Mae ‘Cysylltu a Ffynnu’ yn gronfa a gefnogir gan y Loteri Genedlaethol, wedi’i chreu i annog prosiectau cydweithredol rhwng sefydliadau, unigolion, a gweithwyr proffesiynol creadigol.

Bydd y gronfa Cysylltu a Ffynnu yn cefnogi ac annog prosiectau cydweithredol rhwng sefydliadau, unigolion, a gweithwyr proffesiynol creadigol, ac yn cynnig grantiau rhwng £500 a £150,000. Bydd pwyslais cryf ar gysylltu artistiaid unigol gyda grwpiau a sefydliadau sydd ddim o reidrwydd yn rhai celfyddydol, yn ogystal â llenwi’r bylchau yn seilwaith y celfyddydau y mae'r pandemig cyfredol wedi'u hamlygu.

Bydd y gronfa yn helpu i roi cyfle i leisiau sydd ddim yn cael eu clywed yn amal, ac yn gam tuag at wneud y celfyddydau yng Nghymru yn fwy cynrychioliadol a hygyrch. Mae Cyngor y Celfyddydau yn chwilio am syniadau sy'n dangos cysylltiad go iawn â phobl leol a chymunedau amrywiol Cymru.

Dyma gyfle i ddechrau'r broses o ail-ddychmygu sut y gall artistiaid ym mhob maes o fywyd creadigol, o artistiaid gweledol i ddylunwyr goleuadau, gynnal eu hunain a darganfod gwahanol ffyrdd o wneud celf yn sgil effaith dinistriol Covid-19 ar y sector gelfyddydol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau ar gyfer y rownd gyntaf yw 4 Tachwedd. Bydd ail rownd yn agor ddiwedd mis Ionawr fel y gall prosiectau gymryd yr amser i ddatblygu'n iawn.

I gefnogi'r rhaglen newydd, rydym yn eich gwahodd i sesiwn friffio ddigidol gyda chefnogaeth Canolfan Gelf Butetown, Neuadd Ogwen, Disability Arts Cymru, a Chwmni Theatr Taking Flight. Cliciwch yma i archebu'ch lle ar Sesiwn friffio Cysylltu a Ffynnu.

Mae manylion llawn am y gronfa a chanllawiau ar gael wrth glcio yma.