Bore coffi nesaf Gwybodfan Celf y DU yw: 

2:00yp amser y DU | 02 Ebrill 2025 

Pwnc: 

Gweithio a Theithio yn Unol Dalaethiau America (UDA)

Cyfrannwr gwadd nesaf yw: 

Matthew Covey – Cyfarwyddwr Gweithredol Tamizdat 

 

Oes gennych chi gynlluniau ar gyfer teithiau a gweithgareddau yn yr UDA? Ydych chi wedi teithio neu weithio yno o’r blaen? Ydych chi’n teimlo’n barod neu oes gennych chi gwestiynau yr hoffech atebion iddynt?   

Yn ein bore (prynhawn) coffi nesaf bydd Matthew Covey, cyfreithiwr a Chyfarwyddwr Gweithredol Tamizdat, sy’n hwyluso ac yn eiriolwyr dros symudedd artistiaid rhyngwladol a chyfrennid diwylliannol, yn ymuno â ni. Tamizdat yw Pwynt Gwybodaeth Symudedd yr UDA ac maent yn aelodau o rwydwaith Pwyntiau Gwybodaeth Symudedd On The Move, fel ni.   

Ymunwch â ni i ddeall yn well ymarferoldeb yr hyn sydd ei angen arnoch i gael mynediad a theithio America o ran fisas, gan gynnwys unrhyw faterion cyfredol a newidiadau diweddar i fod yn ymwybodol ohonynt.   

Efallai y bydd gan rhai cwestiynau, neu bryderon, neu eisiau darganfod mwy cyn i chi ddechrau cynllunio eich taith.   

Bydd y sesiwn hon yn ddefnyddiol i unrhyw sefydliadau celfyddydau perfformio (theatr, dawns, cerddoriaeth ac ati) ac artistiaid unigol sydd wedi ymrwymo i, cynllunio neu sydd â diddordeb mewn teithio o amgylch UDA. Mae croeso i bawb; ond mae wedi’i anelu’n fwy penodol at artistiaid a sefydliadau sydd â pheth gwybodaeth am system fewnfudo America. Bydd y tudalennau hyn yn rhoi trosolwg i chi o’r system fewnfudo ac mae’n lle da i ddechrau cyn dod i'r sesiwn.   

Bydd digon o gyfle i ofyn cwestiynau yn dilyn trosolwg byr gan Matthew, ac rydym yn eich annog i gynnwys unrhyw gwestiynau sydd gennych fel rhan o’r broses gofrestru neu drwy eu hanfon yn uniongyrchol atom ar e-bost (infopoint@wai.org.uk) fel y gallwn deilwra’r sesiwn cymaint â phosibl i'ch anghenion.   

Bydd y sesiwn hon yn cael ei recordio, a bydd adnoddau’n cael eu rhannu ar y wefan.