Yn ystod y pandemig, cydweithiodd Christopher Tandy gyda'r artistiaid gweledol Michel ac Isabelle Wenzel, a'r dawnsiwr Milan Kampfer, wrth arbrofi a dyfeisio mewn chwarel gerrig ger Wuppertal o'r enw DeinSteinbruch. Cafodd ei ysbrydoli gan eiriau The Odes of Horace - PULVIS ET UMBRA SUMUS - sy'n golygu nid ydym ond llwch a chysgod. Mae'r geiriau yma'n atgoffhad o ba mor ddi-nod ydyn ni, yn fwyfwy hyd yn oed ar ôl y pandemig - dim ond llwch ydyn ni, darnau o dywod. Mae lleoliad y ffilm, a'r steil ddawns dynn, yn crynhoi'r geiriau'n berffaith, yn dod â nhw yn fyw, gan atseinio'r ffaith bod popeth, pawb, a phob man yn dod i ben.

"Cyn-dawnsiwr Diversions Cwmni Dawns Genedlaethol Cymru yw Christopher Tandy, sydd nawr yn aelod o'r cwmni adnabyddus yn fyd-eang Tanztheatre Wuppertal, a chafodd ei sefydlu gan Pina Bausch. Dylanwadodd cwmni Pina Bausch yn aruthrol yn fy mlynyddoedd ffurfiannol fel person creadigol ifanc tua diwedd yr 80au. Roedd gwylio ffilm o ddarn cafodd ei berfformio yn Sadlers Wells yn 1980, wedi'i gwblhau gyda llwyfan wedi'i orchuddio gyda thyweirch, wedi'n syfrdanu’n llwyr gan ddangos posibiliadau cyfuno Theatr a Dawns." - Marc Rees

Wedi'i guradu gan Marc Rees ar gyfer #PethauBychain