Wrth i dîm rygbi cenedlaethol dynion Cymru baratoi am gêm gogynderfynol Cwpan y Byd yn erbyn yr Ariannin y penwythnos hwn, mae artistiaid a chefnogwyr Cymru yn paratoi i ddathlu ar strydoedd Marseille.

Dros y mis diwethaf, mae dawnswyr a chantorion o Gymru wedi bod yn amlwg ar strydoedd Lyon, Naoned a Paris, gan annog cynulleidfaoedd newydd i ddarganfod doniau o Gymru. Bu Mace the Great, yr artist hip-hop, ac Adwaith, y band benywaidd o Sir Gâr, yn perfformio yn y Pentref Rygbi yn Paris. Aeth Qwerin, sy’n arbrofi’n gyfoes â dawnsio gwerin, i Paris a Lyon. Yno hefyd bu’r soprano Jessica Robinson a chôr Hafodwenog yn canu i godi’r hwyliau cyn y gêm yn erbyn Awstralia. 

Ym Mhentref Rygbi Marseille cyn y gêm, bydd Shân Cothi, y ddarlledwraig a’r soprano, yn perfformio Calon Lân, La Vie en Rose, a’i sengl newydd, Byd O Heddwch, a ryddhawyd fel Anthem Answyddogol Cwpan Rygbi’r Byd i ddathlu bod Cymru yn rhan o’r twrnament. Bydd Shân hefyd yn helpu’r côr fflachdorf nesaf, dan arweiniad aelodau Côr y Gleision, a gafodd gwmni cannoedd o gantorion yn Naoned wythnos diwethaf.

Meddai Shân Cothi, sy’n cyflwyno rhaglen foreol ar BBC Radio Cymru:

“Mae cerddoriaeth yn hwb i’r galon ac yn ffordd o gysylltu â phobl. Rwy’n edrych ymlaen yn arw at ymuno â’r fflachdorf o gantorion rydyn ni wedi’u gweld ar ein sgriniau o strydoedd Ffrainc. Yn ddiweddar, fe ganais i Anthem Answyddogol Cymru ar gyfer Cwpan Rygbi’r Byd, sef Byd o Heddwch. Fersiwn Gymraeg yw hon o’r gân ‘World in Union’. Rwy’n gobeithio canu honno mas yn Ffrainc.  Rydyn ni eisiau i holl gefnogwyr Cymru ymuno yn y canu yr wythnos hon a helpu Cymru i groesi’r llinell gais. Ac rwy’n gobeithio cwrdd â rhai o gefnogwyr yr Ariannin o Batagonia sy’n siarad Cymraeg hefyd!”

Hefyd yr wythnos hon, bydd Jukebox Collective, grŵp cymunedol o Gaerdydd sy’n gweithio gyda phobl ifanc, yn cynrychioli Cymru yn ystod y gêm gogynderfynol yng Nghwpan Rygbi’r Byd ym Marseille.  Gan berfformio ar strydoedd yr Hen Borthladd ym Mhentref Rygbi Swyddogol Marseille ar 14 Hydref, byddan nhw’n dawnsio fel rhan o “Raglen Ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc 2023”.

Bydd y perfformiad wedi’i gyfarwyddo gan Liara Barussi, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Creadigol Jukebox Collective, sy’n rhan o ‘Breaking Council’ tîm Prydain cyn Gemau Olympaidd Paris yn 2024. Bydd curiadau “Gorilla” gan Little Simmz yn cyd-fynd â’r cyfan – trac digyfaddawd, grymus am godi i’r brig. Bydd yr arddangosfa hon yn dangos pa mor unigryw yw’r holl ddawnswyr a’u doniau.

Bydd perfformiad Jukebox Collective yn rhoi llwyfan llawn egni i ddiwylliant y stryd. Bydd cynulleidfaoedd yn dyst i bob math o arddulliau dawnsio, o ‘breaking’ a ‘popping’ i hip-hop, a hynny gan griw anhygoel o ddawnswyr.

Mae ‘breaking’ yn arddull ddawnsio ddynamig a ddechreuodd yn yr Unol Daleithiau yn y 1970au. Mae’n tarddu o bartïon bloc y Bronx, sydd â’u gwreiddiau yn ddwfn yn niwylliant hip-hop. Mae’r brwydrau’n enwog am eu symudiadau acrobatig, eu troedwaith llawn steil, a seiniau DJs ac MCs.

