Mae digwyddiad newydd Cefndryd Celtaidd (Celtic Cousins) yn Showcase Scotland eleni, yn gyfle i arddangos cyfraniad y gall cerddoriaeth ei wneud i drosglwyddo ieithoedd Brodorol.
O dan arweiniad Celfyddydau Rhyngwladol Cymru bydd y digwyddiad hefyd yn gyfle i amlygu pwysigrwydd cerddoriaeth yng Nghymru i gynulleidfa o Wyliau Celtaidd a rhyngwladol o led led y byd.
Mae Showcase Scotland, yr arddangosfa sy’n cyd-fynd â gŵyl Celtic Connections, yn dathlu’i phen-blwydd yn 25 oed eleni. Bydd y digwyddiad arbennig yn cael ei gynnal nos Sadwrn 25 Ionawr – sef Dydd Santes Dwynwen yng Nghymru, a Noson Burns yn yr Alban – gyda thri o artistiaid yn cael cyfle i berfformio yn eu hieithoedd Celtaidd Brodorol.
Y perfformwyr hynny yw Mared Williams, y gantores a’r gyfansoddwraig o Gymru; Kim Carnie – cantores a chyfansoddwraig o’r Alban, a Padraig Jack – canwr a chyfansoddwr o Iwerddon.
Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sef asiantaeth ryngwladol Cyngor Celfyddydau Cymru, sy’n arwain y prosiect, a hynny gyda chefnogaeth Showcase Scotland, Llywodraeth Cymru, Culture Ireland a Creative Scotland.
Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal ar drothwy degfed pen-blwydd Dydd Miwsig Cymru, sef cynllun i ddathlu cerddoriaeth Gymraeg yn ei holl amrywiaeth.
Meddai Bethan Webb, Dirprwy Gyfarwyddwr y Gymraeg yn Llywodraeth Cymru:
“Mae cerddoriaeth yn rhan hollbwysig o’n polisi i greu miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae cerddoriaeth yn gwneud yr iaith yn berthnasol. Mae’n helpu pobl i’w gweld hi fel rhywbeth mwy nag iaith academaidd, ac yn hytrach fel ffordd o fyw. Mae cerddoriaeth yn gallu creu cysylltiad emosiynol grymus ag iaith a diwylliant, a hynny’n creu cwlwm personol cryf.
Mae Dydd Miwsig Cymru yn dathlu’r deg eleni, carreg filltir rydyn ni’n falch dros ben ohoni. Ac mae dathlu cerddoriaeth Gymraeg yn rhan bwysig o ddyddiadur Cymru erbyn hyn.
Hoffwn i ddymuno pen-blwydd hapus iawn i’r ŵyl arddangos anhygoel hon. Mae’n gyfle gwych i adrodd stori Cymru ac i ddysgu am y cyfleoedd i weithio gyda’r diaspora Celtaidd a threfnwyr gwyliau Celtaidd ym mhob cwr o’r byd, a hynny er budd ein holl ieithoedd brodorol.”
Celtic Connections yw’r ŵyl flynyddol yn Glasgow sy’n rhoi llwyfan i gerddoriaeth werin, cerddoriaeth wreiddiau a cherddoriaeth y byd, gan ddathlu cerddoriaeth Geltaidd a chysylltiad honno â diwylliannau yn y pedwar ban. Yn ogystal â pherfformio i’r cyhoedd yn yr ŵyl, bydd Mared yn cael dangos ei doniau i drefnwyr rhyngwladol o bob cwr o’r byd yn Showcase Scotland, sy’n ddigwyddiad arbennig i’r diwydiant.
Meddai Mared:
“Mae’n anrhydedd cael rhoi amlygrwydd i gerddoriaeth Gymraeg y tu allan i Gymru. Mae cyfleoedd fel y rhain yn brin, felly bydd hi’n gyffrous tu hwnt perfformio yn Glasgow a chyfarfod â cherddorion eraill a chynrychiolwyr sy’n ymroi i greu cysylltiadau rhwng artistiaid Celtaidd. Dyma’r tro cyntaf i mi berfformio yn Glasgow, heb sôn am berfformio yng ngŵyl wych Celtic Connections. Roeddwn i’n teimlo’n gyffrous dros ben wrth weld y rhestr o holl berfformwyr yr ŵyl, a gweld rhai artistiaid cyfarwydd o Gymru yn eu plith! Rydw i’n edrych ymlaen yn arw at ddathlu Dydd Santes Dwynwen a Noson Burns ar yr un pryd!”
