- Ysgrifennwyd gan Cheryl Beer

​Yn 2022, cefais fy newis i ymuno â grŵp o artistiaid sain o bob cwr o'r byd gan yr Helmholtz Institute for Functional Marine Biodiversity yn yr Almaen, gan weithio o bell gyda recordiadau a wnaed gan wyddonwyr yn Antarctica. Derbyniais recordiad o forfil danheddog ar ei ben ei hun, yn galw o'r capiau iâ sy'n toddi. Cefais fy nghyffroi'n ddwfn gan yr union syniad a dechreuais ymchwilio i fywyd ysgol o forfilod danheddog.

Pan fyddan nhw gyda'i gilydd, maent yn cyfathrebu drwy gyfres o chwibanau er mwyn cadw'n agos. Mae'n ffordd dreiddgar, breifat o gyfathrebu am nad yw'r seindonnau'n teithio'n bell. Mae'n fwy hysbys eu bod hefyd yn defnyddio galwadau pwls. Mae gan bob ysgol ei thafodiaith ei hun – mae'r recordiad roeddwn yn gweithio gydag ef, y galwad pwls, yn ymestyn am filltiroedd ar draws y cefnfor i gysylltu â'i ysgol ei hun. Pa neges fyddai'r morfil danheddog hwn yn ei hanfon at ei gymuned o'r capiau iâ sy'n toddi – neu hyd yn oed, atom ni? Mae'r ateb i minnau'n syml ac eto'n ingol, rhybudd, seiren, gweddi?

Oherwydd y namau ar fy nghlyw, roedd yn anodd i mi weithio gyda sŵn morfil danheddog, felly penderfynais drosi'r recordiad yn seindonnau gweledol. Wedi'r cyfan, y seindonnau hyn sy'n hwyluso chwibanau a phylsiau'r morfil danheddog. Pan edrychais ar alwad pwls morfil danheddog yn weledol, gallwn weld bod yr hyn sy'n ymddangos fel sŵn i ni, yn cynnwys nifer o ddirgryniadau amrywiol ar wahanol lefelau mewn gwirionedd. Golygais y rhain i’w troi’n synau neu leisiau gwahanol a'u defnyddio i gyfansoddi'r gelf sain yn fy stiwdio. Mae'r recordiad sain isod yn rhoi dealltwriaeth well i chi ac yn eich galluogi i glywed y darn.

Mae Cheryl Beer yn artist sain amgylcheddol gyda nam ar ei chlyw. Ar gyfer ei phrosiect arloesol Cân y Coed, ail-bwrpasodd Cheryl ei chymhorthion clyw a thechnoleg sain biofeddygol sensitif i recordio biorhythmau mewnol coedwigoedd glaw hynafol Cymru, a’u troi'n sain ddigidol a gweledol i greu profiadau dwfn.