Ysgrifennwyd a recordiwyd y gerdd ddigidol ‘Y Bardd Dan y Rhisgl’ gan yr Artist Sain Amgylcheddol â nam ar y clyw, Cheryl Beer. Roedd yn gomisiwn ar gyfer Celfyddydau Anabledd Cymru, fel rhan o ‘Dewch A’n Hawliau Creadigol: Maniffesto Diwylliannol A Rhyngwladol Pobl Anabl,’ yn ymateb i erthyglau 30 a 32 o Gonfensiwn Hawliau Pobl Anabl y Cenhedloedd Unedig. Mae’r maniffesto’n canolbwyntio ar hawliau pobl anabl i fwynhau a chymryd rhan mewn bywyd diwylliannol, a chyrchu cyfleoedd diwylliannol a rhyngwladol, gyda'r nod o hyrwyddo cynhwysiant sefydliadol.

Mae ‘Bardd Dan y Rhisgl’ yn ddeialog gymharol rhwng y disgwrs ar yr argyfwng hinsawdd a sefyllfa pobl anabl, yn sector y celfyddydau ac yn y gymdeithas ehangach. Mae llais dynol y bardd llafar yn rhannu'r llwyfan gyda biorhythmau coed derw o Goed Felenrhyd, wedi’u nodiannu a'u cyfansoddi ar gyfer y piano. Mae'r ddwy elfen hon mewn cytgord drwy darn cyfan, yn perfformio fel deuawd. Ac mae’n wirioneddol ddwysingol, gan fod Felenrhyd yn ymddangos yn y Mabinogi, sef storïau rhyddiaith cynharaf Cymru. Mae'r darn hefyd yn cynnwys caneuon adar o Goedwig Law Coed Garth Gell, gan aduno coed a fyddai gynt wedi'u cysylltu â'i gilydd dan y pridd.

Wedi'i guradu gan Marc Rees ar gyfer #PethauBychain