- Ysgrifennwyd gan Heledd Watkins

Mae'n rhywbeth mawr pan fo band annibynnol yn cael gwahoddiad i berfformio dramor. Ar y dechrau mae'n gyffrous y tu hwnt ac wedyn daw’r ymdeimlad o arswyd a phanig o ran y trefniadau: Sut gallwn ni ei ariannu? Pa offer gallwn ni ei gymryd? A allwn ni werthu nwyddau? Oes gennym ni 25 o addasyddion pŵer? A fydd sythwyr fy ngwallt yn gweithio mewn plygiau tramor? Mae'n lot i feddwl amdano, ond erbyn hyn rydym ni’n hen lawiau (wel, jyst â bod). Ac er bod Brexit yn creu pob math o broblemau annisgwyl i fandiau y dyddiau hyn, byddwn ni'n delio â'r rheiny fesul un gan beidio â mynd o flaen gofid. Ac nid canmol yr ydwyf ond dywedyd y gwir - mae HMS Morris wedi bod yn ddigon ffodus i arddangos yn Toronto ddwywaith (Wythnos Indi ac Wythnos Gerddorol Canada), Montreal unwaith (Pop Montreal) a thaith a weddnewidiodd ein bywyd i Siapan yn 2019 ar gyfer Wythnos Gerddorol Cansai a digwyddiadau o gwmpas Cwpan Rygbi'r Byd - diolch enfawr i Ffocws Cymru, Sefydliad PRS a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru am ein helpu i fynd iddynt. Mae'r teithiau hyn yn gymysgedd o bleser (cynulleidfa newydd, gwlad newydd, bwyd newydd) a phryder - sut mae cael y gorau o’r daith? Pa gysylltiadau y gallwn ni eu gwneud? A allwn ni fachu cytundeb recordio neu asiant archebu i’n cefnogi? A ninnau’n fand annibynnol, cymharol newydd, roeddem yn ymdaflu i’r gagendor cerddorol heb hyd yn oed sylweddoli ar y cychwyn ei fod yn bodoli! Mae hyn, wrth gwrs, yn gwneud y cyfan yn fwy gwefreiddiol. Mae'n ddechrau newydd sy’n cynnig pobl hollol newydd i glywed eich cerddoriaeth. Yn y bôn, drwy'r niwl trefniadol, rhaid i chi ei werthfawrogi a'i fwynhau. Mae'n fraint.

Roedd y daith i Wyl SUNS ym mis Tachwedd yn teimlo'n wahanol i'r teithiau blaenorol. Dyma oedd ein hantur Ewropeaidd gyntaf. Roeddwn i wedi bod ar deithiau Ewropeaidd o'r blaen fel cerddor sesiwn i fandiau eraill ond dyma'r tro cyntaf gyda'n band ni. Dyma hefyd ein profiad cyntaf o ŵyl ieithoedd lleiafrifol, y tro cyntaf i ni gael pwrpas ar wahân i geisio hyrwyddo ein cerddoriaeth dramor. Roeddem ni yno i gynrychioli'r Gymraeg ac i hybu ei sin gerddorol yn y ffordd orau bosibl. Roedd yn fwy felly na chynrychioli ein band, roedd yn fater o dynnu sylw at ein gwlad, y ffaith ein bod yn canu yn Gymraeg, bod yr iaith yn hip ac yn fyw a bod cymaint yn digwydd yng Nghymru. Cyn hynny mewn digwyddiadau y tu allan i Brydain (a hyd yn oed weithiau y tu allan i Gymru), rydym ni wedi teimlo fel creaduriaid rhyfedd sy’n siarad iaith od ond serch hynny’n gobeithio y bydd pobl yn ein derbyn gan feddwl ein bod yn bobl fach ddymunol ac eisiau ein cymryd adref gyda nhw. Ond yn SUNS am y tro cyntaf roeddem yn teimlo'n gyfforddus ac yn hyderus. Cyrhaeddom y gwesty i gael croeso twymgalon gan Gymro Cymraeg (Davyth Hicks o Rwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop). Roedd y derbyniad gwresog yn gysur mawr inni. Ond roedd hefyd yn eithaf swrreal. Rhaid talu teyrnged hefyd i’r bandiau Cymraeg a ymwelodd â'r ŵyl cyn hynny: Carwyn Elis, Adwaith, Sybs a rhagor a oedd wedi gosod y sylfeini fel petai. Y tro hwn felly neidiom ni nid i agendor diwaelod ond dim ond i ben dwfn y pwll nofio.

