Rhwng mis Chwefror a mis Mawrth 2022, bydd Fearghus Ó Conchúir, yr artist dawns a’r coreograffydd rhyngwladol, a chyn-Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru, yn ymuno â ni fel curadur #PethauBychain.

Wrth edrych ymlaen at wneud y gwaith, meddai: “Er nad ydw i’n byw yng Nghymru ar y funud, mae’r cysylltiadau rydw i wedi’u gwneud yno wedi parhau ers imi adael Caerdydd ym mis Mawrth 2020. Wrth feddwl am ba waith i’w rannu ar blatfform Pethau Bychain, rydw i wedi bod yn meddwl am y syniad yma o Gymru sydd wedi’i chysylltu y tu hwnt i’w ffiniau daearyddol. Y syniad hwn o Gymru yn y byd a’r byd yng Nghymru yw un o elfennau mwyaf blaengar Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’n dangos dealltwriaeth bod yn rhaid i bethau ffynnu mewn llefydd eraill er mwyn i bethau ffynnu’n lleol. Mae’r ddau beth yn gyd-ddibynnol ar ei gilydd. Rydw i’n gobeithio rhannu enghreifftiau o arferion artistig â chi sy’n modelu’r gwerth o ddod â gwahanol safbwyntiau ynghyd a chanfod pethau cyffredin yn yr hyn sy’n ymddangosiadol wahanol.  

“Coreograffydd ydw i, felly fe fydda’ i’n rhannu llawer o ddawnsio â chi. Mae dawns yn ffurf ar gelfyddyd sy’n ein helpu ni i ddeall ein gilydd fel unigolion ac ar y cyd.  Mae’n dangos ffyrdd newydd inni o ymddwyn ac o fod gyda’n gilydd. Mae gwaith ymchwil diweddar ym maes niwrowyddoniaeth yn awgrymu bod dawnsio yn helpu gwahanol rannau’r ymennydd a’r corff i gydsymud, a dyna pam ei fod mor bwysig yn natblygiad pobl. Ac mae’n ein helpu ni i gydsymud â chyrff eraill hefyd, gan ein dysgu yn ymwybodol ac yn isymwybodol sut i ymddwyn mewn perthynas â phobl eraill. Hyd yn oed pe na bai niwrowyddoniaeth yn cadarnhau hyn, byddwn i’n dadlau bod dawns yn elfen angenrheidiol o les.  

“A minnau wedi fy ngeni yn Iwerddon, bydda’ i’n defnyddio’r misoedd hyn pan fyddwn ni’n dathlu nawddseintiau Iwerddon a Chymru i amlygu rhai o’r cysylltiadau artistig rhwng y ddwy wlad. Mae chwedlau’r Fianna wastad wedi creu argraff arna’ i – byddai’u harwyr yn teithio i Gymru o Iwerddon i sgwrsio a thrafod. Bydden nhw’n teithio mor rhwydd â rhywun yn gyrru ar hyd y draffordd. Llwybr i’w cysylltu oedd y môr, yn hytrach na ffin. Er bod ffiniau a gwahaniaethau yn rhoi’r argraff eu bod nhw’n ein gwahanu, mae’n bwysig cofio mai’r rhain hefyd yw’r sianeli sy’n dod â ni at ein gilydd.”

Artist dawns a choreograffydd yw Fearghus Ó Conchúir. Ac yntau wedi’i eni yn y Ring Gaeltacht yn Iwerddon, mae’n hoff o gydweithio ag arbenigwyr o bob maes celfyddydol ynghyd â meysydd eraill. Mae’n creu ffilmiau a pherfformiadau byw sy’n helpu cynulleidfaoedd ac artistiaid i greu cymunedau gyda’i gilydd. Roedd ei waith aml-blatfform, The Casement Project, yn un o brosiectau cenedlaethol Arts Council of Ireland yn 2016, yn rhan o Raglen Ryngwladol Iwerddon 2016, ac yn rhan o Gomisiynau Celf 14-18NOW i nodi canmlwyddiant y Rhyfel Mawr. Ar hyn o bryd, mae’n arwain rhaglen ddawns ar y cyd á Micro Rainbow International, rhaglen a gychwynnwyd ganddo fel rhan o The Casement Project i gefnogi ffoaduriaid a cheiswyr lloches LHDT.Rhwng 2018 a 2020, ef oedd Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Bu ar daith ledled Cymru gyda’i waith i’r cwmni, a rhoddwyd cyflwyniadau hefyd yn Japan fel rhan o raglen ddiwylliannol Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd 2019. Cafodd ei benodi’n aelod o’r Arts Council of Ireland yn 2018 a daeth yn Ddirprwy Gadeirydd yn 2019. Ef yw Cadeirydd Rhwydwaith Dawns y DU.  

Ewch i wefan Fearghus Ó Conchúir

Pethau Bychain | Small Things: Gall gwneud y pethau bychain wneud gwahaniaeth i’n cymunedau ledled Cymru, i’n planed, ac i’n lles ni’n hunain. Ymgyrch yw #PethauBychain i hyrwyddo negeseuon lles sector diwylliannol Cymru ar lwyfan byd-eang.