Mae WOMEX (Worldwide Music Expo) 2022 yn digwydd rhwng 19-23 Hydref yn Lisbon, Portiwgal. Mae'r ŵyl yn un o'r cynulliadau fwyaf y diwydiant cerddoriaeth fyd-eang ac yn cynnwys ffair masnach, cynhadledd ryngwladol, a rhaglen o gyngherddau arddangos.

Tŷ Cerdd, Trac Cymru a Celfyddydau Rhyngwladol Cymru a fydd yn rheoli presenoldeb Cymru yn y digwyddiad - gan gynnwys stondin Cymru yn yr expo o dan frand Horizons DU & Iwerddon. Gyda chefnogaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, mae Tŷ Cerdd yn cynnig bwrsariaethau er mwyn cefnogi sefydliadau ac unigolion wedi'i seilio yng Nghymru i fynychu fel dirprwyon.

Ymunwch â sesiwn gwybodaeth ar-lein am 5pm ar 19 Gorffennaf i ddysgu mwy am y fwrsariaeth a'r gynhadledd. Cofrestrwch ar gyfer y sesiwn yma.