Mae’r prosiectau yn dwyn ynghyd 82 o sefydliadau yn y Deyrnas Unedig a 48 o bartneriaid rhyngwladol. Mae’r rheini wedi’u lleoli mewn o 24 o wledydd gwahanol, o Fecsico i Kenya, o Barbados i Awstralia, ac o sawl rhan o Ewrop a’r Unol Daleithiau. 

 

Gyda chyllid gan Creative Scotland, Arts Council England, Arts Council Northern Ireland a Chyngor Celfyddydau Cymru/Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae cynllun peilot Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl yn cefnogi cynigion sy’n cael eu harwain gan artistiaid ac sy’n rhoi sylw i rai o’r materion mawr sy’n wynebu cymdeithas – fel cyfiawnder cymdeithasol, hunaniaeth rhywedd a chynaliadwyedd amgylcheddol – a hynny mewn ffyrdd newydd, arloesol. 

 

Creative Scotland sy’n rheoli’r broses ymgeisio ar ran asiantaethau a chynghorau celfyddydau’r pedair cenedl.

 

Dyma ddetholiad o’r prosiectau sy’n cael cyllid:

Mi fydd Celtic Neighbours Partnership yng Nghymru yn mynd ati i greu ‘gwrthdrawiadau diwylliannol’ rhwng cenhedloedd a chymunedau ieithyddol llai Ewrop a’r Deyrnas Unedig.  Gan weithio gyda chymunedau gwledig yng Ngheredigion a Bro Morgannwg (Cymru), Cernyw, Shetland a Na h-Eileanan Siar (yr Alban), y Gaeltacht yn Iwerddon, yr Iseldiroedd (Fryslân) a Serbia (Sirogojno), bydd eu prosiect diweddaraf yn golygu cyfnewid arteffactau, gweithiau celf a chrefft, gweithiau ysgrifenedig a recordiadau sy’n crisialu eu diwylliannau unigol a hynny gyda’r nod o greu cyfeillgarwch a goddefgarwch a rhannu dyheadau.  

 

Bydd cydweithfa ryngwladol arloesol English Folk Expo, sef Global Music Match (a sefydlwyd gan Showcase Scotland Expo a phartneriaid GMM) yn galluogi cannoedd o gerddorion ym maes canu gwerin, canu’r byd a chanu gwreiddiau i gysylltu’n fyd-eang.

 

Meddai Danny Antrobus, Rheolwr Datblygu English Folk Expo: “Mae’r tîm yn English Folk Expo yn hynod o falch ein bod wedi helpu i sefydlu Global Music Match, gan weithio gyda ein partneriaid ym mhob cwr o’r byd i gefnogi dros 170 o artistiaid mewn 17 o wledydd i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, yn ogystal ag annog cydweithio cyffrous a rhoi sylfaen gadarn ar gyfer teithio yn rhyngwladol yn y dyfodol.

 

“Wrth i’n partneriaeth gamu i’w thrydedd blwyddyn, rydyn ni’n ddiolchgar o gael cefnogaeth Cronfa Ryngwladol y Pedair Cenedl a fydd yn helpu Global Music Match i gefnogi mwy fyth o artistiaid mewn mwy fyth o wledydd, gan gyflwyno cerddoriaeth werin a cherddoriaeth wreiddiau anhygoel y byd i gynulleidfaoedd newydd.”

 

Bydd Shrek 666, y bwgan drag o Glasgow, yn ymuno â grŵp rhyngwladol o artistiaid drag sy’n herio rhywedd mewn cyfres o breswylfeydd hybrid ar-lein/byw dan arweiniad Oozing Gloop. Bydd y cyfan yn diweddu â pherfformiad rhyfeddol ym mhob un o wyliau’r partneriaid craidd - Take me Somewhere (Glasgow), Fierce (Birmingham) a Kampnagel (Hamburg). 

 

Meddai Karl Taylor o Take Me Somewhere: “Bydd y cyllid hwn yn datblygu ar boblogrwydd lleol anferth Shrek666 ac yn eu cysylltu â’u cymheiriaid rhyngwladol i fynd ati ar y cyd i greu sioe glwb ysblennydd, dywyll ar gyfer 2023. Prin yw’r cyfleoedd yn yr Alban ar gyfer prosiectau perfformio drag a chlwb amgen ar raddfa fawr, felly mae cyfleoedd i gydweithio ar draws ffiniau gyda chymorth cyllid fel hwn yn hanfodol.”

 

Gyda chymorth yr elusen gelfyddydau i bobl anabl, The University of Atypical, sydd wedi’i lleoli yn Belfast, bydd Sinéad O’Donnell, y Wyddeles a’r artist perfformio, yn cydweithio â Selina Bonelli(Folkstone, Lloegr) a Marta Bosowska (Poznan, Gwlad Pwyl) ar brosiect newydd sydd wedi’i arwain gan bobl anabl, sef Tairseach (Gaeleg) / Próg (Polish). Ystyr hyn yw ‘trothwy/dechreuadau rhywbeth’. Y bwriad yw datblygu dull hybrid o ymgysylltu’n greadigol gan ddefnyddio deialog ar-lein a chyfuniad o ymchwil rhithwir ac ymchwil wyneb yn wyneb, gan wireddu’r cyfan drwy gyfnod preswyl a pherfformiad yn Belfast.  

