- Ysgrifennwyd gan Yasmine Davies

Canwr-gyfansoddwr o Gymru ydw i sy’n 26 oed. Rwyf hefyd yn rheolwr prosiect ac athro/ hyfforddwr. Am y ddwy flynedd ddiwethaf rwyf wedi bod yn gweithio ar fy liwt fy hun yn rhan amser, cyn dechrau swydd newydd yn Operasonig yn 2023 fel arweinydd newydd sy'n datblygu.

Ar hyn o bryd rwy'n gweithio wrth ochr y cynhyrchydd gweithredol i gynnal prosiectau amrywiol yr elusen, trefnu digwyddiadau a mynychu hyfforddiant sy'n canolbwyntio ar fy natblygiad i arwain a rheoli yn y diwydiant cerddoriaeth. Oherwydd fy mod yn lesbiaidd, prif ffocws fy ngwaith yw cefnogi a hyrwyddo'r gymuned LHDT+ yn y sector cerddorol yng Nghymru. Gellir gweld hyn drwy fy ngwaith llawrydd gyda Beacons Cymru ar brosiect yr oeddwn yn gwneud yr ymchwil a’r datblygiad o'r enw Resonant. Mae'r prosiect yn helpu'r rhai sy'n nodi eu bod ar y cyrion o ran rhywedd i uwchsgilio, hyfforddi a gweithio mewn swyddi y tu ôl i'r llenni yn y sector cerddorol. Mae hyn yn cynnwys technoleg sain, cynhyrchu, goleuo, fideograffeg a rhagor. Nod fy ngwaith gyda Resonant yw helpu i fynd i'r afael â'r anghydbwysedd rhwng y rhywiau sydd mor amlwg yn yr agweddau hyn ar y diwydiant.

O fis Medi eleni, byddaf yn darlithio ym Mhrifysgol y De, ar y cwrs MA Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu, y graddiais ohono yn 2022. Yn ogystal, rwy'n arwain y band roc-seicig o Gaerdydd, Banshi. Cawsom arian gan Gronfa Lawnsio Gorwelion y BBC yn gynharach eleni, ac yn fwyaf diweddar gwnaethom berfformio ar noson agoriadol gŵyl arddangos ryngwladol Focus Wales yn Wrecsam.

RESEO Conference, Paris

- Ymweliad a ariennir gan y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol

Ddiwedd mis Medi 2023, mynychais Gynhadledd RESEO ym Mharis fel rhan o garfan gydag Opersonig, a oedd yn cynnwys lleoliadau a oedd yn ymweld fel Opera Comique a Philharmonie de Paris. Y peth pwysicaf i mi ei ddysgu oedd pwysigrwydd cadw treftadaeth ddiwylliannol, traddodiad ac iaith. Mynegodd rhai o'r addysgwyr y siaradais â nhw pa mor anodd yw hi i wneud Opera yn hygyrch, ac i mi, roedd yn ymwneud â sut nad yw traddodiadau a/ neu’r Gymraeg yn hygyrch i bawb yng Nghymru. Mae'n bwysig cynnig a chreu lleoedd lle gall unrhyw un gymryd rhan, mwynhau neu ddysgu am ein treftadaeth/ hanes brodorol. Rwy'n gweithio gydag Operasonig i ddatblygu rhaglen gerddorol am hanes a mythau Cymru i addysgu'r genhedlaeth nesaf am ein diwylliant. 