Fel rhan o Ddegawd Ieithoedd Brodorol y Cenhedloedd Unedig, mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru wedi bod yn cefnogi artistiaid yng Nghymru i wrando ar artistiaid ac ieithoedd Brodorol, ac i greu cysylltiadau â nhw.
Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru:
“Yn ddiweddar, fe groesawon ni artistiaid Brodorol blaenllaw o Ogledd Ynys y Crwban, neu Canada fel mae’n cael ei galw, i Gymru. Roedd yn gyfle i artistiaid sy’n gweithio gydag ieithoedd a diwylliannau brodorol yn rhyngwladol ddysgu gan ei gilydd a chydweithio. Rydyn ni’n credu y gall canu fod yn ffordd rymus iawn o ysbrydoli pobl i ddefnyddio iaith. Mae’n ffordd o gadw’r cysylltiad â’u hynafiaid a chreu cysylltiad â chenedlaethau’r dyfodol. Mae ein hieithoedd Celtaidd mewn sefyllfaoedd bregus iawn, ond rydyn ni’n gwybod bod cerddoriaeth a’r celfyddydau’n gallu ysbrydoli siaradwyr a pherfformwyr y dyfodol, gan roi hyder a nerth i wybodaeth Frodorol.”
Mae Celfyddydau Rhyngwladol Cymru hefyd yn helpu artistiaid i fynd i gynhadledd y Folk Alliance International sy’n cael ei chynnal eleni yn Tiohtià:ke /Montréal, Quebec, ar diroedd brodorol sydd heb gael eu hildio. Cenedl y Kanien’kehá:ka (‘Mohawk’) yw ceidwad cydnabyddedig tiroedd a dyfroedd Tiohtià:ke (Montreal), lle bu nifer o genhedloedd brodorol yn byw, yn cwrdd ac yn cyfnewid nwyddau ers tro byd.
Yno, bydd Taff Rapids, band ‘blŵgras’ o Gaerdydd, ac Eve Goodman, cantores a chyfansoddwraig o’r gogledd, yn cael cyfle i berfformio fel rhan o arddangosfeydd ‘Amplified’ ac ‘Unplugged’ British Underground. Bydd Taff Rapids hefyd yn perfformio fel rhan o arddangosfeydd swyddogol Folk Alliance International.
Meddai Eluned Hâf:
“Drwy arddangos yn y Folk Alliance International, bydd cyfle i Taff Rapids gyrraedd cynulleidfaoedd yng ngogledd America gyda’u cerddoriaeth ‘blŵgras’ Geltaidd sy’n pontio’r Iwerydd. Mae’n gyfle i uno Cymru a Chanada drwy gerddoriaeth, ac yn gyfle i’r band gysylltu â gwyliau a threfnwyr.
Mae hi wir yn werth clywed llais tyner Eve Goodman a’i halawon gwerin Cymraeg hudolus. Rydyn ni hefyd yn edrych ymlaen at barhau i archwilio a all caneuon achub iaith a diwylliannau Brodorol, a hynny drwy artistiaid Brodorol yn Tiohtià:ke/Montreal. Yn eu plith mae Siibii, a berfformiodd yng ngŵyl ieithoedd Brodorol Mawr y Rhai Bychain yng Nghymru yn ddiweddar. Rydyn ni’n falch o gefnogi pob math o gydweithio a chyfleoedd i feithrin perthnasau rhwng y celfyddydau yng Nghymru, Quebec a Chanada, a dyma ddiolch i British Underground am y cyfle hwn ac i Lywodraeth Cymru am barhau i’n cefnogi.”
Celtic Connections: Mae tocynnau i Celtic Connections 2025 ar gael yn www.celticconnections.com
Dyma ffilm fer o'n digwyddiad Cylch Gwrando a Gŵyl Mawr y Rhai Bychain ym mis Hydref 2024