Bydd tair act gerddorol, dalentog o Gymru yn teithio i Glasgow yr wythnos hon i gynrychioli Cymru yn Showcase Scotland a Celtic Connections 2023, a hynny fel rhan o bartneriaeth ryngwladol rhwng Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Spectacle Vivant en Bretagne (EPCC) a Showcase Scotland.

Bydd yr artistiaid – sef y gantores a’r offerynwraig amryddawn o Fachynlleth, Cerys Hafana; y triawd gwerin siambr, VRï; a’r cantor gwerin Cymraeg, Gwilym Bowen Rhys, sy’n hanu o Fethel, Eryri – i gyd yn perfformio mewn digwyddiadau yn Celtic Connections rhwng 25 a 28 Ionawr 2023.

Byddan nhw hefyd yn cymryd rhan yn Showcase Scotland wrth i’r digwyddiad ddychwelyd am y tro cyntaf mewn dwy flynedd – gan roi llwyfan anhygoel i gerddoriaeth werin Cymru gerbron cannoedd o gynrychiolwyr y diwydiant cerddoriaeth rhyngwladol. Bydd yn gyfle hefyd i’r artistiaid ehangu eu rhwydweithiau a datblygu eu gyrfaoedd.

Mae cael rhannu’r sylw â Llydaw yn y digwyddiadau Celtaidd pwysig hyn yn gyfle nodedig i Gymru, gan fod hynny hefyd yn cyd-fynd â dechrau ‘Blwyddyn Cymru yn Ffrainc’ Llywodraeth Cymru. Bydd Celfyddydau Rhyngwladol Cymru yn arwain rhaglen ddiwylliannol fel rhan o’r flwyddyn hon, gan godi pontydd rhwng Cymru a Ffrainc a dathlu’r cysylltiadau diwylliannol rhwng ein dwy genedl drwy gydol 2023 a’r tu hwnt.

Mae’r digwyddiad a rennir eleni yn adeiladu ar Digital Spotlight on Wales in 2022  a oedd yn cynnwys Eve Goodman, Pedair, Cynefin, The Trials of Cato, NoGood Boyo a N’famady Kouyaté – i gyd wedi’u ffilmio mewn lleoliadau godidog ledled Cymru.

Meddai Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon: "Rhennir cysylltiadau Celtaidd Cymru ac, fel ein chwaer-genhedloedd Celtaidd eraill, maent yn unigryw ac yn amrywiol. Mae'r arddangosfa hon yn gyfle i ddarganfod a syrthio mewn cariad â'n cerddoriaeth, ein traddodiadau, a'n cydweithrediadau cyfoes â diwylliannau eraill. Hoffwn estyn fy niolch i Lydaw am gytuno’n hael i rannu ffocws y wlad eleni, wrth inni edrych ymlaen at Flwyddyn Cymru yn Ffrainc 2023. Gwyddom y gwerth y mae cydweithio ar draws diwylliant yn ei roi i gymdeithas, economi, a diwylliant Cymru ac rydym yn awyddus i rannu Cymru gyda'r byd hefyd."

Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru: “Rydyn ni’n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd i Glasgow yn bersonol eleni ar gyfer Showcase Scotland yn Celtic Connections. Rydyn ni wrth ein boddau i gefnogi’r tri artist ardderchog yma wrth iddyn nhw gymryd y camau nesaf yn eu gyrfaoedd cerddorol. Mae pob artist yn trin traddodiadau gwerin poblogaidd Cymru a’r Gymraeg mewn ffordd gyffrous a byw. Byddwn hefyd yn hyrwyddo’r artistiaid dawnus ac amrywiol o ddigwyddiad 2022 nad oedd, yn anffodus, yn un bersonol oherwydd Covid. Mae digwyddiad eleni yn un arbennig iawn gan y byddwn yn rhannu’r chwyddwydr gyda’n ‘chwiorydd Celtaidd’ o Lydaw wrth i ni gychwyn ar Flwyddyn Cymru yn Ffrainc.”

Meddai Lisa Whyttock, Cynhyrchydd Gweithredol Showcase Scotland yn Celtic Connections: “Mae hi’n gyffrous iawn cael rhoi sylw i artistiaid o Gymru a Llydaw sy’n gefndryd ac yn gyfnitherod Celtaidd i ni. Bydd hynny’n digwydd wrth i gannoedd o brif wyliau a sefydliadau cerddorol y byd gyrraedd Glasgow i weld rhywfaint o dalent orau’r tair gwlad. Byddan nhw’n dod i ddarganfod, i archwilio ac i ddysgu am yr artistiaid, gan gael eu cyflwyno ar yr un pryd i’r berthynas gref sydd rhwng y tair cenedl.”

