddaraf yma. Rwyf hefyd wedi ysgrifennu dyddiadur am fy nhaith ac wedi ymddangos ar glawr cylchgrawn TIWN magazine, ac rwyf wedi gwneud llawer o gyfweliadau i egluro beth oedd pwrpas y prosiect, pwy yw'r Sámi, lle roeddwn i ac a wnes i gyflawni'r hyn yr oeddwn yn bwriadu ei gyflawni yno, gan ateb y cwestiwn hwnnw bob amser yn gadarnhaol y tu hwnt.

 

Mae'r prosiect hwn wedi ehangu fy arddull ysgrifennu y tu hwnt i'r hyn y gallwn fod wedi'i ddychmygu, roedd yn fy ngalluogi i amsugno teimlad yr ynys ac mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ei gario gyda mi pryd bynnag a ble bynnag yr ysgrifennaf yn y dyfodol. Rwyf wedi cwrdd â menyw wych o Sámi sy'n byw yng Nghymru ac wedi dechrau sgwrs i weithio ar brosiect gyda'n gilydd ar gyfer Gwrando. Mae hefyd wedi gwneud i mi eisiau dysgu mwy am fy nhreftadaeth Gymreig.

Rwy'n teimlo bod yr antur hon wedi newid fy mywyd am byth ac rwy'n wir ddiolchgar amdani.

 

Gallwch bori drwy'r oriel o luniau o gyfnod Jodie Marie ym mhreswyliad Cylch yr Arctig isod.

"Canlyniad y daith honno yw casgliad hyfryd o ganeuon sydd, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl o brofiad mor ymdrwythol, yn hynod bersonol a myfyriol." - Adolygiad Polar Night EP gan Francis Brown, NewSoundWales

"Weithiau efallai y bydd yn rhaid i chi deithio'n bell oddi cartref er mwyn gwerthfawrogi'r hyn a adawsoch ar ôl" - cyfweliad am y preswyliad gyda Nigel Summerley, Pembrokeshire Online

 

Ariannwyd preswyliad Jodie Marie gan y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Cewch wybod rhagor am y gronfa yma.

Sgroliwch drwy'r oriel isod drwy lusgo eich llygoden ar draws y llun a ddangosir.