Mae'r curadur agoriadol #PethauBychain - Marc Rees - yn grewr a churadur perfformiad a darnau gosod, mae Marc Rees yn creu ymatebion artistig i le a chymuned, yn ailddarganfod deunydd a'i fowldio i bortreadau cyfansawdd er mwyn i gynulleidfa ymgolli ei hun yn y profiad.

Isod, fe glywn o Marc wrth iddo adael Glasgow, wedi iddo fod yn rhan o The Encampment of Eternal Hope yn ystod COP26.

Wrth i mi adael Glasgow, yn dilyn amser dwys iawn yn COP26 a rhoddodd digonedd o amser i mi feddwl, dwi'n symud fy ffocws braidd, wrth i mi gychwyn fel curadur gyntaf Pethau Bychain ar ran Celfyddydau Rhyngwladol Cymru.

Yn COP, gwariais lawer o'n hamser yn 'The Encampment of Eternal Hope', sef darn gosod gan yr artistiaid Walker & Bromwich, a lle chafodd 'Possible Dialogues' ei gynnal, digwyddiad lle cyflwynais drafodaeth a chythrudd ar ei chyfer, o dan yr enw CROMEN(ology) - from genesis, gestation to gleaning. Ffocws y sgwrs oedd dau ddarn o waith diweddar. Roedd y darn gyntaf, sef cerflun deori CROMEN, a'i esblygiad wedi hynny, yn gweld disgwrs parhaol gyda'r artist/actifydd o Tasmania - Dave mangenner Gough, a'r ail - sef ffilm amgylcheddol I S O S T A Y - wedi'i wneud mewn cydweithrediad a Simon Clode. Bwriad y ddau ddarn yw ystyried a gwynebu'r materion a sialensiau o bwys sydd wedi dod i'r amlwg wrth i ni ail-ymddangos o'r pandemig byd-eang, ac i lywio'r dirwedd ddiwylliannol newydd wrth i ni fynd i'r afael a bygwth trychineb yr hinsawdd yn uniongyrchol.

Mae Diálogos Posibles/Possible Dialogues yn fenter er mwyn cysylltu arweinwyr cymdeithasol ac amgylcheddol, actifyddion, artistiaid, ac academyddion sydd â diddordebau cyffredin sy'n berthnasol i newid a chyfiawnder hinsawdd, ac sydd ddim wedi cael y cyfle i ryngweithio.

Cafodd ei sbarduno gan sgwrs rhwng Hector Fabio Yucuna Perea, Cydlynydd Pobl Ifanc Sefydliad Pobloedd Brodorol yr Amazon Colombiaidd (OPIAC) ac aelodau Más Arte Más Acción yn 2019. Cwestiynon nhw sut gall brwydrau'r pobloedd brodol cael eu rhannu o fewn y dadlau hinsawdd, a'u lleisiau wedi'i ystyried yn iawn yn nhrafodaethau hinsawdd sy'n cael effaith ar eu tiriogaethau.Wrth agor y cwestiynau yma lan i artistiaid a sefydliadau gyda diddordeb mewn cyfiawnder amgylcheddol sy'n bodoli yn Yr Alban, daeth Possible Dialogues i'r amlwg yn 2020 pan fu'r glymblaid yn cwrdd ar-lein er mwyn adeiladu perthnasoedd, rhannu gwybodaeth, a phrofi syniadau. Erbyn hyn, mae'n brosiect creadigol aml-haen sy'n dod a phartneriaid yn Yr Alban a Colombia at ei gilydd, gan gynnwys yn ystod COP26 (cynhadledd hinsawdd yr arweinwyr byd-eang yn Glasgow yn 2021), o fewn 'The Encampment of Eternal Hope'.

Roedd e'n gyfle arbennig i fod yn rhan o Possible Dialogues, ac i rannu persbectif Cymraeg o fewn cyd-destun y cydweithrediad parhaol rhwng finnau a Dave. Fe ddaeth yn berthnasol fwy byth pan darganfyddais yn ystod cyfweliad gyda Walker & Bromwich, bod 'The Encampment of Eternal Hope' wedi'i egino o gyfnod preswyl yn Coed Hills, lleoliad ychydig tu allan i Gaerdydd, ac felly mae gan y fenter gwreiddiau Cymraeg sydd wedi'i drawsblannu ac yn awr yn blodeuo yn Yr Alban.

 

Cyn i mi gychwyn ar rannu gwaith rhai o'r artistiaid sy'n cyseinio gyda'r argyfwng hinsawdd a'r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru dros yr wythnosau nesaf, hoffwn rannu ffilm gan Más Arte Más Acción, ac un arall cafodd ei ddatblygu yn ystod fy amser fel 'artist mewn adfer' yng Nghanolfan Celfyddydau Taliesin, lle dderbyniais grant ymsefydlogi o Gyngor Celfyddydau Cymru er mwyn llunio ac arbrofi gyda CROMEN. O'r arbrawf yma, daeth y ffilm perfformiadol Carbon 19 > a movement mantra a sgwrs gyda Dave fel rhan o gyfres podcast  Creative Landscapes, wedi'i drefnu gan Articulture a'i gynnal gan yr artist Lisa Heledd Jones.

Pethau Bychain: Mae gwneud y pethau bychain yn gallu gwneud gwahaniaeth yn ein cymunedau ar draws Gymru, i'n planed, a'n llesiant ein hun. #PethauBychain yw'r ymgyrch i rannu negeseuon llesiant sector diwylliannol Cymru ar lwyfan byd-eang.