Mae’n deg dweud fod y bennod ddiweddara yn hanes ein planed a’i phobl wedi cael ei ddominyddi i ran helaeth gan elfennau hynod o dywyll a thrist. O’r argyfwng hinsawdd i’r dioddefaint a welir ym Mhalestina, mae’r teimlad o anobaith fel petai’n lledaeni. Yn ystod cyfnodau fel hyn mae pobl yn dueddol i droi at y celfyddydau i chwilio am gysur, ac yn wir mae yna rôl bwysig i’r celfyddydau. Yn ogystal â chydnabod cyfnodau llwm (neu lawen!) a’i hadlewyrchu mewn cyfryngau creadigol, mae’r celfyddydau hefyd yno i godi ac ysbrydoli pobl i ddod ynghyd, ac yn bwysicach fyth - i roi gobaith.
Roedd hyn yn glir ar flaen fy meddwl wrth ymchwilio i mewn i ba thema fyddai’n addas ar gyfer arwain prosiect Pethau Bychain eleni. Wrth wneud y gwaith yma fe ddes i ar draws fideo byr o ferch ifanc ar wefan Celfyddydau Rhyngwladol Cymru o’r enw Jessica a oedd yn trafod ei phrofiadau fel rhan o Blant y Cymoedd sef sefydliad sy’n darparu cymorth, cyngor a chyfleoedd hanfodol i bobl o bob oed yn Rhondda Cynon Taf. Fe fynegodd ei llawenydd wrth adlewyrchu ar sut y maent wedi rhoi gobaith iddi, gwneud iddi deimlo ei bod ‘nôl yn y golau’ a rhoi cyfeiriad a phwrpas iddi. Roedd y cysyniad hwn o ddefnyddio’r celfyddydau fel cyfrwng i godi hyder pobl a chymunedau ehangach yn un apelgar iawn. Felly’r pwyslais hyn ar obaith a goleuni wnaeth ysbrydoli themâu Pethau Bychain eleni.
Mae pobl yn chwilio am obaith a goleuni yn ystod cyfnodau caled, felly nod prosiect Pethau Bychain eleni yw amlygu celfyddyd sy’n cynrychioli’r ddwy nodwedd yma. Mae’r gwaith a’r prosiectau sydd wedi cael ei dewis yn cynrychioli sawl cyfrwng gwahanol ac yn trafod neu’n delio â themâu dwys mewn ffyrdd ysbrydoledig a gobeithiol. Wrth fynychu COP26, fe ddywedodd Taylor Edmonds - sy’n gyn-Fardd Preswyl Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol - fod gan artistiaid y gallu i gysylltu â phobl trwy eu gwaith a chyfathrebu’r neges y gall eiliadau o obaith a gweithredoedd bach wneud gwahaniaeth mawr. Felly dyma alwad i ni gyd wneud y Pethau Bychain.
Ani Glass yw ein curadur gwadd ar gyfer #PethauBychain 2024. Darllenwch am y thema a'r prosiectau a ddewisiodd yma: