Cyn y pandemig, byddwn i’n ymweld yn aml ag India, a gogledd-ddwyrain y wlad yn enwedig. Dechreuodd fy nghysylltiad â rhanbarth Meghalaya a chymuned frodorol Khasi yn 2016 pan ddechreuais weithio ar PhD fel rhan o brosiect ymchwil ym Mhrifysgol De Cymru. Gan ddefnyddio ymarfer creadigol, nod y prosiect oedd dechrau deialog rhwng artistiaid o Gymru a Bryniau Khasi fel ffordd o edrych ar y cysylltiad hanesyddol rhwng y ddwy gymuned. Mae gwreiddiau’r berthynas hon i’w canfod yng nghenhadaeth y Calfiniaid Cymreig a oedd yn weithgar yn y rhanbarth rhwng 1840 a 1969. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae’r prosiect wedi ehangu y tu hwnt i’r maes academaidd, gan greu Performing Journeys; cynhyrchiad theatr sydd wedi bod ar daith yn India a Chymru, ac albwm cerddorol gan y Khasi-Cymru Collective sydd wedi’i seilio ar draddodiadau gwerin Cymru a phobl Khasi.

Y tro diwethaf imi ymweld ag India oedd ym mis Chwefror 2020, fel cyfarwyddwr cerddorol Performing Journeys. Artistiaid o Gymru a Bryniau Khasi oedd y cast, ac fe wnaethon ni chwarae i gynulleidfaoedd yn Kolkata, Delhi Newydd, Jowai a Shillong. Prin y gwyddwn ni y byddai’n rhaid i bethau ddod i stop am y ddwy flynedd nesaf wrth i’r byd frwydro yn erbyn Covid-19. Yn ystod y pandemig, fe geisiais gadw mewn cysylltiad â’r gymuned Khasi, gan gysylltu’n rheolaidd ag artistiaid o’r gydweithfa a chydweithio ar-lein gyda’r bardd a’r berfformwraig Khasi, Lapdiang Syiem.

Ar yr un pryd, roeddwn i’n meithrin cysylltiad newydd â Gŵyl Werin Ryngwladol Jodhpur Rajasthan (Jodhpur RIFF) gyda chymorth y British Council. Gan fod teithio yn rhyngwladol yn amhosibl, symudodd y prosiect hwn ar-lein hefyd, gan ddatblygu yn gywaith ag Asin Khan Langa, cantor rhyfeddol a maestro Sarangi o gymuned Langa yng Ngorllewin Rajasthan. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae Asin a minnau wedi bod yn cydweithio dros WhatsApp, gan rannu fideos a chlipiau sain o’n cerddoriaeth a chwilio am ffyrdd o ddod â’n traddodiadau ynghyd.

Pleser mawr oedd gallu dychwelyd o’r diwedd i India eleni, er mwyn ailgysylltu â’r Khasi-Cymru Collective a derbyn cynigion i berfformio mewn nifer o wyliau cerddorol yn India, gan gynnwys Jodhpur RIFF. Yn gyntaf, fe deithiais i Manipur i berfformio yng ngŵyl ‘Where Have All The Flowers Gone?’, sef gŵyl o gerddoriaeth brotest yn Phayeng ar gyrion Imphal.

Ymunodd dau aelod o’r Khasi-Cymru Collective â mi ar y llwyfan; y bardd Lapdiang Syiem a’r offerynnwr amryddawn Apkyrmen Skhem. Roedd yn braf iawn gallu perfformio gyda’n gilydd drachefn, ac roeddwn i’n hynod o falch pan wnaethon ni gloi’r set gyda cherdd rymus Lapdiang, ‘I’r dynion â geiriau casineb yn eu genau’. Roedd yn rhyfeddol dysgu am y diwylliant Manipuri ac am waith cadwraeth mewn coedwigoedd gan Loiya Moirangthem a Chaoba Thiyam, a roddodd groeso cynnes iawn inni. Roedden ni hefyd yn lwcus iawn i gael blasu rhywfaint o fwyd blasus Manipuri diolch i goginio Purnima Yengkokpam a Kamlesh Khundrakpam.Diolch hefyd i Akhu am y gwahoddiad i chwarae!

