"Ar gyfer y darn olaf hwn yn fy newisiad curadurol, rwy’n cynnig rhywbeth fy hun ichi. Tyfodd y ffilm dyner hon o fy ngwaith fel Artist Preswyl yn y Walthamstow Wetlands yn Llundain. Rwy'n ei rannu oherwydd ei themâu o gyd-ddibyniaeth ddynol a mwy-na-dynol. Mae yna hefyd y trosglwyddiad rhwng cenedlaethau sydd wedi bod ar fy meddwl gymaint trwy'r broses guradurol hon. Mae'r gerddoriaeth gan y canwr Gwyddelig, Iarla Ó Lionáird yn cysylltu â lle ges i fy magu ac yn fy atgoffa faint rydyn ni'n ei gario gyda ni, waeth ble rydyn ni'n mynd." - Fearghus Ó Conchúir
Wedi'i guradu gan Fearghus Ó Conchúir ar gyfer #PethauBychain