Aeth pethau ychydig yn fwy cymhleth wrth i'r ŵyl barhau a gwelsom ychydig yn fwy o gyd-destun ehangach yr ŵyl. Buom ni’n siarad mewn sawl cyfweliad am fywiogrwydd diwylliant y Gymraeg. Syndod o’r mwyaf oedd ymateb pob cyfwelydd. Ni, mae’n ymddangos, oedd yr unig fand a oedd yn sôn yn gadarnhaol am sefyllfa ei iaith. Roedd y gweddill yn gweld eu hieithoedd yn ymdrechu i oroesi os nad ar eu gwely angau gan ymladd brwydr anghyfartal yn erbyn pwysau’r Ieithoedd Mawr ar bob ochr. Fy ymateb cyntaf oedd dechrau cwestiynu  ein hagwedd ni. Oedden ni'n portreadu sefyllfa’r Gymraeg yn rhy obeithiol er mwyn ymddangos yn bobl hoffus a chadarnhaol? Oedden ni'n dal ynghanol yn feddw gan fwrlwm Yma o Hyd yn Nhachwedd 2022? Ond sylweddolais, er tegwch nad oedden ni. Dwi ddim wedi clywed yr iaith yn cael ei disgrifio fel un farw (gan unrhyw un o Gymru) ers i mi fod yn yr ysgol uwchradd ugain mlynedd yn ôl. A thrist oedd cael fy atgoffa o naws anobeithiol y dyddiau hynny a chael gwybod mai dyma sut roedd ein cyd-gerddorion yn teimlo am eu hieithoedd yn awr. Roeddwn i hefyd yn teimlo ychydig o gywilydd am sbel am fod mor annioddefol o gadarnhaol – roedd yn tanseilio ein delwedd gŵl am un peth! – ond roedd rhaid cael y maen i’r wal a pharhau i gynrychioli’n gadarnhaol ddiwylliant a oedd yn ffynnu. Felly ymlaen â ni gan sgipio’n ddibryder ar hyd coridorau hardd Teatro Nuovo Giovanni da Udine (a oedd gyda llaw yn lle gogoneddus gyda llwyfan hardd inni berfformio arno).

Cystadleuaeth yw rhan gerddorol yr ŵyl ar ffurf gyngerdd yn y theatr nos Sadwrn. Mae pob band yn perfformio tair cân. Mae’n fath ar Eurovision chwaethus i’r ieithoedd lleiafrifol heb y sylwebaeth wawdlyd (y gwelais ei heisiau mewn gwirionedd). Roedd amrywiaeth mawr o fandiau ac artistiaid, o driawdau soddgrwth (Violoncelli Itineranti o Slofenia) i werin arbrofol (Ealûs o Sardinia) a phop calon agored (Olatz Salvador o Wlad y Basg).  Mwynhaodd y gynulleidfa yn arw. Nid oedd yn glir o gwbl pan gawsom y gwahoddiad mai cystadleuaeth oedd y digwyddiad ond wedi sgwrs gyda'r trefnydd Leo Virgili daethom i ddeall y rhesymau pam. Esboniodd nad oedden nhw mewn gwirionedd am i'r digwyddiad fod yn un cystadleuol. Yr unig nod gwreiddiol oedd dathlu ieithoedd lleiafrifol a chwrdd ag eneidiau hoff gytûn. Ond methon nhw ddal sylw'r wasg heb fod min cystadleuol i’r digwyddiad. Roedd yn well gan y cyfryngau weld pobl yn brwydro yn erbyn ei gilydd na gweld  seiat sidêt. Felly os mai dyna oedd y ffordd fwyaf effeithiol o godi proffil ein hieithoedd, dyna a wnaethant, er gwaethaf natur gariadus yr ŵyl.

Diflannodd fy amheuon am natur y gystadleuaeth mewn chwinciad chwannen pan enillom ni wobr y panel! Mae cael eich  gwerthfawrogi gan bobl sydd erioed wedi clywed smic amdanom yn golygu llawer. A chawsom ein barnu ar sail ein perfformiad yn unig ac nid ar gownt ein proffil ar y cyfryngau cymdeithasol neu nifer o weithiau a chwaraewyd ein recordiau ar Radio 1 ac ati, ac ati. Perfformio yw'r hyn rydym ni'n ei garu fwyaf fel band. A'r noson honno ein perfformiad a gipiodd y wobr. Mae cerflun y wobr ei hun wedi’i gwneud â llaw ac erbyn hyn mae’n teyrnasu ar ben y bwyler yn ein tŷ ni. Digon posibl y byddaf yn gadael i aelodau eraill o’r band ei fenthyg am ychydig - ond dim eto).

Gwnaethom ni ffrindiau mawr yn ystod y penwythnos yn Udine. Roeddem ni'n falch hefyd o sut y cynrychiolom ni Gymru i'r byd. Hyd yn hyn dyma fy hoff daith dramor gyda’r band. Weithiau, er gwaethaf y gwaith caib a rhaw yn y teithio yma, mae’n rhaid ymadael â’ch cartref i werthfawrogi’r hyn sydd gennych yma. Cymro gorau, Cymro oddi cartref, ynte? Diolchwn i bawb sy'n gysylltiedig â threfnu gŵyl SUNS ac rydym yn gobeithio teithio yn ôl i Udine eto'n fuan.

Am y flwyddyn nesaf byddwn ni gartref yn paratoi at ryddhau ein halbwm newydd. Ond ar ôl hynny dwi'n siŵr y byddwn ni'n cynllunio antur ein taith dramor nesaf.


 

SUNS yw gŵyl Ewropeaidd y celfyddydau perfformio mewn ieithoedd lleiafrifol. Dechreuodd yr ŵyl yn 2009 fel cystadleuaeth gerddool i gymunedau lleiafrifol yn Ewrop Alpaidd-Môr y Canoldir. Erbyn hyn mae'r ŵyl wedi datblygu'n lle cwrdd a chyfnewid rhwng artistiaid sy’n siarad ieithoedd lleiafrifol Ewrop.

Rhagor o wybodaeth a gwefan yr ŵyl yma.