Mae Utopias Bach wedi'i wreiddio'n lleol a'i neges yn cyseinio'n fyd-eang, wedi'i greu gan y rhai sy'n cymryd rhan, ac yn agored i bawb.

Wedi'i ysbrydoli gan, a'i sylweddoli yn ystod cyfnod clo 2020, mae Utopias Bach yn eich gwahodd i ail-feddwl Utopia fel un sydd wedi'i wreiddio yn ei le, wrth dyfu cysylltiadau ledled y byd.

"Rydym yn eich gwahodd i ddychmygu a rhoi cynnig ar bethau bach a allai mewn rhyw ffordd helpu i greu lle gwell i bobl o bob math (dynol a mwy na dynol), yn enwedig y rhai sy'n cael eu heffeithio fwyaf gan gyflwr y byd.
Dan ni’n cydweithio ag artistiaid, ysgolion  a chymunedau a’u gwahodd i greu eu ‘Utopias Bach - revolution in miniature’ eu hunain i  adlewyrchu ac i sbarduno newid cadarnhaol yn ein cymdeithas." 
- Utopias Bach

Mae'r ffordd yma o weithio yn herio'r straeon bydol 'siawns olaf' yn uniongyrchol, fel mae Suzanne Dhaliwal yn cynnig, "invite draconian responses centring wealth, instrumental nature, techno fixes, large scale annexation of land and water."

Un o ddau ddull maent yn eu defnyddio er mwyn dadcoloneiddio'n feddwl, yw trwy 'delweddiadau dan arweiniad' - gan gynnwys 'Trawsffurfiad' - sy'n ein caniatáu i brofi posiblrwydd ffordd arall o fodoli.

Wedi'i guradu gan Marc Rees ar gyfer #PethauBychain