Beth yw eich cysylltiad chi â phobl, ieithoedd, cerddoriaeth a diwylliant y Celtiaidd?
Eleni, mae’r sylw ar Gymru wrth inni gynnal a chefnogi nifer o ddigwyddiadau fel rhan o Showcase Scotland a Celtic Connections. Rydyn ni’n gofyn ichi ymuno â ni i rannu eich cysylltiadau Celtaidd chi, beth bynnag mae hynny’n ei olygu ichi. Gwnewch hyn drwy ddefnyddio’r hashnod #PethauBychain ar y platfformau cymdeithasol.
Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sy’n cychwyn y daith wrth inni gysylltu â’n chwiorydd a’n brodyr Celtaidd yn y pedwar ban.
Siwrnai fywyd ydy hon i mi. Siwrnai sydd wedi’i gwreiddio yn fy nghynefin. Ac eto’n llywio’r daith mae perthynas fy nghynefin â’r byd.
I am excited to be part of the Wales Team at Celtic Connections, preparing to showcase some of the best contemporary music from Wales digitally at Showcase Scotland and Celtic Connections Festival.
Fel pawb arall sy’n rhan o’r ŵyl, rydw i’n teimlo’n siomedig i’r byw dros yr artistiaid a’r cynulleidfaoedd mai dim ond yn ddigidol mae modd gwneud hyn. Eto i gyd, rydw i’n falch neilltuol o’r hyn rydyn ni’n ei baratoi – rhywbeth y bydd modd ichi ei weld yn ei gyfanrwydd gyda thocyn gŵyl digidol Celtic Connections. Ac mae hwnnw’n werth pob ceiniog, wir ichi! Mae fel potel ddŵr poeth dda: rhywbeth sy’n gwbl angenrheidiol wrth i’r oerni afael ym mis Ionawr a mis Chwefror.
Dyma’r darn cyntaf o nifer y bydda’ i’n eu hysgrifennu am fy hunaniaeth ddiwylliannol Geltaidd, sy’n rhoi lens imi ar y byd ac ar y byd yng Nghymru.
A beth ydy ‘Celtigrwydd’ beth bynnag... a fy mherthynas innau â therm rydw i’n ei wisgo fel y bathodyn ‘Ewropeaidd’ y dyddiau hyn?
Mae’n fathodyn sy’n arwydd o anrhydedd a pharch, hiraeth ac anfodlonrwydd. Ond eto, hyd y dydd hwn, yn debyg i’r label Ewropeaidd, mae llawer o bobl yma yng Nghymru ac yn y gwledydd Celtaidd eraill sy’n troi’u trwynau arno.
Bydd pobl yn dal i fy herio am siarad Cymraeg â fy mhlant yng Nghymru... hyd yn oed pobl rydw i’n eu hoffi!
Bydd pobl hefyd yn credu’n goeglyd nad ydy Cymru mor Geltaidd ag Iwerddon neu’r Alban, ond o bosib yn fwy Celtaidd na Chernyw neu Lydaw. Ac rydyn ni’r Cymry ein hunain yn gallu trin y bathodyn Celtaidd yn sinigaidd, a ninnau wedi ein dal yng nghanol gwe o gysylltiadau ac argraffiadau cymhleth sydd wedi goroesi o’r oes ymerodraethol.
Yn 2022, fodd bynnag, mae’n bryd cnoi cil am hyn oll...a bydd angen eich cymorth chi arna’ i.
Ymatebwch. Ewch ati i ddarganfod celfyddyd a seiniau a cherddoriaeth Geltaidd wych a chyfoes o bob math, cyn eu rhannu â ffrindiau, cydweithwyr ac anwyliaid. Ond hefyd, prynwch eu celfyddyd, da chi... fel pob artist, mae angen eich cefnogaeth chi ar y cerddorion hyn yn dâl am y mwynhad o ddarganfod eu cerddoriaeth.
Fe fydda’ i’n creu fy nhrac sain Celtaidd fy hun ar gyfer gŵyl 2022, ac yn rhannu hwnnw dros y 7 wythnos nesa’. Ac fe fydda’ i’n cyflwyno cân i rai o’r bobl y bydda’ i’n eu crybwyll...
Andrew Mulholland, fy hen gyfaill o Glasgow, oedd y ffrind mynwesol cynta’ imi’i gael o genedl Geltaidd arall. Fe gwrddais ag Andrew yn 16 oed, yng Ngholeg yr Iwerydd. Rhyfedd o fyd, ond mae Andrew bellach yn ôl yn y Fro.
Wrth wneud, dyma godi llaw hefyd ar y Celtiaid eraill o wahanol anian a threftadaeth oedd yng Ngholeg yr Iwerydd: Carla Stephen, Jane Rafter, Vicki O'Donnell, Robin Jenkins, Graham Da Gama Howells, Sian Morgan Horatio, Clare Martha Howells, a Ceri Llewelyn.
Ym Mrwsel y cwrddais â’r criw nesaf o Wyddelod, Albanwyr, Cernywiaid, Llydawyr a Galisiaid. Bydd hyn yn destun clamp o ddarn gen i yr wythnos nesa’, er cof am Donald MacInnes, fy nghymydog annwyl.
Donald oedd y cynta’ i fy nghyflwyno i Celtic Connections ac i Geltiaid rhyfeddol o bob cwr o Ewrop. Pobl y byddwn i’n eu cwrdd bob blwyddyn i wrando ar rywfaint o’r dalent Geltaidd orau yn y byd. Roedd yn dotio’n fawr at gerddoriaeth Gwyneth Glyn, ac mae’n biti garw na fydd yn cael clywed yr arddangosfa rwy’n ei chefnogi er cof amdano.
Ond mwy am hynny yr wythnos nesa’.
Rhannwch eich cysylltiadau Celtaidd â ni ar y cyfryngau cymdeithasol drwy ddefnyddio #PethauBychain