Mae Jennifer Taylor yn gweithio gyda pherfformiad byw, ffilm a cherflun er mwyn archwilio ymddygiad defodol a systemau o reolaeth. Trwy uno syniadau o'r gorffennol hynafol cyfriniol gyda ffantasïau 'sci-fi' y dyfodol dychmygol pell, mae'n creu naratif absẃrd a realiti ffuglennol amwys. Yn y gyfres yma o ffilmiau, mae Jennifer yn plethu lleoliadau eiconig ei thref geni Sir Benfro, a'u trawsnewid mewn i gefndiroedd arallfydol sy'n cysylltu gydag amser dwfn, a chyflym.
Wedi'i guradu gan Marc Rees ar gyfer #PethauBychain