Ychydig dros wyth mlynedd yn ôl, safodd Panti Bliss ar lwyfan yr Abbey, Theatr Genedlaethol Iwerddon a thraddododd araith am homoffobia a symbylodd sylw nid yn unig yn Iwerddon, ond ledled y byd. Fel y dywed Panti, mae homoffobia yn cael ei fewnoli. Mae'n dod yn rhan o'n cyrff, ein meddyliau, ein perthnasoedd a'n diwylliannau. Yn ôl arolwg gan Just Like Us, mae 73% o bobl LHDT+ rhwng 11 a 18 oed yng Nghymru wedi profi meddyliau a theimladau hunanladdol. Mae Noble Call gan Panti yn ein hatgoffa bod gennym ni waith i’w wneud o hyd. Y mis nesaf fel rhan o ddathliad Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon o hanes LHDT+, bydd Mark Etheridge, sy'n Guradur yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan yng Nghaerdydd, yn rhoi cyflwyniad ar-lein am y gwaith parhaus gydag unigolion a grwpiau cymunedol i gasglu gwrthrychau ar gyfer casgliad Sain Ffagan, sy'n cynrychioli profiadau a digwyddiadau LHDT+ cyfoes yng Nghymru.

Wedi'i guradu gan Fearghus Ó Conchúir ar gyfer #PethauBychain