 

Meddai Sinéad O’Donnell“Rydyn ni’n artistiaid perfformio, yn fenyw ac yn anneuaidd, sy’n dod ynghyd i ganfod ffyrdd newydd o barhau i greu celfyddyd mewn byd ar ôl y pandemig, gan ddatblygu methodolegau newydd ac arloesol y gallwn ni ac artistiaid eraill eu defnyddio. Nid yw’r prosiect hwn yn golygu addasu ac ymdopi yn unig, ond yn hytrach mae’n golygu cydnabod bod y byd wedi newid ac na fydd ein harferion fyth yr un fath. Rydyn ni am ddefnyddio’r prosiect hwn i ddatblygu ffyrdd newydd o weithio sy’n cwmpasu’r gorffennol a’r pandemig, ond yn addasu i ni.”

 

Prosiect ymchwil archifol a theatr yw Reclamation sydd wedi’i ddatblygu gan Aisha Josiah, yr awdur a’r cynhyrchydd o Gaeredin, Rachel Nwokoro, y bardd a’r artist amlddisgyblaethol o Lundain, ac Olivia Songer, y cyfarwyddwr o Efrog Newydd. Mae’r prosiect yn ymateb i arteffact a berthynai i bobl yr Igbo o Nigeria ac sydd ar hyn o bryd i’w weld yn y Wellcome Collection yn Llundain. Bydd y prosiect yn archwilio sut y cafwyd gafael ar y darn yn ystod rheolaeth drefedigaethol Prydain yn ystod yr ugeinfed ganrif, gan edrych ar ei ddefnydd gwreiddiol yn nefodau traddodiadol yr Igbo, ac ailddychmygu sut y gellid cyflwyno’r darn i gynulleidfa gyfoes.

 

Meddai Aisha Josiah: “Mae prosiect Reclamation yn ymateb i’r angen penodol i sefydliadau diwylliannol edrych o’r newydd ar eu harddangosfeydd mewn cyd-destun ôl-drefedigaethol. Drwy ymwneud â darnau hanesyddol ac archwilio’u harwyddocâd yn y presennol, rydyn ni’n annog sefydliadau fel Wellcome a’r cymunedau maen nhw’n eu gwasanaethu i weld adrodd straeon diwylliannol fel “stryd ddwyffordd”, fel proses barhaus a hwythau’n bartneriaid cyfartal.”

 

Bydd Wide Events CIC, (sy’n cynnal cynhadledd gerddoriaeth Wide Days yr Alban) yn ymuno â gŵyl arddangos ryngwladol Focus Wales a siop finyl a label recordio o Fecsico, La Roma Records, i ddwyn ynghyd weithwyr proffesiynol o’r diwydiant cerddoriaeth, y cyfryngau cerddoriaeth ac artistiaid sy’n barod i allforio o’r tair gwlad. Y bwriad fydd cynnal arddangosfeydd i’r farchnad a chyfarfodydd hamddenol, ynghyd â chyflwyno pobl i’w gilydd.

 

Meddai Olaf Furniss, Sylfaenydd Wide Days: “Rydyn ni’n edrych ymlaen at weithio gyda’n ffrindiau yn La Roma Records a Focus Cymru i gysylltu pobl a chreu’r sylfeini ar gyfer cydweithio yn y dyfodol, ynghyd â gweithio gyda chynrychiolwyr masnach wyneb yn wyneb. A minnau’n newyddiadurwr, fe roddais sylw i sîn glybiau Mecsico wrth iddi flaguro, gan gyfweld â bandiau a DJs gwych, a flynyddoedd wedyn, cynnal ein digwyddiad Born To Be Wide rhyngwladol cyntaf yn Ninas Mecsico. Mae’n gyfle gwych i ddod â Mecsico, yr Alban a Chymru ynghyd i osod y cerrig sylfaen ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.”

 

Mae’r Gronfa yn un o gyfres o gynlluniau sy’n golygu cydweithio rhwng asiantaethau a chynghorau celfyddydau pedair cenedl y DU. Yn eu plith mae’r cynllun peilot, Gwybodfan Celf y DU, sy’n rhoi cyngor i bobl am faterion ymarferol ym maes symudedd artistiaid, dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, ynghyd ag edrych ar ffyrdd cefnogol a mwy cynaliadwy o greu mentrau dwyochrog gyda nifer o wledydd Ewrop, fel y German Fonds SozioKultur.

 

Ar ran y bartneriaeth, meddai Paul BurnsCyfarwyddwr Dros Dro’r Celfyddydau ac Ymgysylltu yn Creative Scotland

“Mae cydweithio a chyfnewid rhyngwladol yn hanfodol er mwyn i syniadau newydd a chysylltiadau newydd rhwng cenhedloedd ffynnu. A hwnnw wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth ag asiantaethau a chynghorau celfyddydau’r pedair cenedl, bydd y cyllid peilot hwn yn galluogi artistiaid ac ymarferwyr creadigol drwy’r gwledydd i feithrin perthnasau newydd, datblygu arferion drwy rannu syniadau, edrych ar ffyrdd newydd o weithio, a chyrraedd cynulleidfaoedd newydd.   

“Cymunedau sy’n llywio diwylliant, ac er bod pwyslais rhyngwladol i’r prosiectau hyn, mae cymunedau’n ganolog iddyn nhw. Mae’r prosiectau’n rhoi cyfle pwysig i ymuno â’n cymheiriaid rhyngwladol i edrych ar faterion cyfoes ein hoes, o gynaliadwyedd amgylcheddol a chyfiawnder cymdeithasol i weithio mewn byd ar ôl y pandemig ac ar ôl i’r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.”