Dechreuodd y gwaith o chwilio am artistiaid i Spotlight Cymru Wales yn Showcase 2023 ym mis Gorffennaf 2022. Tŷ Cerdd oedd yn arwain y gwaith hwnnw, gyda chymorth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, Focus Cymru a Trac Cymru. Donald Shaw, Cynhyrchydd Creadigol Celtic Connections, wnaeth y dewis terfynol.

Y perfformwyr o Lydaw a gafodd eu dewis yw’r ddeuawd draddodiadol Thomas - Faure a’r pedwarawd Ffrengig 'Ndiaz; y pumawd merched, Kaolila; y pianydd, y gitarydd a’r gantores Faustine Audebert; a meistri diamheuol y llawr dawns Llydewig, Startijenn. Bydd y sefydliad celfyddydau Gaeleg, Ceol's Craic, hefyd yn cyflwyno’r triawd o gerddorion Llydewig penigamp, Fleuves.

Bydd Gwilym Bowen Rhys yn perfformio gyda Claire Hastings a Blood Harmony ar 25 Ionawr yn The Mackintosh Church. Meddai Gwilym Bowen Rhys: “Dwi wrth fy modd i gael dychwelyd i Glasgow i ganu yn Celtic Connections - mae’n un o fy hoff wyliau cerddoriaeth ac rwy’n teimlo’n ffodus iawn i fod yn rhan ohono eleni a gallu rhannu fy ngherddoriaeth efo chynulleidfa ehangach. Rwyf yn edrych ymlaen yn fawr at fwynhau perfformiadau gan yr artistiaid o Lydaw - mae gan Gymru a Llydaw gymaint yn gyffredin ond anaml iawn y cawn gyfle i rannu llwyfan fel hyn – felly mae bod yn rhan o’r bartneriaeth hon yn fraint enfawr.”

 

Bydd Cerys Hafana yn perfformio fel rhan o Celtic Odyssée and Fara ar 26 Ionawr yn y Glasgow Royal Concert Hall a gyda Catriona Price ar 27 Ionawr yn y Strathclyde Suite yn y Glasgow Royal Concert Hall. Meddai Cerys Hafana: “Fe ddes i i Celtic Connections am y tro cyntaf y llynedd, am benwythnos gwyllt gyda’r band gwerin Avanc, ac rwy’n edrych ymlaen yn arw at ddychwelyd eleni a chael treulio ychydig mwy o amser yn crwydro’r ŵyl a’r ddinas. Dyma fydd y tro cyntaf i mi chwarae fel artist unigol yn yr Alban, a galla i ddim aros i rannu fy ngherddoriaeth ryfedd ar y delyn deires gyda chynulleidfa Albanaidd, a rhyngwladol.”

 

Bydd VRï yn perfformio gyda Cara Dillon yn y New Auditorium yn y Glasgow Royal Concert Hall ar 28 Ionawr. Meddai Aneirin Jones o VRï, a astudiodd yn y Royal Conservatoire of Scotland: “Rydyn ni wrth ein boddau’n cael perfformio yn Showcase Scotland a Celtic Connections 2023. Mae Glasgow yn ddinas wych sydd â sîn gerddoriaeth arbennig, o ran cerddoriaeth draddodiadol a gwerin yn enwedig. Celtic Connections yw uchafbwynt y flwyddyn. Fe wnaethon ni chwarae yn yr ŵyl ddiwethaf yn 2019, fel rhan o gyngerdd ‘Calennig’ Gwyneth Glyn gyda Plu a Kizzy Crawford, ac fe gawson ni amser gwerth chweil. Mae cynifer o bethau cyffrous yn digwydd yn y byd cerddoriaeth draddodiadol yng Nghymru ar hyn o bryd – gartref a dramor – felly mae cynrychioli cerddoriaeth Cymru ar y llwyfan rhyngwladol pwysig hwn yn fraint enfawr i ni, a bydd cefnogi Cara Dillon, sy’n gantores fendigedig, yn un o uchafbwyntiau ein gyrfa.”

Bydd Celtic Connections 2023 yn para rhwng dydd Iau 19 Ionawr a dydd Sul 5 Chwefror 2023. Dilynwch y sgwrs yn @ccfest.

I weld y rhaglen ac i brynu tocynnau, ewch i: www.celticconnections.com