Dysgais o'r drafodaeth banel ar y diwrnod cyntaf, er bod y rhan fwyaf o weithgareddau sy'n ymwneud ag opera yn cael eu hariannu a'u cadw'n dda, nid yw addysg ac allgymorth cymunedol yn cael digon o sylw. Mae'r bobl sydd am wneud opera yn hygyrch yn ei chael hi'n anodd cysylltu â’r cyhoedd, nid oherwydd diffyg ymdrech, ond oherwydd bod yn rhaid iddynt ddod o hyd i ffyrdd o oresgyn y ddelwedd bod opera i’r crachach. Fy argymhelliad i yw y dylai Operasonig ystyried ailfrandio ers mynychu RESEO. Mae enw ein helusen yn pwysleisio ein bod yn canolbwyntio ar opera neu wedi'n hyfforddi yn y maes, ac mewn gwirionedd, ychydig iawn o'r hyn a wnawn sy'n ymwneud ag opera neu gerddoriaeth glasurol. Er mwyn i ni allu cael gafael yn ein cymuned ein hunain (Casnewydd), credaf y dylem ddefnyddio enw sy'n cynrychioli'r gwaith a wnawn sy'n seiliedig ar gerddoriaeth gyfoes yn bennaf. Er ein bod yn cynnig rhai gweithdai ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn opera, dylem fod yn ymwybodol o'r arwyddocâd sydd ynghlwm wrth y gelfyddyd a pha mor ddieithr y gallai fod i'r rhan fwyaf o gerddorion, gweithwyr llawrydd a noddwyr y mae ein helusen yn dibynnu arnynt.

Roedd y gweithdy 'Ysgol D@lent' yn wych gan ei fod yn rhoi cipolwg ar sut i ymgysylltu â phlant ysgol gynradd. Gan ddefnyddio technoleg i'w cyffroi gan gerddoriaeth glasurol ac opera, roedd yn rhyfeddol o effeithlon, yn swnio'n naturiol iawn ac roedd yn ymarfer hwyliog yn ystod cynhadledd hir. Roeddwn i'n meddwl bod defnyddio technoleg fel hyn (gyda thabledi) yn teimlo fel dysgu'r plant yn eu hiaith dechnolegol eu hunain, gyda chymaint o blant ifanc yn cael mynediad at dabledi gartref ac sy’n gwylio a chwarae gemau arnyn nhw. Roedd hyn yn teimlo fel cwrdd â nhw ar eu lefel eu hunain i ymgysylltu â nhw a'u hysbrydoli i greu, dysgu a gwerthfawrogi cerddoriaeth o gannoedd o flynyddoedd yn ôl.

Roedd y prosiect perfformio yn y carchar yn effeithiol ac yn dangos ffyrdd diddorol o ymgysylltu â chymdeithasau sydd â'r poblogaethau mwyaf ymylol drwy dechnoleg, gan allu cynnwys carcharorion nad oeddent yn gallu cael caniatâd i wneud y sioe gerbron cynulleidfa. Roedd yn caniatáu iddynt barhau i gymryd rhan a chreu perfformiad cyfrwng cymysg a allai gael ei ddefnyddio mewn sawl ffordd. Roeddwn i'n meddwl efallai gyda'r rhai yn y carchar y gallent gymryd rhan yn ein prosiect Si-hei-lwli a chael sesiwn rannu neu berfformiad sy'n cael ei ffrydio ar gyfer teuluoedd.

Yn olaf, rhoddodd y daith i RESEO gyfle i mi ddod i adnabod Operasonig yn well fel sefydliad. Roeddwn yn un o dri gweithiwr proffesiynol ifanc a ddewiswyd ar ôl gwneud cais i fynychu'r gynhadledd gydag Operasonig. Ar y pryd, dim ond ar sail lawrydd yr oeddwn i’n gweithio i’r sefydliad. Erbyn hyn fi yw'r arweinydd sy'n datblygu ar gyfer Operasonig a chredaf fod y daith i Baris yn gyfle gwych a arweiniodd at fy swydd bresennol yn y sefydliad.

Gallwch bori drwy'r oriel o luniau o ymweliad Yasmine i Gynhadledd RESEO isod.

 

Cafodd ymweliad Opersonic i RESEO ei ariannu gan y Gronfa Cyfleoedd Rhyngwladol. Dysgwch fwy am y gronfa yma.

Sgroliwch trwy'r oriel isod trwy lusgo'ch llygoden ar draws y llun a ddangosir.