O Manipur fe deithiais i Shillong i gwrdd drachefn â rhai o aelodau’r Khasi-Cymru Collective ac i ymarfer â Meban Lyngdoh cyn ein sioe yn Jodhpur. Cyn hir, fodd bynnag, roeddwn i’n teithio eto, y tro hwn i Ddyffryn Ziro yn Arunachal Pradesh. Mae Gŵyl Ziro wedi’i lleoli yn un o’r llefydd prydferthaf i gynnal unrhyw ŵyl y bûm ynddi erioed. Mae’n gorwedd ymhlith erwau o gaeau reis, gyda mynyddoedd uchel ar bob ochr. Mae’r olygfa a sŵn pobl frodorol Apatani yn cynaeafu reis yn y caeau yn gefnlen dawel, gyson i’r ŵyl, sy’n rhoi llwyfan i artistiaid amrywiol iawn o bob rhan o India a’r tu hwnt.   Roedd yn braf iawn perfformio caneuon o fy ngwaith fel artist unigol, yn ogystal â rhai o ganeuon y Khasi-Cymru Collective a hynny i gynulleidfa astud, gyda’r cefndir hyfryd hwnnw y tu ôl imi. Fe gefais i gyfle i wylio rhai o’r perfformwyr eraill hefyd, gan gael fy syfrdanu gan yr artist Manipuri, Mangka, a’i band gwych wrth iddyn nhw chwarae ar y prif lwyfan ar y nos Sadwrn. Mae angen gair am Radio Baghdad hefyd, roeddech chithau’n wych ar y llwyfan yn ystod y dydd! Fe ymunais i hefyd â William Rees, yr offerynnwr amryddawn sydd â chefndir Cymreig ac Americanaidd, gan fyrfyfyrio cân neu ddwy ar lwyfan y dydd a chyfuno fy duitara i â’i gyffyrddiadau arbrofol ar y fiola. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r British Council am fy ngwahodd i berfformio fel rhan o’i Dymor Diwylliant rhwng India a’r Deyrnas Unedig, a diolch o galon i Lubna Shaheen, Anup Kutty, Aido a thîm Ziro am roi lle imi ar y llwyfan!

O ddyffryn Ziro fe deithiais am 25 awr ar drenau, awyrennau a cheir, a hynny gan groesi India gyfan i Rajasthan, 1500 o filltiroedd i ffwrdd. Ym maes awyr Delhi Newydd, fe gwrddais â’r cerddorion Khasi, Dr Meban Lyngdoh, Risingbor Kurkalang, Amabel Susngi a Banshai Mukhim, ac fe wnaethon ni deithio gyda’n gilydd i Jodhpur. Pan ddechreuodd Divya Bhatia (Cyfarwyddwr Cerddorol Jodhpur RIFF) a minnau gydweithio yn 2020, un o’n prif amcanion oedd dod ag artistiaid Khasi i berfformio yn Jodhpur RIFF am y tro cyntaf. Fe deimlwn i’n emosiynol iawn wrth i’r freuddwyd hon ddod yn wir, o’r diwedd, ac wrth i rhythmau Khasi a llais swynol Amabel godi gyda’r wawr yn ystod yr arddangosfa ben bore yn Jodhpur RIFF, a’r haul yn graddol oleuo caer brydferth Mehrangarh yn y cefndir. Y diwrnod cynt, roedd sesiwn ryngweithiol wedi rhoi cyfle i gynulleidfa frwd ymgolli yng nghywreinrwydd cerddoriaeth a diwylliant gwerin Khasi.

Yn Jodhpur fe gefais gwrdd o’r diwedd ag Asin Khan Langa a chawson ni gyfle i jamio wrth hel syniadau yn y dyddiau cyn yr ŵyl. Fe gefais gwrdd hefyd â’r offerynwyr taro, Sadik Khan Dholak a Zakir Khan Langa, sydd gyda’i gilydd yn creu’r band gwerin cyfoes o Rajasthan, SAZ. Roedd yn bleser cyfansoddi rhai caneuon gyda’n gilydd a pherfformio ar y prif lwyfan yng nghaer Mehrangarh. Fe ddechreuais drwy berfformio ar fy mhen fy hun, i roi blas i’r gynulleidfa o rai fy hoff alawon Cymreig. Ymunodd Meban, Amabel, Rising a Banshai â mi ar y llwyfan wedyn i berfformio dwy o ganeuon y Khasi-Cymru Collective. Tro Sadik, Asin a Zakir (SAZ) oedd hi wedyn i ymuno â’r sioe. Fe wnaethon ni berfformio cân newydd sbon o’r enw ‘Atebion’ a threfniant newydd o’r gân werin ‘Kinji’, a finnau’n chwarae’r sielo, a oedd yn cyd-fynd yn dda â chwarae rhyfeddol Asin ar y sarangi.Dychwelodd cerddorion Khasi i’r llwyfan ar gyfer y gân olaf, gan gyfuno rhythmau Rajasthanaidd â churiadau Khasi a gitâr werin Gymreig. Roedd hon yn foment arbennig tu hwnt, ac yn well byth wrth glywed y bonllefau o gymeradwyaeth yn atseinio oddi ar waliau hynafol caer Mehrangarh am gryn amser wedyn.

Fe hoffwn i ddiolch i’r British Council, a gefnogodd y cydweithio â Jodhpur RIFF ac Asin Khan Langa drwy’r gronfa Connections Through Culture. Fe hoffwn i ddiolch hefyd i Celfyddydau Rhyngwladol Cymru am roi’r cymorth ariannol ar gyfer y daith a’r cydweithio byw. Diolch yn ogystal i Divya Bhatia am fod mor gadarnhaol gydol yr adeg, ac am gefnogi’r cydweithio hwn er gwaethaf y rhwystrau niferus rydyn ni wedi’u hwynebu dros y blynyddoedd diwethaf.  Diolch i’r holl gerddorion gwych a gymerodd ran yn y daith, a diolch i’ch talent a’ch haelioni chi y cafodd y gerddoriaeth hon ei chreu a’i rhannu â’r byd. Fe gymerodd sbel, ond fe ddigwyddodd o’r diwedd, a gobeithio nad ydw i’n ymffrostio gormod wrth ddweud: roedd hi’n werth aros.