Nid darn o waith penodol yw’r dewis yma ond prosiect arbennig sy’n bartneriaeth rhwng Cyngor Celfyddydau Cymru, Peak Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac Ymddiriodolaeth Cwm Elan. Mae Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol yn rhoi grant o £25,000 yr un i 8 o artistiaid unigol neu unigolion creadigol, gan eu galluogi i dreulio 16 mis yn ymchwilio’n greadigol ar y thema “cysylltiad â byd natur”. Mae’n gyfle iddyn nhw fel artistiaid i herio eu dealltwriaeth a’u perthynas hwy â byd natur ond hefyd i’n hannog ni i ailgysylltu â hi. 

Yn y fideo isod, mae Dafydd Rhys – Prif Weithredwr Cyngor Celfyddydau Cymru – yn esbonio nod a budd y bartneriaeth. 

Yn y fideo isod, mae Clare Pillman – Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru – yn dadansoddi rôl y celfyddydau mewn cyflwyno a thrafod syniadau ac emosiynau sy’n gysylltiedig gyda heriau mwyaf bywyd. 

Yn ogystal â gwthio ffiniau o ran y gwaith y mae’r artistiaid yn ei greu, mae’n bwysig hefyd fod y strwythurau a’r sefydliadau sydd yno i gefnogi artistiaid yn newid ac y datblygu eu ffyrdd nhw o weithio. Wrth ystyried graddfa a dwyster yr argyfwng hinsawdd, mae’n rhaid i ni barhau i ddatblygu ffyrdd mwy creadigol o rannu gwybodaeth er mwyn ehangu ein dealltwriaeth o’r hyn sy’n digwydd o’n cwmpas. Un ffordd o wneud hyn yw trwy gydweithio ar draws ffiniau a sectorau gydag eraill na fyddai efallai yn cael ei ystyried yn bartneriaid traddodiadol. Felly braf iawn yw cael gweld y celfyddydau a sefydliadau byd natur yn cydweithio yn y fath modd. 

Un o’r artistiaid a ddewiswyd ar gyfer Cymrodoriaeth Cymru’r Dyfodol 2023-25 oedd Manon Awst. Mae Manon yn creu cerfluniau a gwaith safle-benodol wedi eu plethu â naratifau ecolegol ac yn ymddiddori mewn perthynas pobl a thirwedd dros amser, a'r ffordd y mae deunyddiau'n glynu at leoliadau a chymunedau ac yn eu trawsnewid. Mi ydw i wedi edmygu gwaith Manon ers amser maith felly roedd yn hyfryd gweld ei bod yn rhan o’r prosiect yma. Yn y fideo isod, gweler enghraifft o’r math o waith y mae hi wedi cael ei hysbrydoli i greu fel rhan o’r prosiect.