Artist amlddisgyblaethol anneuaidd yw Ffion. Maen nhw'n Gyfarwyddwr Cyswllt ar gyfer House of Absolute, ac yn gynhyrchydd sain a ffilm, cyfansoddwr, bardd a dawnsiwr wedi'u eni a'u magu yng Nghymru. Mae Ffion hefyd yn siarad Cymraeg ac o dreftadaeth gymysg Cymraeg Grenadaidd. Cwblhaodd eu gradd yn Ysgol Dawns Gyfoes Llundain a Sefydliad Celfyddydau Califfornia yn 2013.
Mae Ffion yn archwilio gwleidyddiaeth ddyngarol trwy seicdreiddiad, iaith gorfforol, ac ysbrydolrwydd, ac mae ganddyn nhw ddiddordeb yng nghyd-destunau hil, rhywedd, diwylliant a hunaniaeth. Maent yn creu trwy ysbrydoliaeth o ddefod, mynegi gwahanol agweddau'r profiad dynol.
Mae Ffion yn gweithio ar draws disgyblaethau amrywiol fel llais, testun a barddoniaeth, celf weledol a digidol, a chynhyrchu cerddoriaeth, celf berfformiadol, arddangosiaeth, a mynegiant arbrofol gan gynnwys dawns gyfoes, hip hop, fem a krump, a therapi cyfannol a chrefftau ymladd.
Yn y ffilm yma, mae Ffion yn trafod dau ddarn o waith ffilm, darn unigol 'Hearth', a'r gwaith grwp 'Sanctuary', y ddau yn adlewyrchu ar yr ymdeimlad dwfn o berthyn, a chymuned, ac archwilio cymhlethdod a chyfoeth croestoriadoldeb yn niwylliant Cymru.
"Helo, fy enw i yw Ffion Campbell-Davies, rydw i'n artist amlddisgyblaeth sy'n gweithio gyda dawns, symudiad, cynhyrchiad sain a ffilm. Mae'n waith fwyaf diweddar yn archwilio fy mherthynas gyda Chymru, sef fy nhir genedigaeth, a fy mherthynas gyda'r iaith Gymraeg a'n ymdeimlad o gymuned.
Mae gen i ddau ddarn o waith penodol hoffwn drafod. Enw un ohonynt yw 'Hearth'. Mae'r teitl yn groestoriad o ddau air; 'Earth' a 'Heart'. Mae'n archwilio gweledigaeth person o liw, y perthynas rhwng agwedd gweledol ac agwedd synhwyraidd fy nhadiaith. Pa lefelau mae'n cyfeirio at o ran haenau gwleidyddol a chroestoriad dosbarth cymdeithasol, hil, a diwylliant fel y mae'n berthnasol i hanes Cymreig. Ynghyd a dileu menywod mewn hanes, a dileu gwahanol fathau o grwpiau brodorol ac ethnig, a'u storïau sy'n haeddu cydnabyddiaeth. Mae'n bwysig i gynrychioli pobl o darddiad Cymreig, sy'n dod o gefndiroedd a phrofiadau amrywiol a gwahanol. Roeddwn eisiau creu rhywbeth ni welais i erioed o'r blaen.
Gweithiais gyda grŵp o fenywod ar gyfer yr ail ffilm. Mae'n adlewyrchiad o'n hymdeimlad o berthyn, ac ymdeimlad o gymuned yng Nghymru. Mae'r darn hefyd yn gyrff o waith dwi'n meddwl sy'n bwysig o ran y naratifau sy'n bodoli o gwmpas mamolaeth a'r Fam Ddaear. Y perthynas croestoriadol rhwng sut ydym yn parchu'r ddaear a sut ydym yn parthu menywod o liw.
Dwi'n meddwl bod llawer o drafodaethau a phynciau cynnil sydd angen parhau i archwilio, er mwyn dadbacio a gwir ddeall sut i ddod o hyd i atebion dilys hir dymor ar gyfer pobl o bob math o gefndiroedd, ac atebion sy'n cadw hawliau, cydnabyddiaethau, adnoddau a pharch pobl sy'n uniaethu gyda etifeddiaethau amrywiol. Ac yn berthnasol i hynny felly, sut ydym yn trin, cyfathrebu, a pharchu'n tir. Mae llawer o gyffredinrwydd yn bodoli, ac mae adlewyrchu gwerthoedd ac egwyddorion yn bodoli llaw yn llaw gyda'r hyn rydw i wedi dweud. Un o'r rhesymau yr ydw i'n creu'r ffilm gwaith fel yr ydw i, yw er mwyn dod ag ymwybyddiaeth a hybu gwerthoedd sydd angen eu hymarfer yn fwy byth mewn cymdeithas."
Wedi'i guradu gan Marc Rees ar gyfer #PethauBychain