Bore coffi nesaf Gwybodfan Celf y DU yw: 

9:30am GMT | 10 Medi 2024 

Pwnc: Egluro trefniadau ffiniau newydd yr Undeb Ewropeaidd; System Gwybodaeth ac Awdurdodi Teithio (ETIAS) a system Mynediad/Ymadael (EES)

Cyfranwyr gwadd:  Anita Debaere, Cyfarwyddwr PEARLE* – Live Performance Europe 

 

Ydych chi’n bwriadu ymweld ag unrhyw le un yr UE (Undeb Ewropeaidd), ar gyfer gwaith neu hamdden? Ydych chi’n ymwybodol o’r gofynion newydd sy’n dod i rym ar gyfer rhai ymwelwyd â’r UE? 

Ydych chi’n gwybod sut y byddd ETIAS ac EES yn gweithio’n ymarferol a sut y byddant yn effeithio ar eich cynlluniau fel artistiaid a sefydliadau teithiol?  

Ymunwch â ni ar gyfer ein bore coffi ar-lein nesaf lle bydd Anita Debaere, Cyfarwyddwr PEARLE*, yn ymuno â ni, bydd hi’n mynd â ni drwy’r systemau newydd hyn, sut maen nhw’n gweithio, ar bwy maent yn effeithio arnynt a sut i wneud cais am un.  

Mae ETIAS ac EES yn ofynion newydd ar gyfer teithio i Ewrop a gyflwynwyd gan yr UE. Nid oes un ohonynt ar waith eto, ond maent yn systemau newydd y mae angen i unrhyw un sy’n teithio i'r UE fod yn ymwybodol ohonynt a dechrau meddwch amdanynt yn rhan o gynlluniau teithio i'r UE yn y dyfodol. Disgwylir i ETIAS gael ei gyflwyno yn ystod hanner cyntaf 2025.  

Mae awdurdodiad teithio ETIAS yn ofyniad mynediad ar gyfer gwladolion sydd wedi’u heithrio rhag fisa, sy’n teithio i unrhyw un o’r 30 gwlad Ewropeaidd hyn (a restrir ar wefan swyddogol yr UE). Mae’n gysylltiedig â phasbort teithiwr ac mae’n ddilys am hyd at dair blynedd neu nes y daw’r pasbort i ben, pa bynnag un sy’n dod gyntaf. Gydag awdurdodiad teithio dilys gan ETIAS gallwch fynd i mewn i diriogaeth y gwledydd Ewropeaidd hyn mor aml ag y dymunwch ar gyfer arosiadau tymor byr – fel arfer am hyd at 90 diwrnod mewn unrhyw gyfnod o 180 diwrnod. Fodd bynnag, nid yw’n gwarantu mynediad. Pan gyrhaeddwch, bydd swyddog ffin yn gofyn am gael gweld eich pasbort ac unrhyw ddogfennau eraill ac yn gwirio eich bod yn bodloni’r amodau mynediad. Darllenwch mwy am ETIAS ar wefan swyddogol yr UE yma.  

Mae’r System Mynediad/Ymadael (EES) yn system TG awtomataidd ar gyfer cofrestru gwladolion o’r tu allan i'r UE sy’n teithio am arhosiad byr, bob tro y byddant yn croesi ffiniau allanol gwledydd Ewropeaidd gan ddefnyddio’r system. Mae hyn yn ymwneud â theithwyr sydd angen fisa arhosiad byr a’r rhai nad oes angen fisa arnynt. Mae EES yn disodli stampio pasbort ac yn awtomeiddio gweithdrefnau rheoli ffiniau, gan wneud teithio i wledydd Ewropeaidd yn fwy effeithlon i'r teithiwr. Mae EES hefyd yn ei gwneud hi’n haws adnabod teithwyr nad oes ganddynt hawl i ddod i mewn neu sydd wedi aros yn y gwledydd Ewropeaidd gan ddefnyddio’r EES yn rhy hir. Mae’r EES yn berthnasol i chi os ydych chi’n ddinesydd o’r tu allan i'r UE sy’n teithio i wlad Ewropeaidd am arhosiad byr o hyd at 90 diwrnod o fewn unrhyw gyfnod o 180 diwrnod. Mae’n bwysig cofio bod y cyfnod o 90 diwrnod mewn unrhyw 180 diwrnod yn cael ei gyfri fel un cyfnod ar gyfer yr holl wledydd Ewropeaidd sy’n defnyddio’r EES. Bydd yr EES yn dod yn weithredol yn ystod hydref 2024. Darllenwch mwy yma.  

Yn ystod y sesiwn byddwch yn dod i wybod am y systemau newydd hyn a beth sydd angen i chi wneud fel artist wrth deithio i wledydd Ewropeaidd unwaith y bydd y systemau hyn wedi’u cyflwyno. Bydd cyfle hefyd i ofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych ar y diwedd. Rydym yn eich annog i gyflwyno unrhyw gwestiynau sydd gennych ymlaen llaw yn y ffurflen gofrestru.  

Bydd y sesiwn yma yn cael ei recordio a bydd adnoddau’n cael eu rhannu wedyn.  

Roedd Anita Debaere yn gweithio yn y sector gerddoriaeth cyn ymuno â PEARLE*.  

Mae PEARLE* - Live Performance Europe, yn sefydliad di-elw rhyngwladol sy’n cynrychioli buddiannau cymdeithasau cyflogwyr yn y sector perfformio byw ar lefel Ewropeaidd, yn ogystal â rheolwyr diwylliannol a sefydliadau unigol sy’n trefnu digwyddiadau byw fel cyngherddau neu berfformiadau, neu’n rheoli lleoliad, theatr neu neuadd gyngerdd. Maent yn eiriolwyr ar ran eu haelodau dros amgylchedd ffyniannus i Sefydliadau Perfformio Byw yn Ewrop a thu hwnt, maent ar flaen y gad o ran datblygiadau polisi Ewropeaidd sy’n effeithio ar y sector.