Yn y 1990au, daeth ‘breaking’ i sylw rhyngwladol gyda chystadlaethau byd-eang, gan swyno cymunedau hip-hop a chynulleidfaoedd yn y pedwar ban. 

Gan siarad yn ystod yr ymarferion, meddai’r Cyfarwyddwr Liara Barussi:

“Rwy’n teimlo’n gyffrous dros ben bod Juekbox Collective wedi cael gwahoddiad i berfformio i gynulleidfaoedd yn Marseille.  Byddwn ni yn ein helfen yn y ddinas, sy’n gartref i hip-hop a chelfyddydau’r stryd yn Ffrainc. Bydd cefnogi Tîm Cymru eleni yn brofiad bythgofiadwy i’n pobl ifanc. Rydyn ni’n edrych ymlaen at brofi’r ddinas ac at feithrin perthnasau newydd cyn y Gemau Olympaidd y flwyddyn nesaf, wrth i ddawnsio ‘breaking’ ymddangos am y tro cyntaf.”

Meddai Eluned Hâf, Pennaeth Celfyddydau Rhyngwladol Cymru, sy’n arwain rhaglen ddiwylliannol Cymru yn Ffrainc:

“Pan fydd Cymru’n chwarae, bydd y cefnogwyr yn tyrru i’r strydoedd i godi llais, a bydd côr yn y stadiwm yn codi’r canu yn y dorf, sy’n hwb a hanner i’r tîm, fel y gwelson ni ac fel y clywson ni yn Lyon. Ymunodd cefnogwyr â’r côr i ganu Calon Lân, ac eiliadau wedyn roedd Gareth Davies yn sgorio’r cais cyntaf yn erbyn Awstralia. Fel y dywedodd ei fam-gu wedyn – y canu a roddodd hwb i’r cefnogwyr ac i’r tîm.”

Meddai Andrew Ogun, sy’n Asiant er Newid yng Nghyngor Celfyddydau Cymru:

“Mae’n gyffrous iawn bod Jukebox yn cynnig cyfleoedd i bobl ifanc o Gaerdydd weithio a phrofi bywyd yn Ffrainc. Mae ‘breaking’ yn taro tant â phobl ledled y byd, a hynny fel ffurf gelfyddydol a bellach fel chwaraeon Olympaidd. Mae’n wych cysylltu pobl ifanc ddawnus Cymru â’r cyfleoedd sydd o’u blaenau, ac ar yr un pryd, mae’n wych rhannu hanes dwy ddinas sy’n borthladdoedd – dinasoedd y mae mudo wedi cael dylanwad mawr ar eu diwylliant. Rwy’n teimlo’n gyffrous wrth feddwl am y cysylltiadau a fydd yn cael eu creu gan yr ymweliad hwn, a pha mor berthnasol yw ‘breaking’ a hip-hop o Gymru yn rhyngwladol.”

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan mai 2023 yw “Blwyddyn Cymru yn Ffrainc” er mwyn dathlu a chryfhau’r cysylltiadau rhwng y ddwy genedl ym mhob sector. Wrth i Ffrainc gynnal Cwpan Rygbi’r Byd yr hydref hwn, a’r Gemau Olympaidd a’r Gemau Paralympaidd yn Paris yn 2024, mae Tîm Cymru yn uno i godi proffil Cymru – a hynny yn Ffrainc ac ar y llwyfan rhyngwladol ill dau.

Bydd cyfleoedd am gyfweliadau gyda Jukebox a Shân Cothi yn Pentref Rygbi Quai de la Fraternité (on Vieux Port), Marseille lle byddant yn perfformio yr amseroedd hyn:

Sadwrn 14 Hydref:  

Sul 15 Hydref:    

11h – 11:10h – Jukebox 

11h – 11h10 – Jukebox 

11:30h – 12:00h – Shan Cothi

15h – 15:10h – Jukebox 

13:30h – 13:40h – Jukebox 

 

 

Cyswllt:    

Tim Powell (yn Marseilles) +44 7939571553

Siwan Dafydd +44 7903876416

Eluned Haf +44 7834458501