Mae Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Sophie Howe, mewn cydweithrediad â Llenyddiaeth Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru, yn datgan cyfle cyffrous i fardd fydd yn dod â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn fyw.

Beth yw’r materion pwysicaf oll sy’n wynebu cenedlaethau’r dyfodol yng Nghymru a thu hwnt? Ai’r newid yn yr hinsawdd, sgiliau’r dyfodol, cyfiawnder cymdeithasol, neu oroesiad ein celfyddyd a’n hiaith? Beth yw eich gobeithion a’ch dymuniadau ar gyfer eich dyfodol chi a chenedlaethau’r dyfodol? Beth ddylai ein hetifeddiaeth hirdymor fod?

Mae COVID-19 wedi tynnu sylw at y rôl bwysig y gall diwylliant ei chwarae yn y dasg o alluogi pobl i ddarganfod dihangfa, mynegi eu hunain, breuddwydio, dychmygu a theimlo cysylltiad ag eraill. Bu llawer enghraifft o wahanol rannau o Gymru o artistiaid, dawnswyr, beirdd, perfformwyr, awduron ac eraill yn arloesi er mwyn sicrhau bod ein diwylliant a’n hieithoedd yn ganolog i’n hymateb a’n hadferiad.

Mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn unigryw i Gymru fel deddf sy’n ei gwneud yn ofynnol i weithrediadau gwleidyddol heddiw ystyried a gwarchod hawliau pobl nad ydynt eto wedi cael eu geni.

Mae deddfwriaeth llesiant arloesol Cymru yn denu diddordeb gwledydd ledled y byd wrth iddi gynnig cyfle i wneud newid parhaus, cadarnhaol i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.

Yn ystod y cyfnod preswyl, blwyddyn o hyd, bydd y bardd dewisedig yn cael y cyfle i ymgysylltu â thîm Cenedlaethau’r Dyfodol, Academi Arweinyddiaeth Cenedlaethau’r Dyfodol, cyrff cyhoeddus a phobl ledled Cymru i gynorthwyo datblygiad eu gwaith. Byddant hefyd yn cael eu cynorthwyo drwy berfformiadau byw a chynnwys digidol.

 

Dywed Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru:

“Rydw i’n teimlo’n llawn cyffro wrth wahodd bardd i ymuno â ni i herio a chynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus i greu’r Gymru a garem ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rwy’n ddiolchgar i Rufus Mufasa ein Bardd Preswyl cyntaf am yr holl waith a greodd - a gobeithiaf adeiladu ar y creadigaethau ysbrydoledig a wnaeth hi eu datblygu.

“Mae’r celfyddydau’n chwarae rôl hollbwysig yn ein llesiant ac yn cynnig dull gwahanol o gyfathrebu a deall y byd o’n cwmpas.”

Mae enghreifftiau o gyrff cyhoeddus yn ymgorffori celfyddydau mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill yn cynnwys cyfnod preswyl Mererid Hopwood yn uned gofal lliniarol Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Patrick Jones, bardd preswyl yng Ngholeg Brenhinol Seiciatreg Cymru.

Ychwanegodd y Comisiynydd: ‘Rydw i wrth fy modd ein bod yn gallu gweithio unwaith eto gyda bardd yng Nghymru i gyfleu ein gwaith yn greadigol a dangos ein hymrwymiad i ddiwylliant. Mae ymarferwyr creadigol wedi addasu a chroesawu dulliau newydd o weithio yn ystod y misoedd diwethaf a thra’u bod yn parhau i wynebu’r heriau anodd sydd o’u blaenau, gobeithiaf y bydd y cyfle hwn, ac eraill ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus yn y misoedd sydd i ddod, yn gwneud eu marc mewn dull arwyddocaol wrth i ni baratoi nid yn unig i adeiladu nôl yn well ond hefyd i adeiladu nôl yn greadigol.

 

Dywedodd Lleucu Siencyn, Prif Weithredydd Llenyddiaeth Cymru:

“Mae Llenyddiaeth Cymru yn falch o gydweithio ar y prosiect hwn gyda Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru. 

Mae'r rôl hon yn cynnig cyfle i fardd, boed ar gychwyn eu gyrfa neu'n fardd profiadol, i ennill profiadau newydd a datblygu eu crefft ymhellach, yn ogystal â rhoi cyfle i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i fanteisio ar y cyfle i leisio eu barn mewn ffyrdd creadigol, gan ddangos sut y gall barddoniaeth fod yn ddull o fynegi ein hunain a rhannu ein syniadau gyda'r byd."

 

Dywed Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:

“Rydyn ni’n falch iawn i gefnogi’r swydd breswyl gyffrous hon. Mae gan ddiwylliant, iaith ac artistiaid talentog Cymru ran bwysig i’w chwarae mewn datblygu cynaliadwy. Yr her i'r bardd llwyddiannus fydd ysbrydoli pobl yng Nghymru a ledled y byd i gyfrannu at nodau byd-eang ac i'n Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol arloesol.”

 

Pwy fedr wneud cais?

Unrhyw fardd yng Nghymru 

Am ragor o fanylion am y swydd breswyl dilynwch y ddolen neu cysylltwch â: cysylltwchani@cenedlaethaurdyfodol.cymru

Dyddiad cau: 12pm, 11eg Mawrth 2021